CSI Llambed
O roi llawysgrif enwog ‘gwaed y mynaich’ o dan y microsgop fe welwch eurddalen debyg i frychni bach ym mandyllau’r croen llo y’i hysgrifennwyd arno. Tystia’r brychni hwn i’r ffaith mai llawysgrif a addurnwyd yn gain oedd hon yn wreiddiol.
Rywbryd yn ystod ei hir oes faith – mae’n debyg y'i hysgrifennwyd yn ystod teyrnasiad y Brenin Rhisiart Lewgalon neu'r Brenin Ioan sy'n enwog oherwydd y Magna Carta – ysbeiliwyd y llawysgrif o’i hadrannau mwyaf addurnedig, i'w gwerthu, fwy na thebyg, i gasglwyr cyfoethog fel gweithiau o gelf ar wahân.
Ymchwilio fforensig o’r math hwn sy’n datgelu sut yr ymddangosai llawysgrifau a llyfrau yn wreiddiol. Mae’n datgelu hanes unigol gweithiau penodol ac agweddau eu gwneuthurwyr a’u perchnogion. Hwn yw’r math o waith ditectif y gallwch ei wneud yn LlARB.
RBLA
Mae rhyw 35,000 o lawysgrifau, traethodynnau, pamffledi, mapiau, darluniau a ffotograffau yn ein casgliadau. Mewn geiriau eraill, mae 35,000 o hanesion cuddiedig eraill yn disgwyl cael eu datguddio. Rhestrir pob un o'r 35,000 o eitemau ar gatalog y Ganolfan Adnoddau Dysgu, felly mae modd i chi bori trwyddynt a chwilio amdanynt yn union yr un modd ag y byddech yn ei wneud am y deunyddiau eraill. Does wybod beth y gallech ddod ar ei draws...
Rydym ar agor rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ond am mai dim ond hyn a hyn o le sydd gennym yn ein Hystafell Ddarllen ac am fod llawer yn defnyddio ein gwasanaeth, byddai’n syniad da trefnu eich ymweliad cyn i chi ddod. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw anfon e-bost atom neu ein ffonio er mwyn rhoi gwybod i ni'r hyn yr hoffech ei weld gan ddyfynnu Rhif Galw'r Eitem.
Astudiwch, Ymchwiliwch, a Mwynhewch.
I gael rhagor o wybodaeth am lawysgrif ‘gwaed y mynaich’ gan Pedr o Capua yn y drydedd ganrif ar ddeg, bwriwch olwg dros arddangosfa Thomas Phillips ar y safle hwn.

