Lateral - Achredu Dysgu Blaenorol Lateral

(Rhyddhau Gallu drwy Gydnabod ac Achredu Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg)

Mae gweithwyr ledled Cymru yn profi mwy o ansicrwydd yn eu swyddi nac ers amser, a gall hyn arwain at ostwng lefel eu perfformiad yn y gwaith.

Mae rhoi cyfleoedd i’ch tîm gael cymwysterau am ddysgu sy’n seiliedig ar eu gwaith yn gallu talu ar ei ganfed o ran cymhelliant a pherfformiad. Mae’n gyfle gwerthfawr hefyd i ddatblygu gweithwyr a allai fod yn arweinwyr y dyfodol yn eich sefydliad.

Mae prosiect LATERAL yn fodwl 15 credyd ar Gydnabod ac Achredu Dysgu. Mae’r modwl yn gyfle i ddysgwr hawlio hyd at ddwy ran o dair o gymhwyster lefel uwch (e.e. gradd/meistr) trwy ddefnyddio eu profiad yn y gwaith. Ariannwyd y prosiect yn llawn.

Beth mae’n ei olygu?

Mae 4 elfen:

  • prawf seicometrig cyn-anwytho
  • un diwrnod anwytho
  • traethawd myfyriol (rhwng 3000-5000 gair)
  • portffolio o dystiolaeth

Beth yw’r gost?

Nid oes unrhyw gost gan yr ariennir y cynllun yn llawn i’r sawl sy’n gymwys. (Gweler y print mân)

Pobl

Y print mân

Mae'r ddau gwrs yma yn rhan o'r rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. Os ydych mewn cyflogaeth gyda chwmni preifat neu yn y trydydd sector ac yn byw a/neu weithio yn ardaloedd Cydgyfeiriant Cymru, efallai eich bod yn gymwys i ddilyn y cyrsiau hyn am ddim.

Gall busnesau sy'n gymwys ddilyn modylau o fewn y Fframwaith Arfer Proffesiynol i gwblhau Tystysgrif, Gradd neu radd Meistr.

LATERAL (pdf)

Dots

Beth yw barn busnesau?

“Gwerth mwyaf LATERAL yw’r gydnabyddiaeth academaidd a phroffesiynol am y blynyddoedd o astudio, ymchwil ac ymdrech sydd wedi dod â fi a fy musnes i’r lefel hon o wybodaeth, profiad ac arbenigedd.”

Nigel Packer, Perchennog
Business for Business

"Mae Dysgu Seiliedig ar Waith yn gyfle arbennig o dda i barhau gyda fy astudiaethau wrth weithio llawn amser. Mae hefyd yn fy nghaniatáu i dreulio amser gyda fy nheulu ifanc yn hytrach na mynychu dosbarthu.

Roeddwn i yn poeni am sut y bydden yn trosglwyddo cynnwys fy swydd i dystysgrif lefel uwch. Mae LATERAL wedi cael ei strwythuro mewn ffordd rhwydd i’w ddilyn. Mae LATERAL wedi fy helpu i adnabod y prosesau i gyd yn fy swydd a sut mae ffocysu ar y meysydd dysgu o fewn y prosesau ag adfyfyrio arnynt. Yn yr un modd, mae wedi helpu fi a fy nghwmni i wella ein dulliau ar gyfer y dyfodol.”

Selina Jones, Rheolwr Gwerthu
Axium Ltd

“Roeddwn mor falch o weld ei bod hi’n bosib ystyried cymaint o’m cymwysterau blaenorol a’m profiad yn y gwaith ac y gallwn fynd ymlaen i astudio ar gyfer fy M.A. mewn Arfer Proffesiynol trwy ddysgu o bell, gan y bydd hynny’n hwb i ddatblygu fy ngyrfa”

Catherine Rowland, Rheolwr Prosiect E-fusnes
CBSA

Am fanylion pellach neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:

Lowri Harris
Swyddog Prosiect,
LATERAL,
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,
Caerfyrddin,
SA31 3EP

Ffôn: 01267 676814 / 676815
E-bost: l.m.harris@ydrindoddewisant.ac.uk

LATERAL (pdf)

* Rheolau Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn berthnasol (cysylltwch am fanylion pellach)

Dots

cylchoedd



Llywodraeth Cynulliad Cymru



Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith