Gwasanaethau TG

Croeso i dudalen myfyrwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth. Isod cewch wybodaeth am sut i fanteisio ar wasanaethau TG yn ogystal â chanllawiau ar ddefnyddio’r e-bost, yr ADRh a’n polisi ynghylch defnydd derbyniol.
Live@edu ar gyfer Myfyrwyr
Trosolwg
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu cyfrif e-bost i fyfyrwyr trwy gyfrwng gwasanaeth Live@edu Microsoft.
- Blwch post 10 GB a’r gallu i anfon a derbyn atodiadau hyd at 20MB.
- Y gallu i gysylltu eich e-bost â’ch ffôn symudol Windows, iPhone neu Blackberry Smartphone
- Y gallu i ddarllen eich e-byst trwy raglenni e-bost eraill.
- Mae Microsoft Office Live Workspace yn caniatáu i chi rannu a chydweithio ar ddogfennau ar-lein.
- Mae Windows Live Sky Drive yn rhoi 25 GB o le storio i chi
Defnyddio Live@edu
I ddefnyddio’ch e-bost Live@edu ewch i: www.myfyriwr.ydds.ac.uk
Dyma’ch manylion adnabod ar gyfer Windows Live: enw defnyddiwr@myfyriwr.ydds.ac.uk – enw’r defnyddiwr fydd y manylion adnabod a ddefnyddiwch i fewngofnodi ar safleoedd a rhaglenni YDDS. For example 0123456@myfyriwr.ydds.ac.uk neu PG999@myfyriwr.ydds.ac.uk
Eich cyfrinair fydd eich cyfrinair arferol ar gyfer eich cyfrif TG Gwasanaethau Gwybodaeth.
Beth yw Live@edu?
Mae Live@edu yn un o wasanaethau Microsoft sy’n rhoi’r canlynol i ddefnyddwyr:
- Outlook Live – cyfrif e-bost 10GB
- Cymorth ar gyfer calendrau, cysylltiadau a thasgau yn y cyfrif e-bost
- 25GB o le storio SkyDrive - storio, defnyddio, golygu a rhannu eich dogfennau a’ch ffeiliau ar-lein.
- Mae gwasanaeth negeseuon Live Messenger Windows yn rhan gwbl integredig o’r gwasanaeth Live@edu
- Gellir cysylltu trwy ffonau symudol trwy gyfrwng y system ActiveSync; gellir sefydlu cyswllt â'r e-bost, y calendr a chysylltiadau rhwng y cyfrifiadur ag unrhyw ffôn sy’n defnyddio ActiveSync (Nokia, Windows Mobile, Apple iPhone).
- I gael manylion llawn ewch i wefan Microsoft
Canllaw Defnyddwyr
Moodle
Dechrau Arni gyda Moodle (pdf)
Blackboard
Canllaw Defnyddwyr ar gyfer Blackboard [pdf]
Y Polisi Defnydd Derbyniol
Polisi Defnydd Derbyniol (pdf)
Gwybodaeth i Fyfyrwyr 2011/2012
Canllaw cyflym i fyfyrwyr newydd
Canllaw i Fyfyrwyr Caerfyrddin
Cysylltu â Ni
Sylwer y dylid cofnodi pob nam a chais drwy’r Ddesg Gymorth. Am ymholiadau cyffredinol a phroblemau ynglŷn â defnyddio’r ddesg gymorth, defnyddiwch y canlynol:
E-bost: ITservicedesk@ydds.ac.uk
Ffôn: 0300 500 5055
Oriau agor: 08:45 – 17:00 (Llun - Iau) 08:45- 16:30 (Gwener)

