Gweld pob eitem o'r newyddion...
Dathlu’r Portffolio DPP newydd
20.01.2012
Ar y 31 Ionawr, bydd Cyfadran Addysg a Hyfforddiant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn lansio’n ffurfiol ystod o gyrsiau hyblyg newydd ym maes Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer pobl sydd am ymestyn neu ddiweddaru eu sgiliau.
Bydd y digwyddiad lansio ar 31 Ionawr 2012 yn dathlu’r Portffolio DPP newydd gan arddangos gweithgarwch ar draws y Gyfadran. Bydd cyfle i glywed am gyrsiau a gynigir, rhai a achredir ac eraill nas achredir, i ddarganfod ffynonellau ariannu a thrafod opsiynau ag aelodau o’r staff.
Ys dywed Deon Cynorthwyol y Gyfadran, yr Athro Cyswllt Sue Davies:
“Hwn yw’r tro cyntaf i weithgarwch DPP y Gyfadran gael ei drefnu i adlewyrchu amrediad llawn y cyfleoedd a gynigir gan yr ysgolion academaidd mewn amgylchedd dwyieithog.
“Mae modd i ni gynnig cyfleoedd ar draws ystod o ddisgyblaethau ac mae gennym raglenni hyblyg ar gyfer addysg, y sector cyhoeddus a sefydliadau cymunedol. I unigolion, gallai hyn wella posibiliadau o ran gyrfa neu gydnabod gofynion cyrff proffesiynol.
“I’r cyflogwr, rydym yn deall y bydd sefydliad llwyddiannus ac iddo enw da cadarn am amgylchedd gwaith o ansawdd yn denu, recriwtio a chadw gweithwyr rhagorol. Gallwn gefnogi gwerthoedd, nodau a pholisïau’ch gweithle drwy ddarparu rhaglenni DPP a fydd yn diwallu anghenion cyflogwyr a gweithwyr.”
Nod y Portffolio yw gwella ymhellach gyfraniad y Drindod Dewi Sant i DPP ac ymgysylltu â chyflogwyr gan gynyddu ymwybyddiaeth o’r ystod o gyfleoedd y gall Prifysgol eu cynnig.
Cynhelir y digwyddiad lansio ddydd Mawrth, 31 Ionawr rhwng 4.30pm a 5.30pm yn adran y Dderbynfa a BR1 ar Gampws Caerfyrddin.
Gwybodaeth Bellach
Athro Cyswllt Sue Davies
s.davies@ydds.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...


