Gweld pob eitem o'r newyddion...
Cadair newydd y Clasuron yn y Drindod Dewi Sant
20.01.2012
Mae'r Brifysgol yn falch iawn bod yr Athro Michael Edwards wedi ymuno â Chyfadran y Dyniaethau ar ôl mwy na phum mlynedd o wasanaeth nodedig fel Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Clasurol, sy'n rhan o'r Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain a'r sefydliad ymchwil a’r llyfrgell mwyaf blaenllaw ym maes y Clasuron yn Ewrop.
Mae’r Clasuron wedi cael eu dysgu yn y Drindod Dewi Sant ers agor Coleg Dewi Sant ym 1822, gan ei gwneud yr adran Clasuron hynaf yng Nghymru.
Meddai’r Is-Ganghellor,yr Athro Medwin Hughes:
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud y fath benodiad ardderchog. Daw’r Athro Edwards â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd ysgolheigaidd, a fydd yn amhrisiadwy wrth i'r Brifysgol barhau i esblygu a ffynnu. "
Wrth sôn am ei benodiad, meddai’r Athro Edwards:
"Mae fy mhenodi i Gadair y Clasuron yn anrhydedd mawr i mi. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad y Drindod Dewi Sant fel canolfan o ragoriaeth ymchwil yn y dyniaethau.”
Mae’r Athro Edwards yn arbenigwr rhyngwladol mewn areithio ac yn aelod o'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Hanes Rhethreg. Mae hefyd yn olygydd ar nifer o gylchgronau, gan gynnwys Bwletin y Sefydliad Astudiaethau Clasurol a Rhethreg. Mae’r Athro Edwards wedi ymgymryd â rôl Pennaeth Ysgol y Clasuron a bydd yn arbennig yn datblygu proffil ymchwil yr Ysgol. Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys clwb pêl-droed Chelsea, marchogaeth ac wrth gwrs, rygbi.
Nodyn at y Golygydd
- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydweithio â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru i greu prifysgol newydd dan y Siarter Frenhinol hynaf sydd gan unrhyw brifysgol yng Nghymru a Lloegr y tu allan i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn gwasanaethu anghenion Cymru. Bydd iddi wreiddiau cenedlaethol ond hefyd ddimensiwn rhyngwladol cryf. Y nod yw creu Prifysgol gref a fydd yn chwarae rhan lawn yn y sector addysg uwch yng Nghymru gan ddarparu ysgolheictod ac addysg o’r radd flaenaf i fyfyrwyr.
- Dilynwch ein hynt ar Twitter: twitter.com/trinitystdavid. Mae porthiadau newyddion ar gael yn www.ydrindoddewisant.ac.uk/cy/porthiadaurss
Gwybodaeth Bellach
Elinor Howells
01570 424 859
e.howells@ydds.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...


