Gweld pob eitem o'r newyddion...

Cymrawd Rhyngwladol Newydd

24.01.2012

Dr Marni Westernman

Mae'r Brifysgol yn falch iawn o groesawu Dr Marni Westernman, sy’n dal Cadair Anthropoleg a Chymdeithaseg yng Ngholeg Douglas, Vancouver ag sydd yn ymweld â’r Brifysgol fel Academydd Rhyngwladol y semester hwn.

Gyda chefndir helaeth ym maes ymchwil, addysgu a datblygu polisi, ynghyd â dealltwriaeth o sefydliadau cymunedol, daw Dr Westernman â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’r Drindod Dewi Sant.

Bydd hi’n gweithio'n agos gyda'r Ysgol Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant yn cynnal prosiect ymchwil ac yn ddarlithydd gwadd.

Mae'r prosiect "Measuring the Effects of Diversity Infused Content in Introductory Sociology Courses in Diverse and Non-Diverse Student Populations" yn golygu y cesglir data yn y Drindod Dewi Sant a Douglas. Bydd Dr.Westernman yn adrodd yn ôl ar ganfyddiad cychwynnol ei hymchwil yn fforwm Rhyngwladoli y Brifysgol ar Ebrill 27 2012.

Meddai’r Athro Cysylltiol a Phennaeth yr Ysgol Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant:

"Rydym yn falch iawn o gael Dr Westerman yn gweithio gyda ni fel ein Cymrawd Rhyngwladol. Bydd ein myfyrwyr yn elwa ar ei hystod o arbenigedd a bydd ei chynnwys ar draws disgyblaethau yr Ysgol yn rhoi cyfleoedd i staff i dynnu ar ei phrofiad a gwybodaeth."

Ychwanegodd y Swyddog Rhyngwladol, Kathleen Adnum;

“Mae perthynas hirhoedlog gyda’r Drindod Dewi Sant a Choleg Douglas Vancouver. Bob blwyddyn, cynhelir ysgol haf ac ar hyn o bryd mae 7 myfyrwyr yn gorffen eu gradd ar gampws Caerfyrddin. Ym mis Mai, bydd myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan mewn rhaglen 3 wythnos yn Douglas.”

Gwybodaeth Bellach

Sue Davies
01267 676737
s.davies@ydds.ac.uk





Gweld pob eitem o'r newyddion...