Gweld pob eitem o'r newyddion...
Y Drindod Dewi Sant yn ymateb i her cynaliadwyedd ac yn YSBRYDOLI
27.01.2012
Heddiw (27 Ionawr), bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymateb i her cynaliadwyedd mewn ffordd strategol a chyfannol ac ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhrofiad y myfyrwyr drwy lansio INSPIRE - y Sefydliad newydd dros Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithlonrwydd Adnoddau.
Mae INSPIRE yn rhan o fframwaith 'addas at y dyfodol' y Brifysgol sy'n ymgorffori Datblygu Cynaliadwy drwy'r addysgu ,dysgu, cwricwla, campws, cymuned a diwylliant y Drindod Dewi Sant. Y bwriad yw sicrhau bod graddedigion y dyfodol yn ddinasyddion byd-eang ac yn ymwybodol a chyfrifol yn yr 21ain ganrif.
O ganlyniad i'r fenter newydd hon, bydd myfyrwyr y dyfodol o 2013 yn mantiesio ar ‘Gwricwlwm Un Blaned’ fydd wedi ymgorffori yn eu hastudiaethau, bydd cyrsiau a modiwlau newydd yn cael eu datblygu ym mhob cyfadran a myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn mentrau cymdeithasol - i gyd wedi'u cynllunio i gynyddu cyflogadwyedd myfyrwyr a’u dealltwriaeth o'r byd. Dan arweiniad Jane Davidson (cyn-Weinidog dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru), bydd INSPIRE hefyd yn ymgysylltu â nifer eang o sefydliadau er mwyn datblygu arfer cynaliadwy ar draws pob sector yng Nghymru a thu hwnt.
Meddai’r Is-Ganghellor,yr Athro Medwin Hughes,
"Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i hyrwyddo agenda cynaliadwyedd mewn addysg uwch yng Nghymru ac i weithio gyda phob sector er mwyn cefnogi agenda cynaliadwyedd.Mae cynaliadwyedd wrth galon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ni allwn barhau i ddefnyddio mwy o adnoddau nag y gall ein cefnogaeth un blaned.
Bydd INSPIRE yn ganolbwynt i arloesi ymarferol ym maes cynaliadwyedd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i berfformiad y llywodraeth, cadernid cymunedau a llwyddiant busnesau yn yr hir dymor. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer Cymru gynaliadwy, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. "
Ychwanegodd Jane Davidson:
“Mae’n fraint cael arwain y gwaith newydd hwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn enwedig yng ngoleuni ei phartneriaethau presennol â’r sector addysg bellach ac ysgolion a’r uno arfaethedig â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Mae’r Drindod Dewi Sant eisoes wedi sicrhau ei le fel un o ddim ond dau sefydliad Cymreig ar raglen Academi Gwyrdd yr Academi Addysg Uwch ac o ganlyniad i fwrw ‘mlaen gyda’n hymrwymiad gynaliadwy ar draws y Brifysgol gyfan, rydym yn bwriadu arwain yr agenda Gynaliadwyedd yng Nghymru."
Daw’r Athro Hughes i’r casgliad:
"Mae'r Brifysgol yn ystyried ei rôl fel catalydd yn dwyn ynghyd asiantaethau ac unigolion sy'n gallu trawsnewid bywydau unigolion a chymunedau, yn enwedig o fewn rhanbarth y De-orllewin."
Bydd lansiad INSPIRE yn digwydd fel rhan o gynhadledd y Sefydliad Materion Cymreig ar 'Egwyddor Canolog Trefnu Deddfu ar gyfer Datblygu Cynaliadwy' a gynhelir yn y Brifysgol ar ddydd Gwener 27 Ionawr 2012.
Mae croeso i Newyddiadurwyr fod yn bresennol.

Nodyn at y Golygydd
- Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru i greu prifysgol gweddnewid o dan y Siarter Frenhinol hynaf unrhyw brifysgol yng Nghymru a Lloegr y tu allan i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Bydd y Brifysgol drawsnewid yn gwasanaethu anghenion Cymru.
- Ym mis Chwefror 2011, cyhoeddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fod y brifysgol newydd yn uchelgeisiol i arwain agenda Cymru ar gynaliadwyedd ac yn ceisio datganiadau o ddiddordeb i ddatblygu Sefydliad newydd dros Gynaliadwyedd i Gymru fyddai’n canolbwyntio ar weithredu ac yn gyrru ymchwil cymdeithasol, amgylcheddol a chanlyniadau economaidd. Galwodd y Brifysgol am gynigion i:
- Cefnogi datblygiad yr ardal fel rhanbarth carbon isel,
- Datblygu arferion cynaladwyedd penodol mewn lleoliad gwledig
- Datblygu cymdeithas traws-enghreifftiau o gynaliadwyedd yn ymarferol
- Dylanwadu ar arferion y sefydliad presennol a newydd
- Datblygu i gefnogi'r agenda ADCDF yng Nghymru
- Datblygu partneriaethau gyda sefydliadau / sefydliadau gydag agenda tebyg
- Daeth rhyw 50 mynegiant o ddiddordeb i law a chytunwyd ar gais Jane Davidson a gefnogwyd gan Peter Davies ac Andy Middleton i ddatblygu'r agenda hon. (Yn flaenorol, roedd Jane Davidson yn Weinidog gyda chyfrifoldeb dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cymru, Peter Davies yw'r Comisiynydd presennol ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy yng Nghymru ac Andy Middleton yw Rheolwr Gyfarwyddwr TYF, sef cwmni antur ,cynaladwyedd ac addysg yn Nhŷ Ddewi ).
- Dechreuodd Jane Davidson yn ei swydd newydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar 1 Medi, 2011
- Dilynwch ni ar Twitter ar twitter.com/drindoddewisant. Newyddion ar gael yn www.trinitysaintdavid.ac.uk/en/rssfeeds
Elinor Howells 01570 424 859 e.howells @ ydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Elinor Howells
01570 424859
e.howells@ydds.ac.uk
Gweld pob eitem o'r newyddion...


