Gwasanaethau Gwybodaeth

Myfyriwr yn gweitho ar mac

Croeso i dudalen Gwasanaethau Gwybodaeth staff PCYDDS. Isod cewch wybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau TG a nodi problem, yn ogystal â manylion ein Polisi Defnydd Derbyniol.

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnwys tri thîm mewnol sy’n delio â’r ddau gampws. Y rhain yw’r Ddesg Gymorth, TG (Technoleg Gwybodaeth) ac SG (Systemau Gwybodaeth).

Strategaeth Gwasanaethau Gwybodaeth (pdf)

Y Polisi Defnydd Derbyniol

Polisi Defnydd Derbyniol (pdf)

Desg Gymorth TG

Mae’r ddesg gymorth TG ar gael i'r holl staff nodi unrhyw namau neu wneud ceisiadau ynglŷn â’r offer TG ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

I gael mynediad at y Ddesg Gymorth TG cliciwch yma (ar gael ar y safle yn unig), fel arall galwch 0300 500 5055 (est. 5055 yn fewnol)

A fyddech cystal â mewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.

E-bost

Trosolwg
Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio dwy system e-bost yma yn PCYDDS. Mae gan staff sydd wedi eu lleoli yn Llambed fynediad at gyfrif e-bost Microsoft Exchange tra bod gan staff Caerfyrddin fynediad at flwch negeseuon GroupWise. Cyn bo hir byddwn yn symud y staff i gyd i gyfrif e-bost Microsoft Exchange ond tan hynny byddwn yn dal i gynnal y ddwy system.

E-bost staff Llambed

E-bost staff Caerfyrddin

Cysylltu â Ni

Nodwch os gwelwch yn dda y dylid cofnodi pob nam a phob cais drwy'r Ddesg Gymorth. Yn achos ymholiadau cyffredinol a phroblemau’n cael mynediad at y ddesg gymorth, defnyddiwch y canlynol os gwelwch yn dda:

E-bost: ITservicedesk@ydds.ac.uk

Ffôn: 0300 500 5055

Oriau agor: 08:45 – 17:00 (Llun - Iau) 08:45- 16:30 (Gwener)

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Peiriannydd y Ddesg Gymorth
Kevin James
Ffôn: 01267 676760
E-bost: k.james@ydrindoddewisant.ac.uk

Rheolwr TG
Nigel Lewis
Ffôn: 01267 676762
E-bost: n.lewis@ydrindoddewisant.ac.uk

Rheolwr SG
Mike Palmer
Ffôn: 01267 676807
E-bost: m.palmer@ydrindoddewisant.ac.uk

Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth
James Cale
Ffôn: 01267 676754
E-bost: j.cale@ydrindoddewisant.ac.uk