Buddsoddi £9M yn eich Prifysgol
Mae prosiectau adeiladu cyffrous ar y gweill ar draws campysau’r Brifysgol i greu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer ein myfyrwyr, staff ac ar gyfer y cymunedau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.
Mae'r rhaglen fuddsoddi yn dangos ein hymrwymiad i'n rhan-ddeiliaid niferus ac i’n gwreiddiau lleol. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo cynaladwyedd, gyda phob un o'n hadeiladau newydd yn ymgorffori nodweddion dylunio a pheirianneg o ansawdd uchel er mwyn creu amgylchedd ddysgu hyblyg, ymarferol a chynaliadwy. Ein nod yw darparu’r profiad prifysgol gorau i chi.


