Adeiladu’r Dyfodol

Mae creu Prifysgol newydd yn her gyffrous. Y mae’n gyfle i adeiladu ar ragoriaeth academaidd a gwasanaethol er mwyn creu dyfodol cynaliadwy. Eisoes y mae PC Y Drindod Dewi Sant wedi sicrhau buddsoddiad o filiynau o du’r llywodraeth ar gyfer ei datblygiad. Bydd cyllid o’r fath yn cael ei ailfuddsoddi er mwyn darparu amgylchedd sy’n addas ar gyfer dysgu, addysgu, ymchwil ac ysgolheictod yn yr unfed ganrif ar hugain.

Fel budd-ddeiliaid, y mae gennym i gyd ran i’w chwarae mewn creu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant – yn llywodraethwyr, staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned ehangach. Bydd cefnogaeth unigolion a sefydliadau o’r fath yn sicrhau llewyrch y Brifysgol a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Myfyrwyr