Datblygu’r Economi Gwybodaeth

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Bydd creu PC Y Drindod Dewi Sant yn cynnig cyfleoedd sylweddol i ddatblygu gweithgareddau Trydydd Genhadaeth. O gofio’r hinsawdd economaidd gyfredol, newidiadau demograffig ac anghenion sgiliau’r rhanbarth, bydd PC Y Drindod Dewi Sant yn edrych tuag allan, yn ddeinamig ac yn ymatebol i newid er mwyn helpu'r rhanbarth i gystadlu a goroesi mewn cyfnod heriol.

Bydd y Brifysgol mewn sefyllfa allweddol i symud y mentrau mwyaf ymlaen er mwyn cefnogi gwella sgiliau lefel uchel wrth ddatblygu cymdeithas ac economi gwybodaeth yn Ne Orllewin Cymru.

Fe ddefnyddir arbenigedd y Brifysgol mewn darpariaeth gyfrwng Cymraeg, dwyieithrwydd a chynhwysiant cymdeithasol gan sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat i sicrhau bod materion diwylliannol, cydraddoldeb a chynhwysiant, yn tanategu eu hanghenion hyfforddi a datblygu busnes. Mae addysg a datblygiad proffesiynol parhaus, busnes a rheolaeth, cynhwysiant cymdeithasol, twristiaeth ac etifeddiaeth, ynghyd â’r celfyddydau creadigol a diwylliannol wedi eu hadnabod fel prif gryfderau’r Brifysgol.

Bydd y Brifysgol yn adeiladu ar ei hanes da o ddatblygu a darparu prosiectau a gwasanaethau ar gyfer a chyda Mentrau Bach a Chanolig yng Nghymru. Bydd yn meithrin dull partneriaeth tuag at ddatblygu gwir ddealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu busnesau bach yn y Gymru wledig a darparu cymorth canolog i gwrdd â’u hanghenion.