Datblygu Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Fe ddarperir datblygiadau allweddol yn nhermau darpariaeth academaidd y Brifysgol drwy ei hadrannau academaidd; y pwerdai a fydd yn ymateb i yrwyr mewnol ac allanol i gynnig cwricwlwm arloesol a pherthnasol ar gyfer cymunedau dysgu heddiw.

Saif cryfderau’r Brifysgol ym meysydd Addysg, y Dyniaethau a’r Celfyddydau. Fodd bynnag, bydd cynnig darpariaeth academaidd wedi’i hadfywio yn creu ystod o gyfleoedd cryfach a mwy deniadol a ddatblygir hefyd i danategu gweithgareddau Trydydd Genhadaeth. Mae’r portffolio yn rhoi llwyfan cryf i'r Brifysgol ddatblygu rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig o safon, ac ymestyn ei darpariaeth y tu hwnt i ffiniau campws.

Bydd Dysgu ac Addysgu yn y Brifysgol yn canolbwyntio ar ddarparu amgylchedd sy’n uchafu cyfleoedd dysgu i’r myfyrwyr i gyd – y rhai ar ac oddi ar y campws. Mae’r strategaeth ym mynd i’r afael â chwech o’r penawdau allweddol a adnabuwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC):

  • Gwella Profiad y Myfyrwyr;
  • Datblygu a Hyfforddi Staff;
  • Adnabod a chydnabod rhagoriaeth mewn addysgu;
  • Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu;
  • Gwella Sgiliau a Chyflogadwyedd Graddedigion: ac
  • Ymrwymiad i flaenoriaethau LlCC, CCAUC a’r AAU.

Bydd datblygu rhaglenni astudio newydd ynghyd â’u darparu a’u hasesu yn cadw cynhwysiad, amrywiaeth ddiwylliannol a dinasyddiaeth fyd-eang fel egwyddorion sylfaenol er mwyn mynd i’r afael â’r:

  • agenda ehangu mynediad;
  • garfan newidiol o fyfyrwyr;
  • myfyrwyr rhyngwladol;
  • ddeddfwriaeth genedlaethol.