Dimensiwn Rhyngwladol

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Mae’r Brifysgol wedi ymroi i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff ymgymryd â phersbectif rhyngwladol ar eu meysydd astudio. Bydd darparu portffolio o gyrsiau deniadol yn galluogi’r Brifysgol i recriwtio nifer cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol i raglenni academaidd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Yn ychwanegol, bydd y Rhaglen Astudio Dramor lwyddiannus a sefydlwyd gyda sefydliadau partner yng Ngogledd America yn parhau i ddenu niferoedd sylweddol o fyfyrwyr sy’n astudio naill ai ar sail cyfnewid neu ar sail ffioedd llawn.

Mae staff ymchwil yn cyhoeddi eu gwaith mewn cyhoeddiadau rhyngwladol yn rheolaidd ac mae eu henw da yn fodd o sicrhau y bydd y Brifysgol yn denu myfyrwyr rhyngwladol i ymgymryd â rhychwant o raddau ymchwil.

Mae ysgolion ac adrannau academaidd ar y ddau gampws yng Nghaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan eisoes wedi datblygu partneriaethau ar lefel cwricwlwm drwy fentrau megis Rhaglen Erasmws yr Undeb Ewropeaidd sy’n datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid myfyrwyr a staff.

Ar lefel strategol, bydd y Brifysgol yn datblygu cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi yn isadeiledd y campws gan bartneriaid mewn rhanbarthau allweddol o amgylch y byd ac eisoes y mae’n ymchwilio dichonoldeb sefydlu presenoldeb i’r Brifysgol mewn gwledydd eraill.