Profiad Colegol
Bydd PC Y Drindod Dewi Sant yn dathlu amlygrwydd ei ddau gampws. Mae gan gampws y Drindod yng Nghaerfyrddin a champws Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan ill dau eu cymeriad a diwylliant unigryw, a sefydlwyd yn rhannol oherwydd arddull pensaernïol eu hadeiladau gwreiddiol.
Fodd bynnag, mae’r ddau gampws yn rhannu’r gallu i ddod â phobl at ei gilydd i ffurfio cymuned glos lle mae’r gallu i adnabod a pharchu’r unigolyn yn brif ystyriaeth. Â’r gymuned hon y mae’r mwyafrif o gyn fyfyrwyr yn cysylltu eu dyddiau prifysgol a dyna pam mae cynifer o fyfyrwyr yn ymateb yn ffafriol mewn arolygon mewnol a rhai allanol cenedlaethol ar fodlonrwydd myfyrwyr.
Bydd mabwysiadu model colegol yn galluogi’r Brifysgol i ehangu ar draws y rhanbarth er mwyn ymestyn ei afael i gymunedau ar lefel sylfaenol.
Dyddiadau Allweddol
Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan
|
1822 |
Sefydlu Coleg Dewi Sant gan yr Esgob Burgess |
|
1827 |
Derbyn y myfyrwyr cyntaf ar Ddydd Gwˆ yl Dewi Sant |
|
1828 |
Derbyn ei siartr gyntaf |
|
1939-45 |
Coleg Wycliffe Caerloyw yn mudo i Lanbedr Pont Steffan |
|
1960 |
Cyllid cyntaf yn cael ei dderbyn gan Bwyllgor Grantiau’r Brifysgol |
|
1965 |
Derbyn y merched cyntaf |
|
1971 |
Ymuno‚ Phrifysgol Cymru |
|
1971 |
Newid ei enw i Goleg Prifysgol Dewi Sant |
|
1996 |
Newid ei enw i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan |
Coleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin
|
1847 |
Gosod carreg sylfaen Coleg Hyfforddi De Cymru a Sir Fynwy |
|
1848 |
Agoriad y Coleg |
|
1931 |
Mabwysiadu’r enw newydd Coleg y Drindod |
|
1941 |
Myfyrwyr o Goleg y Brenin Alfred Caerwynt yn cael eu derbyn i’r Drindod |
|
1957 |
Derbyn y merched cyntaf yn fyfyrwyr |
|
1990 |
Achrediad gan Brifysgol Cymru o’r graddau |
|
2008 |
Cais llwyddiannus ar gyfer pwerau dyfarnu graddau a addysgir |
|
2009 |
Cais llwyddiannus ar gyfer statws Coleg Prifysgol |

