Y Gymraeg a Dwyieithrwydd
Yng nghyd-destun creu Cymru ddwyieithog, bydd y Brifysgol yn chwarae rôl unigryw. Bydd ei chenhadaeth, ei chymeriad addysgol a’i phortffolio academaidd yn tystio i’r pwysigrwydd strategol a rydd ar lefel genedlaethol i hybu dwyieithrwydd a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Bydd datblygiad rhaglenni dwyieithog a llwybrau dilyniant, o ysgolion a cholegau addysg bellach, yn ogystal â’i hymglymiad ar lefel genedlaethol i lywio datblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg ynghyd â’i rhwydweithiau o bartneriaid ar draws y rhanbarth, yn ei galluogi i barhau i wneud cyfraniad sylweddol tuag at greu Cymru ddwyieithog.

