Ymchwil ac Ysgolheictod o Safon Fyd-eang
Bydd ymchwil ac ysgolheictod wrth galon PC Y Drindod Dewi Sant. Bydd y Brifysgol yn blaenoriaethu datblygu’r economi gwybodaeth ac fe anogir yr holl staff i gyfrannu at fywiogrwydd ac adfywiad economaidd y rhanbarth drwy ledaenu ymchwil, ysgolheictod a’r arfer proffesiynol gorau.
Bydd y Brifysgol yn dathlu ymchwil o safon fyd-eang mewn Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd, ac Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg, gan adeiladu ar eu llwyddiant yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil cenedlaethol diwethaf. Wrth i’r Brifysgol newydd edrych ymlaen at gylch nesaf Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2013, un o’r prif amcanion strategol yw cynyddu incwm grantiau ymchwil ac adeiladu ar ragoriaeth yr ymchwil sefydledig, yn enwedig yn y meysydd hynny a adwaenir fel rhai o safon fyd-eang. Bydd y Brifysgol yn adeiladu ar ei enw da ar gyfer cydweithio â busnes, diwydiant, llywodraeth a phartneriaid eraill er mwyn darparu atebion arloesol sy'n mynd i'r afael â phroblemau a nodwyd. Fe anogir ymchwilwyr i ddangos sut y gall yr economi, y gymdeithas, polisi cyhoeddus, diwylliant ac ansawdd bywyd elwa o'u gwaith.

