Ymrwymiad Cymunedol a Dinesig

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Bydd PC Y Drindod Dewi Sant yn rhoi ei hun wrth galon mentrau cymunedol a dinesig yn Ne Orllewin Cymru. Bydd yn adeiladu ar ei phartneriaethau gydag asiantaethau allweddol yn y rhanbarth i ddylanwadu ar ffyniant diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.

Drwy ei rhaglenni academaidd, a ddarperir ar y campws ac yn y gweithle, ac ystod o weithgareddau a ddarperir mewn ysgolion a lleoliadau yn y gymuned bydd yn adeiladu ar fentrau cyfredol i ehangu mynediad ac annog cyfranogiad gan grwpiau a dangynrychiolir.

Mae arbenigedd y Brifysgol yn y Celfyddydau Creadigol a Diwylliannol yn enghraifft ardderchog o sut y gall weithio’n agos gyda’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Mae’r portffolio academaidd yn gwneud ystod o brosiectau a gweithgareddau yn bosibl - gan gynnwys cynyrchiadau theatraidd, digwyddiadau llenyddol, arddangosfeydd a gweithdai ar y campysau yn ogystal â mewn lleoliadau yn y gymuned - sy’n rhoi gwerth ychwanegol i brofiad y myfyriwr ac sy'n hybu yn weithredol y celfyddydau a’r diwylliant amlieithog yn y rhanbarth.

Mae gallu’r Brifysgol i berthyn i’w rhanbarth a bod dan berchnogaeth ei chymunedau yn gwella’n fawr drwy ymrwymiad dinesig a mentrau datblygu cymunedol. Ar lefel strategol bydd yn chwarae rhan sylweddol mewn cynllunio rhanbarthol drwy ei phartneriaethau gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus; ar lefelau ymarferol bydd yn annog symud y rhwystrau rhwng tref a gwˆ n fel y dethlir y Brifysgol, ei hadnoddau a’i gwasanaethau fel asedau rhanbarthol.