Lleoliad y Brifysgol

Lleolir Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ddau gampws yn Ne-orllewin Cymru

Campws Caerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin a champws Llanbedr Pont Steffan yn sir Ceredigion.

Yr arfordir Dod i adnabod yr ardal Gorllewin Cymru Gyda’i pharciau cenedlaethol, parciau gwledig, ardaloedd dynodedig o brydferthwch naturiol, afonydd a thraethau glân, mae Gorllewin Cymru yn ffefryn i bawb sy’n mwynhau’r awyr agored.

People walking in the countryside Mae’r ardal yn frith o hanes a threftadaeth gyfoethog ac mae’n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr.

Ymhlith y cyfleusterau ac atyniadau yn y rhanbarth mae eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cestyll a gerddi, atyniadau glan môr yn ogystal â pharciau thematig, yn cynnwys Oakwood a Pharc Dwr Blue Lagoon.

O brysurdeb bywyd trefol i dawelwch heddychlon cefn gwlad a phrydferthwch trawiadol y traethau tywodlyd, mae digonedd i’w fwynhau yma.

Yr arfordir Mae digwyddiadau a gwyliau i bawb i’w mwynhau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Ffair a chyngherddau’r Nadolig, yn ogystal â Gŵyl!, gŵyl gelfyddydau’r Brifysgol sy’n cynnwys gŵyl ymylol yn nwylo’r myfyrwyr yn ogystal â Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows sy’n denu cystadleuwyr o bob rhan o’r byd i gynnig am y wobr werthfawr.

Digwyddiad a drefnir ar y cyd gan y Brifysgol a’r dref yw Gŵyl Fwyd Llambed, a gynhelir ar y campws bob haf.

Mae’r ŵyl yn denu cynhyrchwyr, arlwywyr a chogyddion teledu o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae’r wˆ yw yn gyfle delfrydol i bobl leol ac ymwelwyr flasu cynhyrchion lleol sy’n rhan annatod o’r profiad unigryw y mae’r ardal yn ei gynnig i ymwelwyr.

I wybod mwy am ein campysau:

Campws Caerfyrddin

Campws Llambed

hgfhgf