Campws Caerfyrddin

Lleolir Campws Caerfyrddin ar gyrion y dref, y dywedir iddi fod yn fan geni Myrddin o’r chwedlau Arthuraidd sydd hefyd yn ganolfan fasnachol ar gyfer sir fawr a ffyniannus.


Myfyrwyr yn cerdded drwyr campws

Mae Caerfyrddin yn dref brysur a chanddi gymysgedd dda o siopau traddodiadol a chyfoes, cyfleusterau a bywyd nos rhagorol.

Mae datblygiad siopa newydd wedi dod â siopau enwau mawr, cyfleusterau bwyta a hamdden i ganol y dref, gan gynnwys y sinema ddigidol bwrpasol gyntaf yng Nghymru a chanddi chwe sgrin 3D. Gwasanaethir y dref gan y prif rwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd ac mae o fewn cyrraedd rhwydd i feysydd awyr Llundain a Maes Awyr Rhyngwladol Cymru.

Gall myfyrwyr o’r Iwerddon ddewis o blith nifer o wasanaethau fferi sy’n hwylio rhwng Rosslare ac Abergwaun a Doc Penfro; Dulyn a Chaergybi; Abertawe a Corc.

Am y Campws

Saif adeilad gwreiddiol 1848 yng nghanol campws Caerfyrddin. Ei enw gwreiddiol oedd Coleg Hyfforddiant De Cymru a Sir Fynwy ac fe’i sefydlwyd i hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion eglwys yn Lloegr a Chymru. Newidiwyd yr enw’n ddiweddarach i Goleg y Drindod ac yn y pendraw i Goleg Prifysgol y Drindod cyn uno â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan i greu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae lawntiau helaeth a llecynnau tirluniol yn creu safle deniadol ar gyfer y gymysgedd o adeiladau oes Victoria a chyfoes. Mae’r campws yn cynnwys nifer o gyfleusterau gwahanol, yn eu plith lyfrgell helaeth a llecynnau dysgu ac addysgu rhagorol, theatr bwrpasol a gweithdai, canolfannau cyfryngau a cherdd, ynghyd â chyfleusterau TG sy’n cynnwys llecynnau mynediad agored ar eu newydd wedd ac ystafelloedd i fyfyrwyr wneud gwaith grŵp.

Ymhlith y cyfleusterau chwaraeon mae’r Ganolfan Chwaraeon sy’n cynnwys Llecyn Iechyd a Ffitrwydd, pwll nofio, stiwdio ddawns bwrpasol. Mae gan y Gwasanaethau i Fyfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr eu hadeiladau eu hunain ar y campws, sy’n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio eu cyfleusterau a’u gwasanaethau yn hwylus. Mae’r llety i fyfyrwyr yn cynnwys neuaddau gydag arlwy a hunanarlwy sydd wedi’u lleoli ar y campws.

Cynigir ein rhaglenni Celf a Dylunio ar y cyd â Choleg Sir Gâr. Mae cyfuno cryfder yr arbenigedd academaidd a phroffesiynol a ddarperir ynghyd â’r cyfleusterau pwrpasol, gan gynnwys stiwdios, llecynnau arddangos a gweithdai yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu doniau creadigol a miniogi eu sgiliau technegol mewn amgylchedd sy’n gweddu i’w hanghenion.

Mae siop y Brifysgol hefyd yn cadw cyflenwadau celf, dylunio a chrefft arbenigol yn ogystal â dewis helaeth o ddeunyddiau papur a nwyddau eraill. Bydd adeilad Dysgu ac Addysgu newydd yn cael ei godi yn ystod y flwyddyn i ddarparu cyfleusterau gwell fyth i’r rhaglenni hyn ac eraill.