Teithio i Gaerfyrddin
Map yr Campws (pdf)
Car | Tacsi | Bws | Trên | Fferi | Awyren
Cod Post (i'r satnav) SA31 3EP
Car
O'r dwyrain (Llundain, Bryste, Caerdydd):- Ewch ar yr M4 i'r gorllewin hyd nes Cyffordd 49- Gwasanaethau Pont Abraham (diwedd y draffordd). Cymerwch yr allanfa gyntaf ar y cylchfan am yr A48- Caerfyrddin (ffordd ddeuol). Dilynwch yr heol yma i Gaerfyrddin. Ar gylchfan Pensarn ar ddiwedd yr A48, cymerwch yr 2il allanfa sy'n eich tywys dros bont Lesneven. Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af am yr A40- San Clêr/ Hwlffordd. Ewch yn eich blaen am dua 600 llath ac o dan y drosffordd ac yn syth ar ôl pasio oddi tani cymerwch yr heol i'r chwith am Johnstown a fydd yn eich tywys ymlaen i'r drosffordd. Ar gyffordd y drosffordd trowch i'r chwith. Pan gyrhaeddwch y goleuadau trowch i'r chwith yn syth ar ôl pasio Tafarn Cyfeillion (Friends Arms) am Jobswell Road. Ewch i fyny yr heol yma ac o amgylch y tro ar gopa'r bryn ac yna cymerwch yr 2il droad ar y dde i mewn i'r maes parcio.
O'r gogledd-ddwyrain (Caer, Wrecsam, Y Trallwng):- Ewch ar yr A483 hyd y cyrhaeddwch Y Drenewydd. Yn Y Drenewydd cymerwch yr A489- Llanidloes, (mae'r heol yma yn newid i'r A470 ar y groesfan trenau yng Nghaersws). Dilynwch yr A470 hyd nes y cyrhaeddwch Lanfair-ym-Muallt. Yn Llanfair-ym-Muallt ail-ymunwch â'r A483- Lanymddyfri/ Caerfyrddin. Yn Llanymddyfri cymerwch yr A40- Llandeilo/ Caerfyrddin. Dilynwch yr heol yma i Gaerfyrddin. Ar gylchfan Abergwili cymerwch yr 2il allanfa am Gaerfyrddin. Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af am Gaerfyrddin. Dilynwch y ffordd ddeuol yma wrth ymyl yr afon Tywi. Wrth y cylchfan nesaf cymerwch yr 2il allanfa am Abertawe (yr M4). Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch y 3ydd allanfa am A40- San Clêr/ Hwllffordd ac ewch dros bont Lesneven sy'n croesi'r afon Tywi. Ar y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af, eto am yr A40- San Clêr/ Hwlffordd. Ewch yn eich blaen am dua 600 llath ac o dan y drosffordd ac yn syth ar ôl pasio oddi tani cymerwch yr heol i'r chwith am Johnstown a fydd yn eich tywys ymlaen i'r drosffordd. Ar gyffordd y drosffordd trowch i'r chwith. Pan gyrhaeddwch y goleuadau trowch i'r chwith yn syth ar ôl pasio Tafarn Cyfeillion (Friends Arms) am Jobswell Road. Ewch i fyny yr heol yma ac o amgylch y tro ar gopa'r bryn ac yna cymerwch yr 2il droad ar y dde i mewn i'r maes parcio.
O'r gogledd-orllewin (Sir Fôn, Bangor, Caernarfon):- Ewch ar yr A487/A470- Ddolgellau. 5 milltir i'r de o Ddolgellau trowch i'r dde wrth dafarn y Cross Foxes am yr A487- Machynlleth/ Aberystwyth. Dilynwch yr A487 (heol yr arfordir) i lawr drwy Fachynlleth ac Aberystwyth hyd nes Aberaeron. Yn Aberaeron trowch i'r chwith am yr A482- Llanbedr Pont Steffan. Yn Llanbedr Pont Steffan, cymerwch yr A485- Caerfyrddin. Dilynwch yr heol yma i Gaerfyrddin. Ar y cylchfan 1af cymerwch yr allanfa 1af am yr A40- Llandeilo/ Abertawe/ M4 (ffordd ddeuol). Pan gyrhaeddwch y cylchfan nesaf cymerwch yr 2il allanfa am Gaerfyrddin/ Abertawe/ M4. Dilynwch y ffordd ddeuol yma wrth ymyl yr afon Tywi. Wrth y cylchfan nesaf cymerwch yr 2il allanfa am Abertawe (yr M4). Ar y cylchfan nesaf cymerwch y 3ydd allanfa am A40- San Clêr/ Hwllffordd ac ewch dros bont Lesneven sy'n croesi'r afon Tywi. Ar y cylchfan nesaf cymerwch yr allanfa 1af, eto am yr A40- San Clêr/ Hwlffordd. Ewch yn eich blaen am dua 600 llath ac o dan y drosffordd ac yn syth ar ôl pasio oddi tani cymerwch yr heol i'r chwith am Johnstown a fydd yn eich tywys ymlaen i'r drosffordd. Ar gyffordd y drosffordd trowch i'r chwith. Pan gyrhaeddwch y goleuadau trowch i'r chwith yn syth ar ôl pasio Tafarn Cyfeillion (Friends Arms) am Jobswell Road. Ewch i fyny yr heol yma ac o amgylch y tro ar gopa'r bryn ac yna cymerwch yr 2il droad ar y dde i mewn i'r maes parcio.
O'r gorllewin (Sir Benfro):- Ewch ar yr A40 i gyfeiriad y dwyrain. Dilynwch yr heol yma i Gaerfyrddin. Tua 1000 llath ar ôl pasio Maes Sioe y Tair Sir cymerwch yr heol i'ch chwith am Johnstown (diwedd y ffordd ddeuol). Ewch yn eich blaen ar yr heol yma hyd nes y cyrhaeddwch oleuadau wrth ymyl Tafarn Cyfeillion (Friends Arms). Trowch i'r chwith yn syth ar ôl pasio y dafarn am Jobswell Road. Ewch i fyny yr heol yma ac o amgylch y tro ar gopa'r bryn ac yna cymerwch yr 2il droad ar y dde i mewn i'r maes parcio.
Frixo - Adroddiadau Traffig ar y Traffyrdd a'r Ffyrdd
Tacsi
Chris Cars (Caerfyrddin) Ffôn: 01267 234438
Ace Taxis (Caerfyrddin) Ffôn: 01267 222712
Encore Taxis (Caerfyrddin) Ffôn: 01267 221646
Bws
Trawscambria (National Bus Service) Ffôn: 01970 61795
National Express Ffôn: 0870 5808080
Trên
Mae prif orsaf reilffordd yng Nghaerfyrddin
Network Rail Ffôn: 08457 484950
Fferi
Swansea Cork Ferries Tel: 00 44 (0)1792 456116
Awyren
Maes Awyr Birmingham Ffôn: 00 44 (0)8707 335511
Maes Awyr Bristol Ffôn: 00 44 (0)870 1212 747
Maes Awyr Caerdydd-Cymru Ffôn: 00 44 (0)1446 711111
Maes Awyr Heathrow Ffôn: 00 44 (0)870 000 0123
Maes Awyr Gatwick Ffôn: 00 44 (0)161 489 3000
Maes Awyr Manchester Ffôn: 00 44 (0)161 489 3000



