Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
C1: Beth sydd wedi digwydd i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin?
A: Mae Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin wedi derbyn cymeradwyaeth Ei Mawrhydi, trwy ei Chyfrin Gyngor, i ffurfio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Ar 18 Tachwedd rhoddir y Sêl Frenhinol ar Siarter y Brifysgol – yr un hynaf yng Nghymru a Lloegr tu allan i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt – cyn inni lansio’r Brifysgol yn swyddogol.
C2: Gwnes gais / Cofrestrais am radd ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan NEU Coleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin.
A1: A fyddaf yn parhau i astudio yn Llanbedr Pont Steffan NEU Caerfyrddin?
Os gwnaethoch gais i naill ai PC Llanbedr Pont Steffan neu Y Drindod byddwch yn ymuno â’r Brifysgol newydd a byddwch yn astudio ar y campws y gwnaethoch gais iddo.
A2: A gaf yr un radd ar ddiwedd y cwrs?
Bydd myfyrwyr yn parhau i raddio gyda gradd o Brifysgol Cymru – yn union fel y byddent yn y gorffennol. Dyfernir gradd Prifysgol Cymru a gydnabyddir yn rhyngwladol drwy Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
C3: Rwy’n astudio yn un o golegau partner PCLl/Y Drindod yn y DU. Sut y bydd y newid yn effeithio arna i?
A: Bydd y bartneriaeth a fodolai rhwng eich coleg a PCLl neu Y Drindod, yn parhau â’r Brifysgol newydd. Fodd bynnag, fel myfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bydd mynediad gennych i gyfleusterau llyfrgell a chymorth myfyrwyr yn y Brifysgol, yn cynnwys mynediad i ystod eang o adnoddau a gwasanaethau myfyrwyr ar-lein a’r cyfle i wneud cais am ysgoloriaethau i fyfyrwyr rhyngwladol.
C4: Rwy’n fyfyriwr rhyngwladol, a fydd hyn yn newid fy statws mewnfudo?
Mae’n ofynnol i bob myfyriwr rhyngwladol feddu ar gynnig a gadarnhawyd o le i astudio mewn sefydliad noddi (hyd yn oed os ydy’r cynnig yn amodol ar ganlyniad terfynol eich cwrs) er mwyn gallu cael fisa i astudio yn y DU. Bydd myfyrwyr sy’n astudio am lai na 6 mis yn derbyn llythyr myfyriwr ar ymweliad os nad oes gwaith cymunedol yn gysylltiedig â’u hastudiaethau, bydd pob myfyriwr arall yn gwneud cais am fisa Haen 4.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2010-11, mae’r cynigion hyn (sy’n cynnwys y rhifau Cadarnhad o Dderbyn i Astudio (CAS) sy’n angenrheidiol i wneud cais am fisa) yn cael eu dosbarthu gan Goleg Prifysgol y Drindod neu Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, yn ddibynnol ar leoliad y cwrs astudio. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2011/12, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dosbarthu’ch cynnig am bob cwrs a gynigir ar naill ai campws Caerfyrddin neu gampws Llanbedr Pont Steffan.
Bydd sefydliadau partner y Brifysgol yn y DU, er enghraifft CTL a CLC yn Llundain, yn parhau i weithredu fel noddwyr i’r myfyrwyr sy’n astudio ar eu campysau, ac felly byddant yn darparu’u llythyrau cynnig a’u rhifau CAS cysylltiedig eu hunain fel y bo’n angenrheidiol.
C5: Sut i wneud cais am 2011?
Rhaglenni Israddedig Llawn Amser
Gwnewch gais trwy UCAS. Bydd eich cais i hen god L07 Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i T80 (+ cod y cwrs) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Rhaglenni Rhan Amser ac Ôl-raddedig
Gwnewch gais trwy’r Gofrestrfa.
Am raglenni a gynigir ar gampws Caerfyrddin:
cofrestrfacc@ydrindoddewisant.ac.uk
Am raglenni a gynigir ar gampws Llanbedr Pont Steffan:
cofrestrfacll@ydrindoddewisant.ac.uk
C6: Ble y lleolir fy nghwrs?
A: Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gampysau yn Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin, a byddwch yn cwblhau’ch cwrs ar y campws lle roeddech wedi cychwyn eich cwrs.
C7: Alla i astudio cyfuniad o fodylau a gynigir ar draws y Brifysgol?
A: Gweler y wefan am wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael ar hyn o bryd. Ni fydd gofyn i fyfyrwyr astudio ar ddau gampws, ond bydd rhai rhaglenni’n cynnig dewis o ran campws i fyfyrwyr e.e. Astudiaethau Ffilm a’r Cyfryngau ac Astudiaethau Crefyddol. Rhagwelir y bydd cyfleoedd i rannu profiadau ac ehangu’ch astudiaethau ar gyfer y cyrsiau hyn drwy ddigwyddiadau academaidd a chymdeithasol cydweithredol.
C8: A allaf ddefnyddio’r cyfleusterau ar y ddau gampws?
A: Gallwch. Mae ystod o gyfleusterau a gwasanaethau ar y ddau gampws y gall myfyrwyr eu defnyddio.
C9: A oes cysylltiadau cludiant rhwng y campysau?
A: Mae cludiant cyhoeddus ar fws Traws Cambria rhwng trefi Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin. Gweler tudalennau Undeb y Myfyrwyr am wybodaeth am ddigwyddiadau ac achlysuron ar y ddau gampws.

