Cynllun Cyhoeddi

Cyflwyniad

Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2005 ac mae'n ceisio hyrwyddo agwedd agored a mwy o atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus. Mae'n rhoi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth gofnodedig a gedwir gan yr awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys prifysgolion), yn nodi eithriadau i'r hawl honno ac yn gosod nifer o rwymedigaethau i awdurdodau cyhoeddus.

Beth yw Cynllun Cyhoeddi?

Yn ôl y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae'n rhaid i'r Brifysgol gynnal cynllun cyhoeddi, sef dogfen sy'n amlinellu'r wybodaeth y mae'r Brifysgol yn ei darparu neu'n ei chyhoeddi yn rheolaidd, neu'n bwriadu ei darparu/chyhoeddi yn y dyfodol. Nid rhestr o ddogfennau gwirioneddol yw hwn, ond yn hytrach canllaw i'r 'dosbarthiadau' gwahanol o wybodaeth y mae'r sefydliad wedi gwneud ymrwymiad i'w darparu'n rhagweithiol.

Diben y cynllun cyhoeddi yw cynorthwyo'r cyhoedd i ddod o hyd i wybodaeth a gedwir gan y Brifysgol a lleihau'r angen i wneud cais ffurfiol am wybodaeth yn ôl y Ddeddf.

Sut y trefnir y cynllun

Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n cael ei drefnu yn saith dosbarth o wybodaeth:

  1. Pwy ydym ni a beth a wnawn
  2. Yr hyn a wariwn a sut yr ydyn ni’n ei wario 
  3. Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn perfformio 
  4. Sut y gwnawn benderfyniadau 
  5. Ein polisïau a'n gweithdrefnau 
  6. Rhestrau a Chofrestrau 
  7. Y gwasanaethau a gynigiwn

Gwnaeth y Brifysgol ymrwymiad i ddarparu i'r cyhoedd wybodaeth sy'n dod o dan y dosbarthiadau hyn. Ceir rhagor o fanylion am bob dosbarth yn nogfen y Comisiynydd Gwybodaeth, sef Dogfen Diffiniad y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol i brifysgolion.

Mae'n rhaid i ni hefyd ddarparu ‘canllaw i wybodaeth’, sy'n rhoi manylion mwy penodol am y wybodaeth sydd ar gael yn rheolaidd o dan bob un o'r saith dosbarth, sut y gellir gweld y wybodaeth a, phan y bo'n briodol, unrhyw newidiadau a wnaed.

Gwybodaeth sy'n cael ei heithrio o'r cynllun

Fel rheol ni fydd y wybodaeth sydd ar gael yn y dosbarthiadau yn cynnwys:

  • gwybodaeth sy'n cael ei heithrio o dan un o eithriadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu eithriadau'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, neu fod rhyddhau'r wybodaeth yn cael ei wahardd gan ystatud arall;
  • gwybodaeth sydd wedi'i harchifo, wedi dyddio neu sydd fel arall yn anhygyrch; neu 
  • gwybodaeth a fyddai'n anymarferol neu'n adnodd-ddwys i'w pharatoi i’w rhyddhau fel mater o arfer.

Fformatau eraill

Cyhoeddir gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg yn unol â chynllun Iaith Gymraeg y Brifysgol.

Cost

Mae llawer o'r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan. Mewn achosion lle mae'n anymarferol i ni ddarparu gwybodaeth drwy'r we, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi tâl am lungopïo, postio a phecynnu. Byddwn yn codi tâl pan fydd cyfanswm y costau yn £10 neu’n fwy.

Rhagor o wybodaeth

Gellir gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan y Brifysgol nad yw'n cael ei chyhoeddi yn ôl y cynllun hwn. Bydd ceisiadau o'r fath wedyn yn cael eu hystyried yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a'r Ddeddf Diogelu Data. E-bostiwch s.a.wilkinson@ydds.ac.uk am ragor o fanylion.

Hawlfraint

Mae bron bob un o'r cyhoeddiadau a restrir yn y cynllun hwn yn dod o dan hawlfraint Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a gallai atgynhyrchu deunydd a gyflenwir drwy'r cynllun cyhoeddi neu drwy ymateb i gais am wybodaeth, heb ganiatâd clir y Brifysgol (neu ddaliwr yr hawlfraint), dorri amodau'r hawlfraint.

Ceir gwybodaeth am hawlfraint o ran eitemau ar wefannau'r Brifysgol ar: Telerau ac Amodau

Manylion Cysylltu

E-bost: dpa@tsd.ac.uk

Cysylltu


E-bost: dpa@ydds.ac.uk