Strategaeth Dysgu ac Addysgu
Lle mae rhagoriaeth yn cyfrif
- Gwella Profiadau’r Myfyrwyr
- Datblygu a Hyfforddi Staff
- Adnabod a Chydnabod Rhagoriaeth mewn Addysgu
- Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu
- Gwella Sgiliau a Chyflogadwyedd Graddedigion
- Ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru, CCAUC a’r AAU
Cyflwyniad
Hon yw Strategaeth Dysgu ac Addysgu gyntaf Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS). Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw prifysgol fwyaf newydd Cymru ond mae iddi seiliau cadarn a thraddodiadau academaidd dau sefydliad hynaf y Dywysogaeth ym maes addysg uwch: Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan (PCLl) a Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin (CPYD).
Cenhadaeth y Drindod Dewi Sant yw
Rhagoriaeth mewn addysg, darpariaeth nodedig
Mae Strategaeth Dysgu ac Addysgu'r Brifysgol yn dangos sut y mae'r genhadaeth hon yn llywio pob agwedd ar ei gweithgarwch craidd. Yn arbennig, seilir y Strategaeth hon ar weledigaeth glir, sef cynnig y canlynol i ddysgwyr:
‘profiad dysgu personol mewn cymuned brifysgol gefnogol.’
Rydym yn awyddus i bwysleisio bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol ar raddfa ddynol sy’n cefnogi anghenion dysgu unigol a dyheadau pob un o’i dysgwyr. O’r cychwyn, mae’r Strategaeth Dysgu ac Addysgu yn cydnabod bod y Brifysgol yn cefnogi corff o ddysgwyr sy’n fwyfwy amrywiol. Mae hwn yn cynnwys yr isod:
- Dysgwyr ar y campws – amser llawn a rhan-amser
- Dysgwyr o bell
- Dysgwyr mewn sefydliadau cydweithredol sy’n bartneriaid
- Dysgwyr yn y gwaith
Mae hefyd gryn amrywiaeth oddi mewn i’r grwpiau hyn o ddysgwyr. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhyngwladol y Brifysgol ar hyn o bryd yn un o'r sefydliadau cydweithredol sy’n bartner iddi, sef Coleg Technoleg, Llundain (CTL).
Wrth ymdrechu i wireddu ein gweledigaeth o brofiad dysgu personol mewn cymuned brifysgol gefnogol, rhydd y Strategaeth Dysgu ac Addysgu felly dystiolaeth o’r ffyrdd y mae’r Brifysgol yn addasu’i darpariaeth yn ôl amgylchiadau gwahanol ddysgwyr, ond yn sicrhau mai’r un yw ansawdd a chymaroldeb y profiad.
Mae’r Strategaeth yn bwrw golwg gyfannol dros y gweithgareddau Dysgu ac Addysgu ar draws y sefydliad. Mae’n cydymffurfio â deddfwriaeth yng nghyswllt cydraddoldeb, gan gynnwys gofynion Deddf Cydraddoldeb Ebrill 2010.
Llywiwyd datblygiad y Strategaeth hon gan Bwyllgor Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu newydd a sefydlwyd o dan strwythur cydgynghorol a weithredwyd gan PCLl a CPYD yn ystod 2009/10. Datblygwyd y Strategaeth hon ymhellach yn ystod diwrnodau cwrdd i ffwrdd ar gyfer cynllunio strategol sydd wedi cynnwys pob pennaeth academaidd, ac a rannwyd â Phenaethiaid yr Unedau Cymorth.
Mae’r strategaeth hon yn parhau i ddefnyddio chwe phennawd allweddol CCAUC a ddynodwyd yn nogfen Strategaethau Dysgu ac Addysgu 2007/08 – 2009/10 (W07/16HE) sef:
- Gwella Profiadau’r Myfyrwyr
- Datblygu a Hyfforddi Staff
- Adnabod a Chydnabod Rhagoriaeth mewn Addysgu
- Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu
- Gwella Sgiliau a Chyflogadwyedd Graddedigion
- Ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru, CCAUC a’r AAU
Wedyn diffinnir targedau ansoddol a meintiol manwl, tymor byr a thymor canolig, ar gyfer gweithredu’r strategaeth, a’r targedau hyn yn rhai penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, perthnasol gyda therfyn amser iddynt.
Un o’r pwysleisiau sydd wrth wraidd y strategaeth hon yw pwysigrwydd dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg. Mae nifer o ffactorau yn cyfrif am hyn gan gynnwys yr amgylchedd newidiol a nodir yn nogfen JISC, Higher Education in a Web 2.0 World, bod yn rhan o Bartneriaeth Addysg Uwch De-orllewin Cymru (SWWHEP) a rhaglen CCAUC, ‘Gwella’.
Buddiol hefyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oedd cymryd rhan yn yr Academi Gyfoethogi, sef un o fentrau newydd yr Academi Addysg Uwch. Ynghyd ag wyth o brifysgolion eraill o bob cwr o’r DU, mae tîm Prifysgol Cymru Y
Drindod Dewi Sant wedi cael cefnogaeth wrth ddatblygu cynllun o newid sefydliadol sy'n canolbwyntio ar addysg a gyfoethogir gan dechnoleg.
Dyma sut y bydd cymryd rhan yn yr Academi Gyfoethogi yn ychwanegu gwerth at y Brifysgol newydd:
- ymgorffori dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg ar draws y sefydliad
- galluogi mentrau ar y cyd rhwng staff academaidd a staff cymorth o dan weledigaeth gyffredin
- cyfoethogi profiadau’r myfyrwyr sy’n fwy ac yn fwy amrywiol
- cefnogi a datblygu’r gymuned ddwyieithog ac amlddiwylliannol yn y brifysgol
- mynd i’r afael â blaenoriaethau ar draws y sefydliad a’r sector
- cyfrannu at y broses o weddnewid Cymru yn economi wybodaeth
- darparu’r platfform ar gyfer ceisiadau am gyllid allanol i gyrff allweddol megis JISC a chanolfannau pwnc yr Academi Addysg Uwch
- nodi’r arfer gorau y mae iddo effaith fesuradwy ar draws y Brifysgol
- sicrhau mynediad i ystod ehangach o ddysgwyr
- argymell ffyrdd o wella isadeiledd y Brifysgol.
Yn 2010/11 bydd tîm Academi Gyfoethogi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi nifer o brosiectau penodol a luniwyd gan adrannau academaidd ac adrannau cymorth. Yn sgil cymryd rhan yn rhaglen yr Academi Gyfoethogi, tynnwyd sylw’r Brifysgol at yr angen i sefydlu isadeiledd priodol i gefnogi’r ymdrechion parhaus i wella profiadau dysgwyr.
Y Blaenoriaethau Dysgu ac Addysgu ar gyfer 2010/11
Wrth reswm, bydd y Brifysgol yn parhau i ddatblygu pob agwedd ar ei gweithgarwch dysgu ac addysgu yn ystod
2010/11. Fodd bynnag, cytunwyd bod dwy thema'n haeddu sylw arbennig eleni:
- Ymgysylltu â Myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn rhoi bri mawr ar gyfraniad ei dysgwyr i’r gwaith o werthuso a chyfoethogi’i rhaglenni a phrofiadau ehangach dysgwyr. Yn 2010/11 bydd y Brifysgol yn datblygu’r ffyrdd sydd ganddi ar hyn o bryd o roi llais i fyfyrwyr, er enghraifft, trwy gyflwyno Fforwm Myfyrwyr newydd, sef Cyngor y Myfyrwyr. Bydd pwyslais arbennig ar roi llais i ddysgwyr sy'n astudio o bell neu mewn sefydliadau sy’n bartneriaid cydweithredol.
- Adnoddau a Chefnogaeth ar gyfer Dysgu. Trwy’r dulliau gwerthuso ac adolygu presennol megis ffurflenni gwerthuso modylau, adolygiadau blynyddol o raglenni a’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, mae’r Brifysgol yn derbyn bod ei dysgwyr wedi nodi pryderon ynghylch yr adnoddau a chefnogaeth a ddarperir ar gyfer dysgu. Yn ystod 2010/11, felly, bydd y Brifysgol yn ceisio mynd i’r afael â’r pryderon hyn mewn modd trefnus, gan gydweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr a’r Fforwm Myfyrwyr er mwyn cytuno ar dargedau penodol.
Cysylltau â Strategaethau eraill y Brifysgol
Datblygwyd y Strategaeth Dysgu ac Addysgu ar y cyd â strategaethau allweddol eraill y Brifysgol. Y Strategaeth Dysgu ac Addysgu sy’n eu llywio hwy a chaiff hithau ei llywio ganddynt. Yn benodol, dylid darllen y Strategaeth hon ar y cyd â’r canlynol:
- Y Strategaeth Wybodaeth sy’n rhoi manylion yr adnoddau allweddol a ddarperir er mwyn cefnogi dysgwyr y Brifysgol
- Y Strategaeth Ymchwil sy’n nodi’r croestoriad pwysig rhwng ymchwil, ysgolheictod ac addysgu ynghyd â rhoi manylion y fframwaith cefnogi a ddarperir i fyfyrwyr ymchwil y Brifysgol
- Y Strategaeth Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n rhoi tystiolaeth o’r modd y mae’r Brifysgol yn cefnogi ac yn cyfoethogi profiadau ehangach myfyrwyr
- Y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog sy’n tynnu sylw at ba mor hollbwysig yw darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol
- Y Strategaeth Ehangu Mynediad sy’n nodi’r ffyrdd y mae’r Brifysgol yn ceisio datblygu cymunedau dysgu cynhwysol ac amrywiol.
O’u hystyried gyda’i gilydd, yr hyn a gawn yn y strategaethau hyn yw trosolwg cyfannol o brofiadau dysgwyr yn y Drindod Dewi Sant a’r ymdrechion a wnawn gyda’n gilydd er mwyn cynnig ‘profiad dysgu personol mewn cymuned brifysgol gefnogol.’
Diben y Strategaeth yw bod yn ddogfen dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11 a byddwn yn dechrau ar y fframwaith ar gyfer llunio Strategaeth newydd ar gyfer 2011 ymlaen ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
1 Gwella Profiadau’r Myfyrwyr
Anela’r Brifysgol at gynnal rhagoriaeth mewn dysgu, addysgu ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Mae’n hollbwysig bod y Brifysgol yn ymdrechu i sicrhau cymaroldeb o ran profiadau’r myfyrwyr – ar gyfer y rheini sydd ar gampysau Llambed
a’r Drindod, ar gyfer myfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol, a myfyrwyr mewn sefydliadau sy’n bartneriaid a dysgwyr o bell.
Bydd y Brifysgol yn parhau i gydnabod pwysigrwydd creu asesiadau addas ar gyfer dysgu yn ei Rhaglenni Astudio ar bob lefel, ac mae’n hanfodol bod gan y Brifysgol newydd Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADRh) effeithiol.
Mae Strategaeth Ymchwil y Brifysgol a’r cysylltiad rhwng Ymchwil ac Addysgu sy’n perthyn i’r strategaeth honno (Gweler 1.2 Ymgorffori’r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysgu) yn allweddol i’r ddarpariaeth i fyfyrwyr. Bydd datblygu'r economi wybodaeth yn flaenoriaeth i'r Brifysgol newydd ac anogir yr holl staff academaidd i gyfrannu at fywiogrwydd ac adfywiad economaidd y rhanbarth drwy ledaenu ymchwil, ysgolheictod a’r arfer proffesiynol gorau. Y nod yw dod yn rhwydwaith o ragoriaeth yng Nghymru ym meysydd y Dyniaethau, Astudiaethau Addysg, y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau Creadigol a'r Celfyddydau Perfformio.
Yn y Brifysgol ceir tri gwahanol fath o waith ymchwil: ymchwil sy’n canolbwyntio ar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), ymchwil ym maes arloesi ac at ddibenion ymarferol, ac ymchwil sy'n gysylltiedig â darparwyr grantiau. Yn ogystal â datblygu, cryfhau a gwella’r tri math uchod yn annibynnol ar ei gilydd, nod y Strategaeth Ymchwil hon hefyd yw creu Strategaeth Ymchwil sy’n wirioneddol wedi’i hintegreiddio, gan gydblethu, lle bo modd, y gwahanol fathau o ymchwil, a rhoi cyfle i’r staff ddilyn ymchwil ryngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol, a sicrhau bod ymchwil yn rhan annatod o feddylfryd y Brifysgol gyfan. Diben arall i’r Strategaeth yw sicrhau bod ymchwil yn llywio holl addysgu’r sefydliad, hyd yn oed mewn mannau lle nad yw ymchwil yn cael y prif sylw.
Mae sicrhau cynrychiolaeth o blith y myfyrwyr yn elfen allweddol ar gyfer llywio’r gwaith o gynllunio a datblygu ar bob lefel. Bydd creu Fforwm Myfyrwyr yn cynyddu ymhellach y cyfleoedd a ddarperir gan y Brifysgol i rymuso a chynnwys myfyrwyr yn eu profiad dysgu eu hunain. (Gweler 1.16 Para 3). Etholir cynrychiolwyr o blith y myfyrwyr yn y tair Cyfadran ar y ddau gampws i wasanaethu ar y Fforwm hwn, a fydd yn gyfrwng pellach i fonitro profiadau’r myfyrwyr a thrafod gweithgareddau cyfoethogi. Bydd hefyd yn Fforwm i gefnogi Dogfen Hunanwerthuso Myfyrwyr yn y dyfodol y bydd ei hangen ar gyfer cylch nesaf Adolygiad Sefydliadol yr ASA.
Bydd Adolygiad Sefydliadol yr ASA ym mis Mehefin 2012 yn garreg filltir o ran monitro profiadau’r myfyrwyr. Bydd paratoadau ar gyfer yr archwiliad yn dechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2010/11 gan sicrhau mynd ati mewn modd cynhwysol i greu Dogfen Hunanwerthuso’r Brifysgol.
1.1 Meithrin annibyniaeth a datblygu sgiliau trosglwyddadwy
Bydd paneli dilysu mewnol ac allanol ar gyfer Rhaglenni Astudio yn parhau i sicrhau bod gan yr holl gyrsiau elfen sylweddol o hyfforddiant ym maes Sgiliau Astudio, a elwir hefyd yn Sgiliau Allweddol neu Drosglwyddadwy neu Sgiliau Cyflogadwyedd, elfen a fydd wedi’i hymgorffori yn y cwricwlwm, ac yn ogystal â hyn bydd sgiliau sy’n benodol i bwnc a sgiliau generig. Y nod yw creu dysgwyr a meddylwyr annibynnol, adfyfyriol, a deilliannau asesu trosglwyddadwy sy’n gysylltiedig â chyflogadwyedd. Mae ystod eang o sgiliau a phriodoleddau y gellir eu cyflwyno ym Mhortffolios Datblygiad Proffesiynol y Myfyrwyr, gan gynnwys:
- Ymholi deallusol
- Sgiliau Gwybodaeth (gan gynnwys ymchwil, dethol a threfnu)
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Sgiliau TGCh)
- Rhifedd a Dadansoddi, Dehongli ac Allosod Data
- Adfyfyrio a meddwl yn annibynnol
- Meddwl yn feirniadol ac yn gysyniadol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth
- Trefnu a Chynllunio (gan gynnwys gosod ac adolygu blaenoriaethau)
- Cyfathrebu a Chyflwyno (ysgrifenedig, gweledol ac ar lafar)
- Datrys problemau a gwneud penderfyniadau
- Arbrofi
- Archwilio cydweithredol wyneb yn wyneb
- Ymchwil sy’n seiliedig ar arfer
- Creadigrwydd
- Gwaith grŵp a thîm, rhwydweithio, cydweithio, arweinyddiaeth
- Sgiliau rhyngbersonol ar gyfer gwrando, trafod, darbwyllo a chyflwyno’n effeithiol a sensitifrwydd i amrywiaeth
- Hunanreolaeth, yn nhermau amser, gan gynnwys gweithio o fewn terfynau amser, cynllunio, ymddygiad, cymhelliant ac arloesedd a menter unigol
- Metasgiliau, gan gynnwys y gallu i adolygu a gwerthuso sefyllfa a nodi'r sgiliau a’r wybodaeth priodol y mae angen eu defnyddio, a sgìl wrth adolygu a chynllunio'u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain, gan gynnwys datblygu sgiliau.Gwaith grŵp a thîm, rhwydweithio, cydweithio, arweinyddiaeth
- Sgiliau rhyngbersonol ar gyfer gwrando, trafod, darbwyllo a chyflwyno’n effeithiol a sensitifrwydd i amrywiaeth
- Hunanreolaeth, yn nhermau amser, gan gynnwys gweithio o fewn terfynau amser, cynllunio, ymddygiad, cymhelliant ac arloesedd a menter unigol
- Metasgiliau, gan gynnwys y gallu i adolygu a gwerthuso sefyllfa a nodi'r sgiliau a’r wybodaeth priodol y mae angen eu defnyddio, a sgìl wrth adolygu a chynllunio'u datblygiad personol a phroffesiynol eu hunain, gan gynnwys datblygu sgiliau.
Dehongla’r staff academaidd Ddatganiadau Meincnodi Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd er mwyn ymgorffori cyfleoedd ar gyfer dysgu a meddwl yn annibynnol ac yn adfyfyriol ar draws eu Rhaglenni Astudio. Ymgynghorant â staff y Ganolfan Adnoddau Dysgu (CAD) a staff priodol eraill o’r Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth a Hysbysrwydd ynghylch y cydweithio a’r cyfraniad sydd eu hangen ar gyfer darparu’r cyfleoedd dysgu hyn yn effeithiol. Eglurir deilliannau dysgu, dulliau asesu a meini prawf asesu yn llawn i fyfyrwyr ar ddechrau pob modwl. Yn ogystal, parheir i gyflwyno ystod o ddulliau cefnogi perthnasol iawn i fyfyrwyr yn ystod y Cyfnod Cynefino yn y Brifysgol, gan gynnwys: adnoddau dysgu ac addysgu a lleoliadau gwaith. Darpara staff y Ganolfan Adnoddau Dysgu sesiynau sgiliau gwybodaeth – Llythrennedd Gwybodaeth, sef y broses gyflawn o addysgu myfyriwr i allu dysgu a chyfleu gwybodaeth ar ei ben ei hun, ac mae’n cwmpasu cyfraniadau gan staff academaidd, staff y CAD a staff TG. Mae’r CAD yn cynnig sesiynau ar Sgiliau Gwybodaeth, sy’n rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ynghylch sut i ddod o hyd i wybodaeth a’i thrin, a chefnogaeth ym maes Sgiliau Astudio.
Mae gan ddysgu a gyfoethogir gan dechnoleg rôl bwysig i’w chwarae o ran creu dysgwyr annibynnol.
Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol yn ymdrechu i groesawu technolegau newydd a nodi ffyrdd o’u defnyddio a all gyfoethogi’r dysgu, yr addysgu a’r ymchwil, yn ogystal â phrofiadau’r myfyrwyr yn gyffredinol. Eisoes datblygwyd nifer o enghreifftiau o arfer da, ac yn eu plith mae’r canlynol:
a) y defnydd cynyddol o Blackboard a Moodle, Amgylcheddau Dysgu Rhithwir (ADRh) y Brifysgol, i gyfoethogi a gwella profiadau dysgu’r myfyrwyr gan arwain at amgylchedd dysgu cyfunol - yn enwedig o ran ehangu’r defnydd o safleoedd wici a blogiau a lleoedd dysgu ar-lein personol a rhai ar gyfer grwpiau, sy’n ei gwneud yn haws i ddysgwyr weithio ar y cyd a meithrin arfer adfyfyriol
b) y defnydd cynyddol o e-adnoddau, e.e. e-lyfrau ac e-gylchgronau
c) Rhwydweithio Cymdeithasol a Ddiogelir – sy’n annog myfyrwyr i adfyfyrio ac i weithio’n annibynnol
ch) parhau i ddatblygu cadwrfa sefydliadol
d) cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru i ddefnyddio system ddilysu Athens y sefydliad sy’n galluogi defnyddwyr i fewngofnodi ar gyfer adnoddau ar-lein a ddiogelir â chyfrinair pan nad ydynt ar y campws, gan sicrhau chwarae teg i bawb sydd am fanteisio ar yr adnoddau ni waeth lle maent yn byw
dd) gwerthusiad personol electronig o waith ysgrifenedig mewn rhai Graddau Sylfaen
e) cofrestru arholwyr allanol ar yr ADRh Blackboard er mwyn eu galluogi i gael mynediad i waith trwy ddull electronig
f ) darparu modwl sgiliau astudio ar-lein i’r Fframwaith Arfer Proffesiynol gydag achrediad yn ddewisol
Hefyd mae’r Brifysgol yn ceisio manteisio ar yr adnoddau academaidd niferus sydd wedi dod ar gael ar-lein yn ddiweddar; un enghraifft yw prosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein a lansiwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac a fydd o fudd i fyfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Brifysgol yn parhau i gynnal hyfforddiant i staff a myfyrwyr er mwyn hwyluso’r gwaith o ddatblygu’r sgiliau priodol.
1.2 Ymgorffori’r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysgu
Mae’r Brifysgol yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd y cysylltiad rhwng addysgu ac ymchwil. Mae’n rhan o grŵp yr Academi Addysg Uwch ar y cysylltiad rhwng Ymchwil ac Addysgu gan adeiladu ar waith yr Academi Addysg Uwch a Chanolfannau Pwnc Addysg Uwch er mwyn datblygu a gwella’r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysgu yn y Drindod Dewi Sant. Trwy weithio yn y maes hwn, ategir gweledigaeth y Brifysgol ‘i gael ei chydnabod a’i hadnabod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer ymchwil, dysgu ac addysgu’ trwy ddatblygu a mynd ati i annog y cysylltiadau a’r gydberthynas agos sy’n bodoli rhwng addysgu, dysgu ac ymchwil.
Mae’r Brifysgol yn dehongli’r cysylltiad hwn rhwng ymchwil ac addysgu ar ei ystyr ehangaf, ac felly anela at wella a datblygu ymhellach addysgu a arweinir gan ymchwil, a lywir gan ymchwil, sy’n canolbwyntio ar ymchwil ac a seilir ar ymchwil. Ar lefelau 6 a 7 yn enwedig, llywir modylau yn aml gan yr ymchwil y mae’r staff yn ei gwneud, boed yn ymchwil academaidd neu’n ysgolheictod sy’n gysylltiedig ag arfer proffesiynol, ac, mewn nifer o achosion, diddordebau ymchwil y staff yw un o’r ffactorau sy’n helpu llunio’r cwricwlwm ar y lefelau hynny. Ar yr un pryd, perthynas ddwyochrog yw hon:
yn aml dylanwadir ar ymchwil staff gan yr hyn a addysgant, a bydd staff yn gwneud ymchwil er mwyn sicrhau bod modylau’n cael eu diweddaru, bod cwricwlwm diweddar a pherthnasol yn cael ei gynnig, a bod yr hyn a addysgir ganddynt yn dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn maes pwnc penodol. Yn y modd hwn, cyfoethogi profiadau’r myfyrwyr yn wir y mae’r ymchwil. Mae gan fyfyrwyr y Brifysgol gyfle i astudio wrth draed arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes a gallant fanteisio ar nifer o adnoddau unigryw (e.e. y Casgliadau Arbennig, Ystrad Fflur).
yn aml dylanwadir ar ymchwil staff gan yr hyn a addysgant, a bydd staff yn gwneud ymchwil er mwyn sicrhau bod modylau’n cael eu diweddaru, bod cwricwlwm diweddar a pherthnasol yn cael ei gynnig, a bod yr hyn a addysgir ganddynt yn dilyn y datblygiadau diweddaraf mewn maes pwnc penodol. Yn y modd hwn, cyfoethogi profiadau’r myfyrwyr yn wir y mae’r ymchwil. Mae gan fyfyrwyr y Brifysgol gyfle i astudio wrth draed arbenigwyr cydnabyddedig yn eu maes a gallant fanteisio ar nifer o adnoddau unigryw (e.e. y Casgliadau Arbennig, Ystrad Fflur).
1.3 Darparu rhaglenni cynefino a mentora effeithiol a dulliau effeithiol o werthuso cynnydd
Bwriada’r Brifysgol fynd ati’n barhaus i wella a diwygio’i phroses gynefino ar gyfer pob myfyriwr. Mae rhaglen gynefino lawn wedi esblygu ac, yn dilyn ceisiadau gan staff academaidd, mae myfyrwyr ar y campws yn treulio cyfnod sylweddol o’u hwythnos gyntaf yn y Brifysgol yn eu hysgolion academaidd. At hyn, mae’r myfyrwyr hyn yn ymgysylltu ag amrywiol unedau cymorth i sicrhau eu bod wedi'u paratoi’n llawn ar gyfer eu lefel astudio briodol mewn addysg uwch. Rydym wedi dechrau datblygu proses gynefino rithwir ar gyfer Myfyrwyr Dysgu o Bell ac mae unedau cymorth allweddol wedi cyfrannu ati.
Bydd blaenoriaethau Dysgu ac Addysgu yn parhau i fod yn elfen allweddol ym mhroses yr Wythnos Gynefino, a gofynnir i Ysgolion ac Unedau adfyfyrio’n feirniadol ar eu gweithgareddau. Yn dilyn yr Wythnos Gynefino rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddarparu adborth ffurfiol, ac anogir staff i gynnig gwelliannau i’r broses gynefino.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng nghyfnod blaengynllunio a gweithredu’r broses gynefino. Ers sawl blwyddyn bellach gweithredwyd cynllun ‘Cyfeillion y Glas’ yn ystod yr wythnos gynefino i fyfyrwyr ar y campws, ond mae Undeb y Myfyrwyr yn gobeithio ymestyn a datblygu hwn i fyfyrwyr partneriaid Cydweithredol a myfyrwyr Dysgu o Bell.
Bydd System Tiwtoriaid Personol y Brifysgol, sy’n gweithredu mewn Ysgolion Academaidd, yn parhau’n rhan annatod o broses gynefino a mentora myfyrwyr. Gwneir trefniadau mewn perthynas â Thiwtoriaid Personol ar lefel Ysgol sy’n adlewyrchu’r arddulliau Dysgu ac Addysgu a ddilynir yn y disgyblaethau priodol.
Anogir holl fyfyrwyr israddedig y flwyddyn gyntaf i ddatblygu eu Cynlluniau Datblygiad Proffesiynol (CDPau) wrth iddynt symud ymlaen â’u haddysg yn y brifysgol. Mae nifer o enghreifftiau parhaus o arfer da ym maes datblygiadau a gyfoethogir gan dechnoleg yng nghyswllt CDPau, ac yn eu plith mae defnyddio blogiau a datblygu CVs personol myfyrwyr ar Lefel 4. Gellid cyfoethogi’r datblygiadau hyn trwy ddefnydd pellach o Pebble Pad, e-bortffolio a system ddysgu bersonol, er mwyn parhau â’r datblygiadau i Lefelau 5 a 6 trwy ddefnydd posibl o hyfforddiant ar-lein a phodledu. Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol yn ymgorffori cyfleoedd i ddefnyddio meddalwedd e-bortffolio megis PebblePad ar gyfer hawlio cymhwysedd proffesiynol yn erbyn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS).
Bydd adrannau Gwasanaethau Myfyrwyr a Chyfarwyddiaeth Gwybodaeth a Hysbysrwydd y Brifysgol, ynghyd â’u Pwyllgorau cysylltiol, yn parhau i chwarae rôl gymorth allweddol yn y meysydd uchod. Bydd Gwasanaethau Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr gyda’u hanghenion academaidd a phersonol. Bydd cymorth o ran sgiliau astudio ac adnoddau dysgwyr ar gael ynghyd â gwasanaeth cwnsela arbenigol a chefnogaeth ychwanegol gan Gaplaniaid y Brifysgol. Caiff yr holl fyfyrwyr israddedig gyfle i’w sgrinio ar gyfer cymorth dysgu yn ystod y cyfnod cynefino, a bydd staff sydd â chymwysterau proffesiynol ar gael i gefnogi a chynghori myfyrwyr.
Bydd Cyfarwyddiaeth Gwybodaeth a Hysbysrwydd y Brifysgol yn rhoi cefnogaeth gysylltiol werthfawr ychwanegol i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod cynefino a thrwy gydol eu cyfnod astudio. Mae’r CAD bob amser yn awyddus i ddefnyddio dulliau a gyfoethogir gan dechnoleg er mwyn ehangu profiad y myfyrwyr, ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno technoleg hunanwasanaeth newydd, sesiynau sgiliau ychwanegol a nifer o ffurflenni adborth ar-lein. Ymhlith datblygiadau pellach yn yr arfaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2010/11, mae cyflwyno porth chwilio ar draws catalogau ar gyfer Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’r CAD wedi ymrwymo i addysgu myfyrwyr a staff i fanteisio i’r eithaf ar dechnolegau newydd, ac mae’n cynnal ymgynghoriadau sgiliau gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr unigol ar bob lefel, er mwyn helpu gwella sgiliau ar gyfer chwilio am wybodaeth yn electronig. Hefyd mae’r CAD yn canolbwyntio ar ryngweithio trwy gyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Twitter, blogiau a rhwydweithio cymdeithasol, yn ogystal â’r technolegau presennol megis gwefan y Brifysgol ac Amgylcheddau Dysgu Rhithwir, er mwyn canfod y dulliau sy’n gweithio orau i’n myfyrwyr wrth geisio darparu gwybodaeth, a derbyn adborth, am adnoddau a datblygiadau newydd.
Trwy gydol eu hymgeisyddiaeth, caiff y myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a’u tîm arolygu gefnogaeth y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig. Trwy’r swyddfa darperir ystod o swyddogaethau sy’n gwella amgylchedd ymchwil y Brifysgol wrth iddi oruchwylio pob cam o yrfa’r myfyriwr. Dyma rai o’r swyddogaethau cefnogi hyn: gweinyddu ceisiadau, cynnal diwrnodau cynefino, sesiynau gwybodaeth, cynadleddau o dan arweiniad myfyrwyr a’r Ysgol Haf Ymchwil flynyddol. Agwedd allweddol ar y swyddfa yw sicrhau integredd y Brifysgol ac o’r herwydd, caiff ceisiadau eu monitro’n ofalus ar gyfer y safonau priodol o ran sgiliau academaidd a sgiliau iaith Cymraeg/Saesneg. Wedyn caiff cynnydd y myfyrwyr ei fonitro’n ofalus ac yn systematig trwy adolygiadau rheolaidd eu tîm arolygu drwy gydol eu cyfnod astudio. Mae’r swyddfa hefyd yn sicrhau ei bod yn fan troi pwysig i’r myfyrwyr, gan gynnig gwybodaeth am gyrff ariannu, newidiadau pwysig yn cynnwys y rheini sy'n ymwneud â rheoliadau a gweithdrefnau, gwybodaeth am dimau arolygu, a threfnu byrddau arholi ar ddiwedd eu hymgeisyddiaeth, yn ogystal â diweddaru gwefan y Brifysgol yn barhaus. Cryfheir y cysylltau rhwng fforwm y myfyrwyr ôl-raddedig, y Pwyllgorau Ymchwil a Graddau Ymchwil a’r systemau gweinyddol ymhellach trwy wahodd un myfyriwr ymchwil i fod yn aelod o bob pwyllgor.
Yn ogystal â’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ar y ddau gampws, bydd y Drindod Dewi Sant yn creu Swyddfa Ryngwladol ar gampws Llambed ac yn penodi Swyddog Rhyngwladol Gweithredol a staff cefnogi cysylltiedig i sicrhau isadeiledd cefnogol i fyfyrwyr rhyngwladol. Bydd y Swyddfa Ryngwladol yn trefnu rhaglen ymgyfarwyddo benodol a chefnogaeth barhaus i bob grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n dod i’r ddau gampws. Hefyd, un o’r datblygiadau diweddar a gyfoethogir gan dechnoleg ac sy’n gwella profiadau’r myfyrwyr, oedd creu Profiadau Gwaith a Lleoliadau Cymunedol i Fyfyrwyr, a gysylltir ag un bartneriaeth ryngwladol. Fe’u hasesir gan y sefydliadau cartref a rhyngwladol trwy flogiau wythnosol ar-lein.
Bydd Ysgolion Academaidd yn gwerthuso’n rheolaidd gynnydd myfyrwyr unigol ar Raglenni Astudio. Bydd Byrddau Ysgol yn ystyried y materion hyn, a chynigir cymorth ychwanegol yn rheolaidd i fyfyrwyr neu rhoddir cyngor iddynt ynglyˆn â’u cynnydd cyfredol. Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd gwerthusir cynnydd y myfyrwyr ymhellach, ar lefel unigol ac ar lefel bynciol, yn ystod trefniadau’r Byrddau Ysgol a’r Byrddau Dilyniant a Dyfarnu. Bydd y Dirprwy Isganghellor (Academaidd) a’r Deoniaid Cyfadran, ar y cyd â’r Arholwyr Allanol, yn bwrw golwg cyfannol dros gynnydd myfyrwyr. Hefyd mae’r Byrddau Ysgol, Dilyniant a Dyfarnu yn defnyddio dulliau electronig o arddangos canlyniadau myfyrwyr yn hytrach na chopïau caled.
1.4 Creu asesiadau priodol ar gyfer dysgu
Bydd y Brifysgol yn parhau i gydnabod pwysigrwydd creu asesiadau addas ar gyfer dysgu yn ei Rhaglenni Astudio ar bob lefel. Mae Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol yn cynnwys y Polisi Asesu Cyffredinol sydd yn rhoi cyngor clir ar y swyddogaethau cyfrifoldeb penodol sy’n gysylltiedig ag asesiadau i fyfyrwyr, sef y Dirprwy Is-ganghellor (Academaidd), Deoniaid Cyfadran, Penaethiaid Ysgol, Cydlynwyr Rhaglenni a Thiwtoriaid. O ran asesiadau unigol, mae pwysigrwydd allanoldeb yn y broses yn amlwg drwy gydol y Bennod hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cyflwynwyd nifer o enghreifftiau o arfer da o ran cyfoethogi gan dechnoleg mewn asesiadau. Dyma rai ohonynt: lanlwytho aseiniadau ar ADRh; dyddiaduron electronig – blogiau; tasgau cydweithredol ar-lein – gwefannau wici; cwestiynau amlddewis ar-lein; trafod materion sy’n ymwneud â chynaladwyedd ac ailgylchu trwy gyfrwng Platfform Rhwydweithio Cymdeithasol SusBuzz. Nodir bod Asesu Cymheiriaid ar-lein yn faes i’w ddatblygu yn y dyfodol.
Cyfrifoldeb y tiwtoriaid fydd tasgau asesu o hyd i ddechrau, a’r Pennaeth Ysgol yn rhoi sêl bendith. Caiff manylion pob gwaith cwrs a asesir a phob papur arholiad sy’n cyfrannu at ddyfarniad (Lefelau 5 a 6) a phapurau arholiad Lefel 4 (sy’n cyfrannu at ddyfarniadau terfynol e.e. Graddau Sylfaen a Thystysgrifau) eu hanfon o hyd trwy'r Uned Sicrhau Ansawdd at yr Arholw(y)r Allanol priodol am sylwadau a sêl bendith. Bydd adroddiadau'r Arholwyr Allanol yn nodi a gynhaliwyd y broses hon ac yn gofyn am sylwadau ynghylch cydbwysedd a thegwch y dulliau asesu, ac a oeddent yn adlewyrchu amcanion y Rhaglenni. Yn ogystal, rhaid i feini prawf asesu'r tiwtoriaid ar gyfer y tasgau asesu gael eu cysylltu’n glir â deilliannau dysgu’r modylau a’u cyflwyno i arholwyr allanol.
Wedyn caiff yr adborth allanol hwn ei gyfleu i’r myfyrwyr a’r staff yn yr Adolygiad Blynyddol/Bwrdd Astudiaeth/Pwyllgor Ymgynghori â Myfyrwyr priodol a bydd staff yn adfyfyrio arno. Bydd y broses hon yn cyd-fynd ar lefel strategol â’r gorolwg blynyddol a baratoir yn ganolog o holl Adroddiadau'r Arholwyr Allanol, ac a drafodir yn y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd a’r Senedd. Mae prosesau'r Archwiliad Ysgol a’r Adolygiad Pum Mlynedd hefyd yn cynnwys archwiliad allanol ychwanegol o’r asesiadau ar gyfer dysgu. Disgwylir y bydd y cylch cyntaf o Archwiliadau Ysgol wedi’i gwblhau erbyn Rhagfyr 2010; bellach mae Archwiliadau Ysgol ac Adolygiadau Pum Mlynedd wedi dechrau cael eu corffori o fewn digwyddiadau archwilio tri diwrnod pan fo hynny’n ymarferol.
Ynghylch adborth i fyfyrwyr, mae nifer o enghreifftiau o arfer da ar draws y Brifysgol lle y cyflwynwyd dulliau cyfoethogi gan dechnoleg yn ddiweddar. Nodwyd y rhain mewn Archwiliadau Ysgol diweddar, mewn Adroddiadau Arholwyr Allanol ac yn ystod Digwyddiadau Dilysu. Mae’r enghreifftiau hyn yn cynnwys adborth personol ar-lein i fyfyrwyr mewn nifer o feysydd pwnc. Mae angen hyfforddiant pellach canolog i staff er mwyn a) codi ymwybyddiaeth o’r posibiliadau mae’r technolegau newydd yn eu darparu ar lefel Ysgol, a b) rhannu enghreifftiau o arfer da. Yn sgil y cyflwyno cychwynnol hwn bydd angen cysylltiedig wedyn i gyflwyno hyfforddiant cysylltiedig i fyfyrwyr.
1.5 Annog ehangu cyfranogiad/mynediad a sgiliau sy’n dilyn y galw
Mae Strategaeth Ehangu Mynediad y Brifysgol a’r Cynlluniau Gweithredu sy’n gysylltiedig â hi yn pwysleisio’n ofalus ddull rhanbarthol Llywodraeth Cynulliad Cymru o gynyddu cyfranogiad grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol mewn Addysg Uwch. Mae cynlluniau’r Brifysgol yn cydblethu ag agenda gweddnewid Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy greu cysylltiadau cadarn ag Addysg Bellach yn y rhanbarth. Bellach mae datblygiadau cyfredol mewn perthynas â phartneriaid lleol ym maes addysg bellach yn dwyn ffrwyth gan greu cyfleoedd i gydgynllunio’n strategol a chyd-ddilysu rhaglenni newydd mewn meysydd pwnc allweddol. O ganlyniad, mae’r Brifysgol newydd ar y blaen o ran cynllunio rhanbarthol sy’n flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i nodi.
Ar 30ain Mawrth 2009 lansiwyd ‘AUR/Going for Gold’ yng Ngholeg Prifysgol y Drindod ac yn Y Senedd yng Nghaerdydd, lle traddododd Jane Hutt, Gweinidog dros yr Adran Plant, Addysg, Dysgu gydol Oes a Sgiliau, y prif anerchiad yn canmol Uwch Dîm Rheoli’r Brifysgol am ddyfeisio’r cynllun partneriaeth newydd hwn a geisiai fynd i’r afael â rhai o’r materion a nodir yn nogfen LlCC ‘Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru’. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae creu cynllun Aur y Gyfadran Gysylltiol eisoes wedi sefydlu rhwydwaith blaengar o gysylltiadau a darpariaeth o ran modylau lefel 4, gyda mwy na 500 o fyfyrwyr chweched dosbarth o 27 o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar draws De Cymru. Mae’r ddarpariaeth boblogaidd gyfredol yn canolbwyntio ar ‘Fagloriaeth Cymru’a ‘Sgiliau Academaidd’, a bellach, yn sgil galw oddi wrth ysgolion, cynigir mwy o fodylau pynciol megis Tsieinëeg, Athroniaeth a Chymraeg Galwedigaethol hefyd.
Bwriada’r Brifysgol hybu ymhellach botensial y Fforwm Ehangu Mynediad a grëwyd yn ddiweddar, ac sydd â chynrychiolwyr o bob maes academaidd a maes cymorth perthnasol, i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu Ysgolion ac Unedau Cymorth yn y maes hwn. Mae Cynllun Strategol y Brifysgol yn disgrifio’n ofalus y modd y bwriada ymateb i’r galwadau lleol a chenedlaethol sy’n newid yn barhaus. Mae Cylchlythyr W08/12HE CCAUC, Enhancing Learning and Teaching through Technology: a Strategy for Higher Education in Wales hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyblygrwydd a hygyrchedd cynyddol o ran y ddarpariaeth, a bwriada’r Brifysgol sicrhau bod technoleg gadarn yn ei lle i gefnogi’r datblygiadau hyn. Cynyddu wnaeth pwysigrwydd sicrhau bod y systemau hyn yn rhai cadarn yn sgil nifer o ddatblygiadau newydd sy’n gysylltiedig ag ehangu cyfranogiad/mynediad a sgiliau sy’n dilyn y galw, ac mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: a) Graddau Sylfaen, b) rhaglenni dysgu seiliedig ar waith, c) defnyddio e-diwtorialau trwy wegamerâu. Mae trafodaeth gyson ar faterion sy’n ymwneud â gallu myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i fanteisio ar dechnoleg gan Grwpiau Ffocws y Brifysgol, a lle bo’n briodol rhoddir adroddiad arnynt ar lefel Pwyllgorau’r Brifysgol.
Mae’r Brifysgol wedi bod yn bartner allweddol ym mhrosiect CCAUC Datblygiad Strategol Dysgu Lefel Uchel ar gyfer y Gweithlu yng Nghymru, a chafodd ei chomisiynu i gynhyrchu prosiect ymchwil ynghylch defnyddio contractau dysgu wrth ddatblygu’r gweithlu. Hi oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i lunio Fframwaith Arfer Proffesiynol cynhwysfawr, sy’n gyfrwng arloesol ar gyfer creu dyfarniadau AU sy’n seiliedig ar waith. Mae’r Fframwaith yn cydnabod pwysigrwydd datblygu dulliau addysgeg effeithiol ac arloesol, a gwneud yn fawr o ddysgu cyfunol a chyfryngau cymdeithasol. Mae’n caniatáu i ddysgwyr ennill credydau academaidd am ddysgu blaenorol, drwy brofiad a thystysgrifedig, ac mae’n gwneud hyn trwy broses o Gydnabod ac Achredu Dysgu. Hefyd mae’n galluogi cyflogwyr i achredu’u rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus, er mwyn gallu achredu dysgu yn y gwaith a’i grynhoi dros amser ar gyfer dyfarniadau diffiniedig ym maes addysg uwch.
1.6 Cynnal asesiadau mewnol ac allanol o brofiadau’r myfyrwyr
Dyma sut y cynhelir asesiadau mewnol ac allanol trylwyr o brofiadau’r myfyrwyr: Adolygiad Sefydliadol yr ASA, Arolygiadau Estyn, Craffu ar gyfer TDAPs, yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Archwiliadau Ysgol a Phrifysgol, Adolygiadau Blynyddol, Adolygiadau Pum Mlynedd, Adroddiadau Arholwyr Allanol, Cynrychiolwyr Allanol.
Ar hyn o bryd mae proses ofalus, sydd wedi hen ennill ei phlwyf, o gynnal Adolygiadau Blynyddol/Byrddau Astudiaeth ac Adolygiadau Pum Mlynedd o’r holl Raglenni Astudio, yn cael ei mabwysiadu ar draws YDDS. Mae allanoldeb yn parhau i fod yn elfen hanfodol o’r digwyddiadau hyn, a bydd Adroddiadau Arholwyr Allanol ac aelodau allanol y paneli yn parhau i fod yn ganolog i strwythur a phroses yr adolygiadau hyn. Yn ogystal mae Archwiliadau Ysgol ac Unedau Cymorth yn bwrw golwg cyfannol dros weithgarwch Ysgolion neu Unedau gan bwyso a mesur pob agwedd ar brofiadau’r myfyrwyr.
Mae’r Archwiliadau hyn wedi bod yn elfen bwysig o’r gwaith o asesu profiadau’r myfyrwyr yn CPYD a chânt eu cyflwyno ar gampws Llambed yn ystod 2010/11.
Yn ystod 2007/08, cynhaliodd Estyn arolygiad o’r ddarpariaeth o ran HAGA yn y sefydliad a’i ysgolion partner, a nodwyd yn eglur yn yr adroddiad terfynol i’r Sefydliad wneud buddsoddiadau da mewn adnoddau gan gynnwys TGCh. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r hyfforddeion yn meddu ar sgiliau TGCh personol da; yn defnyddio TGCh yn dda i gadw cofnodion a chynhyrchu adnoddau o ansawdd da, ac yn gwneud defnydd da o amrywiaeth eang o TGCh wrth addysgu. Hefyd, barnwyd bod llawer o hyfforddeion ar gyrsiau cynradd ac uwchradd yn defnyddio camerâu’n briodol i gofnodi tystiolaeth weledol o gynnydd disgyblion. Yn wir, yn ôl Estyn, un o nodweddion rhagorol yr addysgu yn y rhaglenni cynradd a rhaglen TAR uwchradd oedd eu bod yn “defnyddio TGCh yn gyson mewn modd creadigol a dyfeisgar iawn.”Gwelwyd bod tiwtoriaid yn cynllunio ac yn cyflwyno sgiliau allweddol yn llwyddiannus ac roedd hyn yn cynnwys defnydd cadarn o TGCh.
Ar hyn o bryd mae Ysgol HAGA yn adolygu’r ffordd mae’n defnyddio TGCh i gefnogi dysgu ac addysgu, ac o ganlyniad i fuddsoddiad diweddar gan CCAUC yn yr isadeiledd i gefnogi’r broses o ail-gyflunio HAGA ar draws De-orllewin Cymru, mae datblygiadau arwyddocaol pellach yn yr arfaeth dros y misoedd nesaf, gan gynnwys sefydlu canolfan adnoddau digidol i gefnogi dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y sector.
Y llynedd oedd yr ail flwyddyn i ymatebion y myfyrwyr i’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr fod yn ddigon arwyddocaol i ganiatáu dadansoddiad manwl o’r darganfyddiadau trwy’r Pwyllgor Sicrhau Ansawdd a Byrddau a Phwyllgorau perthnasol eraill. Yn ogystal, mae proses yr Adolygiadau Blynyddol/Byrddau Astudiaeth yn caniatáu i ganfyddiadau gael eu trafod ymhellach â chynrychiolwyr y myfyrwyr.
Mae’r Brifysgol wedi gweithredu gofynion canllawiau Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru yn llawn yn yr holl Raglenni Astudio. Mae’r Brifysgol wedi rhoi sylw i ddatblygiadau Ewropeaidd, ac eisoes wedi casglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen i ddarparu trawsgrifiadau myfyrwyr yn unol â Chytundeb Bologna, ac mae’n gobeithio bwrw ymlaen â’r broses hon fel rhan o’r trefniadau cydweithredol gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae’r wybodaeth i fyfyrwyr a gadwyd yn flaenorol ar wefan y TQI bellach yn cael ei rhoi ar wefan newydd y Brifysgol ac yn y dyfodol, bydd adborth priodol ar gael ar wefan UNISTATS.
1.7 Darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a chefnogaeth yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog
Mae Datganiad Cenhadaeth y Brifysgol a’i Chynllun Strategol 2010-2013 yn cydnabod yn glir bwysigrwydd datblygiad yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog wrth Ddysgu ac Addysgu. Hon yw’r Brifysgol sydd â’r gyfran fwyaf o fyfyrwyr o blith Prifysgolion Cymru sy’n dilyn elfen o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae mwyafrif yr Ysgolion academaidd yn darparu cyfleoedd dysgu dwyieithog sylweddol i’w myfyrwyr, tra bo tair Ysgol – Ysgol HAGA, Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau ac Ysgol Plentyndod Cynnar, yn cynnig rhaglenni gradd cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Ysgolion hyn gyda’r mwyaf blaengar ym maes darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac yn eu timau mae nifer o ymarferwyr dwyieithog profiadol sy’n uchel iawn eu parch. Mae'r Ysgolion Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau, Plentyndod Cynnar a Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored wedi cael dau Gymrawd Addysgu Cyfrwng Cymraeg yr un yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad uniongyrchol i hyn, mae'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â nifer y cofrestriadau ar fodylau cyfrwng Cymraeg, wedi cynyddu.
Mae’r Brifysgol wedi sefydlu perthynas waith agos â’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (CAUCC), a leolir ar y campws yng Nghaerfyrddin, a thrwyddi mae'r Brifysgol wedi ennill cyllid i ymgymryd ag ystod o brosiectau i wella’r modd o ddarparu rhaglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, mewn meysydd megis Gwaith Ieuenctid a Chymuned, y Cyfnod Sylfaen, Cynhwysiant Cymdeithasol, Gwneud Ymchwil mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfryngau Digidol. Gyda chefnogaeth CAUCC, mae’r Brifysgol wedi penodi Cydlynydd Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Ystyrir hwn yn benodiad allweddol i’r sefydliad, a bydd deiliad y swydd yn cydweithio’n agos ag Ysgolion i gynyddu’u darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ymhellach, ac i annog rhagor o fyfyrwyr Cymraeg i astudio rhan o’u rhaglen o leiaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd mae’r Brifysgol yn cynnig hyd at naw deg o Fwrsarïau Addysg Cyfrwng Cymraeg/Dwyieithog i fyfyrwyr sy’n penderfynu astudio’u dewis raglen trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Trwy’r Uned Gwasanaethau Cymraeg, bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig rhaglen Cymraeg Galwedigaethol i bob un o'i myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Bydd y rhaglen hon yn eu galluogi i wella’u sgiliau iaith ymhellach, boed yn sgiliau llafar neu’n sgiliau ysgrifenedig. Cynigir y rhaglen i staff y Brifysgol hefyd, ynghyd ag amrywiaeth o raglenni Cymraeg i Oedolion. Fel corff cyhoeddus, mae’n ofynnol i’r Brifysgol baratoi Cynllun Iaith Gymraeg. Cafodd fersiwn diwygiedig o’r Cynllun ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar, a chaiff ei weithredu yn ystod blwyddyn academaidd 2010/11. Er mwyn datblygu a chyfoethogi’i darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhellach, mae’r Brifysgol yn buddsoddi’n helaeth ar hyn o bryd mewn dwy fenter newydd, sef y Gyfadran Gysylltiol a Dysgu seiliedig ar Waith. Bydd y Gyfadran Gysylltiol yn galluogi myfyrwyr 16-18 oed gofrestru ar fodylau Lefel 4 yn gysylltiedig â’r agenda sgiliau, ac mae arwyddion cynnar yn awgrymu y bydd holl ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg de a chanolbarth Cymru yn cefnogi’r cynllun hwn. Mae llawer yn gweld y fenter flaengar hon, sydd â’r potensial i arloesi yn y maes, fel Cyfadran Gyflenwi i’r Coleg Ffederal arfaethedig, a sefydlir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn blwyddyn academaidd 2010/2011. Hefyd mae’r Brifysgol yn credu bod Dysgu seiliedig ar Waith yn fodd i ehangu’i darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a dylai ystod y cymwysterau sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith Arfer Proffesiynol a ddilyswyd yn ddiweddar fod o ddiddordeb i nifer o gyflogwyr yn yr ardal leol ac ar draws y rhanbarth.
Mae Cylchlythyr W08/12HE CCAUC, Enhancing Learning and Teaching through Technology: a Strategy for Higher Education in Wales yn tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg wrth hwyluso addysg cyfrwng Cymraeg, ac unwaith eto mae buddsoddiad priodol gan y Brifysgol yn parhau. Dyma rai o’r datblygiadau newydd yn y maes hwn: a) Cylchgronau Cymru Ar-lein, b) gwefan Gymraeg sy’n gysylltiedig â Gwaith Ieuenctid a Chymuned, c) Prosiect Dyslecsia Cymru – mae gwefan gysylltiedig yn cael ei chreu ar hyn o bryd ar Blackboard, ch) Geiriau Bach – crëwyd gwefan gysylltiedig. Ar hyn o bryd mae’r Brifysgol wrthi’n sefydlu Canolfan Adnoddau Digidol Cyfrwng Cymraeg a fydd yn caniatáu i dîm o staff penodol weithio gydag Ysgolion academaidd i gynhyrchu adnoddau digidol o safon uchel, a fydd yn cefnogi profiadau dysgu’r myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid nodi hefyd y gosodir yr holl brosiectau a nodir uchod ac a ariennir gan CAUCC ar Y Porth, sef rhaglen Blackboard sy’n gyfan gwbl Cymraeg ar gyfer holl fyfyrwyr AU Cymru. CAUCC a’i datblygodd, CCAUC sy’n ei ariannu ac fe’i cynhelir ym Mhrifysgol Abertawe, sef un o bartneriaid y Brifysgol yn SWWHEP.
Bellach mae Cysgliad (gwirydd sillafu/thesawrws ar y cyd) wedi ei fewnosod ar bob cyfrifiadur ar gampws Caerfyrddin er mwyn cefnogi Addysg cyfrwng Cymraeg.
1.8 Cadw Myfyrwyr
Ym Mehefin 2007 ffurfiodd CPYD ei Strategaeth Cadw Myfyrwyr yn dilyn ymchwil a dadansoddi gofalus ynghylch rhesymau myfyrwyr dros adael. Mae’r strategaeth wedi’i strwythuro o amgylch pum thema allweddol: rhannu gwybodaeth, didoli, cefnogi, cysylltu a thrawsnewid. Er mai datganiad polisi cyntaf y Brifysgol yw hwn, mae’n mynd ati i fapio arferion a pholisïau cyfredol “sefydledig” gan argymell mentrau ategol eraill. Ym mhob un o’r pum thema allweddol uchod mae’r strategaeth yn nodi gweithredoedd, rhesymeg a phobl sy’n gyfrifol. Caiff y strategaeth hon ei thracio a’i gwerthuso i sicrhau, yn enwedig yng ngoleuni heriau ehangu mynediad, fod yr egwyddorion allweddol yn y Strategaeth Cadw Myfyrwyr wir yn adeiladu ar strategaethau cyfredol y Brifysgol ac yn gwella profiadau’r myfyrwyr. Ar hyn o bryd nid oes gan gampws Llambed Strategaeth Cadw Myfyrwyr ac felly bydd angen i'r brifysgol newydd lunio Strategaeth Cadw Myfyrwyr yn ystod y flwyddyn nesaf.
1.9 Arweiniad, cwnsela, gofal bugeiliol, a chymorth i fyfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn defnyddio gwefan, mewnrwyd ac ADRh Blackboard y Brifysgol i ddarparu gwybodaeth am ystod eang o wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys cymorth ariannol, cwnsela, anghenion ychwanegol, gyrfaoedd, cymorth dysgu (Anawsterau Dysgu Penodol), cymorth astudio a llety.
Mae rhai ffyrdd penodol o ddefnyddio technoleg i gyfoethogi gwaith Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnwys:
- darparu e-arweiniad/cyngor gyrfaoedd
- cyngor/arweiniad ar Gynlluniau Datblygiad Proffesiynol (CDPau), gyrfaoedd, cymorth dysgu (Anghenion Dysgu Penodol), cymorth astudio a chwnsela ar yr ADRh Blackboard
- defnyddio gwefan GO Wales i hyrwyddo cyfleoedd lleoliadau gwaith a Blas ar Waith (gan gyfrannu at gyflogadwyedd myfyrwyr)
- adnoddau’r we e.e. Prospects – ar gyfer swyddi i raddedigion, astudiaeth ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth gyrfaoedd i raddedigion, e-arweiniad, Adult Directions, Dysgu Rhwydwaith Cymru
- ymchwilio i botensial PebblePad – amgylchedd dysgu personol y gall myfyrwyr ei ddefnyddio fel cyfrwng rheoli gyrfa/blog ac fel modd o arddangos gwaith myfyrwyr. (Mae hwn yn rhan o fenter gydweithredol SWWHEP ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ac mae wedi cynnwys penodi cydlynydd e-ddysgu a CDPau)
- defnyddio meddalwedd gymorth gan diwtoriaid Cymorth Dysgu
- defnyddio gwefan cymorth astudio ryngweithiol ar gyfer myfyrwyr sydd â dyslecsia
- archwilio potensial fideo-gynadledda i’w gwneud yn haws i fyfyrwyr fanteisio ar y gwasanaeth cwnsela
Mae Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnwys cynlluniau unigol ar gyfer unedau, gan gynnwys: Gyrfaoedd; Go Wales; Gwasanaethau Cwnsela Myfyrwyr; Anghenion Ychwanegol (Anabledd); Llety; Cymorth Dysgu (ADP); Cymorth Astudio; a Chyllid Myfyrwyr. Bydd staff ar gael i gynnig cymorth cyfannol a chynhwysfawr yn y meysydd allweddol hyn. Bydd Gwasanaethau Myfyrwyr hefyd yn parhau i gyhoeddi llyfryn blynyddol i fyfyrwyr, sef Cymorth i Oroesi, sy’n cynnwys gwybodaeth allweddol am arweiniad, cwnsela, gofal bugeiliol a chymorth i fyfyrwyr.
Yn ogystal, mae’r Ysgolion academaidd yn cydweithio’n agos â Gwasanaethau Myfyrwyr i gynnig dulliau cymorth effeithiol yn y meysydd allweddol uchod. Mae’r gwasanaethau arweiniad addysgol, personol a galwedigaethol hyn yn cynnig cefnogaeth a chyngor diduedd, cyfrinachol a hwylus i bob myfyriwr. Mae’r ymrwymiad cryf i sicrhau cyfle cyfartal i bob myfyriwr yn parhau’n flaenoriaeth. Yn ychwanegol at hyn, mae tiwtoriaid personol yn parhau i gynnig gofal bugeiliol a chymorth allweddol mewn Ysgolion academaidd, ac mae manylion y trefniadau ar gyfer y cymorth hwn i’w cael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Daeth cyfleoedd pellach ar gyfer datblygu strategol o ganlyniad i raglen gydweithredol SWWHEP ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Gwnaethpwyd tri phenodiad newydd ar y cyd a fydd yn gwella’n sylweddol rôl Gwasanaethau Myfyrwyr: i) Cydlynydd Cyflogadwyedd a Marchnata, ii) Cydlynydd Gyrfaoedd, e-Ddysgu a CDP. Bydd y cydweithredu hefyd yn caniatáu ystod o ddatblygiadau strategol ychwanegol yn y meysydd canlynol: i) adnoddau ac arbenigedd gyrfaoedd, ii) cefnogaeth gan Ganolfan Trawsgrifio, Prifysgol Abertawe, iii) gwasanaeth arbenigol i gefnogi myfyrwyr ag anawsterau iechyd meddwl, iv) cyfeiriadau'r Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Bellach crëwyd gwefan SWWHEP newydd ar http://swwhep.ac.uk sy’n rhoi manylion a gwybodaeth am bob un o’r 16 llinyn unigol a gwmpesir gan Brosiect SWWHEP 2007-10.
Mae ymrwymiad parhaus yn y Brifysgol i ddatblygu cymorth ar-lein effeithiol i fyfyrwyr, ac mae datblygiadau allweddol diweddar yn cynnwys cyflwyno modwl Gwasanaethau Myfyrwyr ar Blackboard sy’n cynnwys gwybodaeth am gwnsela, cymorth ariannol gan gynnwys cynllun Meddygon Arian y Brifysgol a chymorth dysgu. Mae’r prosiect Meddygon Arian yn helpu myfyrwyr y Brifysgol i ddod yn ariannol gymwys trwy addysg ac ymyriadau. Mae’n annog myfyrwyr i wynebu dyled ac i gymryd rheolaeth o’u harian eu hun cyn iddynt brofi anawsterau. Anawsterau ariannol yw un o’r prif ffactorau sy’n cyfrif am berfformiad academaidd is ac am fyfyrwyr yn rhoi’r gorau i’w cyrsiau. Cychwynnodd y Drindod gynllun Meddygon Arian yn 2006 i ddatblygu dulliau newydd a rhagweithiol o annog myfyrwyr i gymryd rheolaeth o’u harian eu hun ac i wynebu problemau gyda dyled. Gwasanaethau Myfyrwyr a’r Adran Gyllid sy’n rhedeg y cynllun Meddygon Arian, ac mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch materion ariannol sy’n effeithio ar fyfyrwyr.
Nod y cynllun Meddygon Arian yw annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu cyllid a chynyddu hyder myfyrwyr, er mwyn eu paratoi’n well i ddelio â materion ariannol yn y dyfodol – a sicrhau gallu ariannol gydol eu hoes.
1.10 Datblygu’r cyfleoedd ar gyfer Gwella Ansawdd
Cofnodir agwedd y Brifysgol at Wella Ansawdd yn ofalus yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Bydd y Brifysgol yn parhau i geisio gwella’r addysgu yn y sefydliad ac i ymateb i’r ysgogyddion allanol megis: ehangu mynediad; newidiadau mewn disgyblaethau pwnc; dulliau newydd o ddysgu, gan gynnwys dysgu sy’n seiliedig ar waith a dysgu wrth ymarfer; technolegau newydd a dulliau mwy hyblyg o gyflwyno; cyfleoedd cydweithredol newydd. O’r herwydd, mae’r Brifysgol wedi nodi cyfres o ysgogyddion allweddol ar gyfer Gwella Ansawdd yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, a disgwylir i’r rhain wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad pob myfyriwr.
Mae’r angen i werthuso’n barhaus a rhannu arfer da yn hollbwysig wrth i’r Brifysgol ddelio â chorff o fyfyrwyr sy’n fwy ac yn fwy amrywiol. Mae’n ofynnol i Ysgolion adolygu eu harfer cyfredol a nodi materion ychwanegol sy’n ymwneud â gwella ansawdd fel rhan o broses yr Adolygiad Blynyddol. Hefyd fel rhan o’r cylch blynyddol, caiff materion a godir yn yr Adolygiadau Blynyddol eu cynnwys wedyn yn Nogfen Gwella Ansawdd y Brifysgol. Bob blwyddyn bydd adroddiad cyfansawdd sy’n seiliedig ar gofnodion yr holl Fyrddau Astudiaeth / Adolygiadau Blynyddol yn cael ei baratoi’n ganolog, er mwyn nodi meysydd o arfer da i’w hystyried gan y Pwyllgor Sicrhau Ansawdd a’r Senedd.
Yn yr adran ynghylch Sicrhau Ansawdd ar wefan gyfredol CPYD ceir disgrifiad manwl o’r modd mae profiadau myfyrwyr yn cael eu cyfoethogi’n sylweddol gan ystod eang o weithgareddau dysgu ac addysgu ychwanegol. Bydd adran debyg yn rhan o wefan newydd YDDS, a chaiff yr adroddiadau hyn eu diweddaru bob blwyddyn er mwyn cynnwys cyfeiriadau at weithgareddau ar draws y Brifysgol megis Gwˆ yl y Drindod a gweithgareddau cysylltiedig y Ffrinj a gweithgareddau sy'n ymwneud â Chanolfan Confucius. Nodwyd yn Adolygiad Sefydliadol yr ASA fod yr allanoldeb hwn ym mhrofiadau myfyrwyr yn enghraifft o arfer da. Mae’r Brifysgol wedi cymryd rhan mewn archwiliad gan CCAUC o Ymagwedd at Wella Ansawdd mewn Addysg Uwch a oedd yn cynnwys staff a myfyrwyr yn y broses archwilio.
1.11 Darparu amgylcheddau a thechnolegau dysgu ac ymchwil sy’n gefnogol
Mae Cynlluniau Strategol y Brifysgol 2007/08 i 2011/12 a 2010-2013 yn cydnabod y datblygiadau arwyddocaol diweddar ac yn y dyfodol a fydd yn cefnogi amgylcheddau dysgu ac yn gwella profiadau’r myfyrwyr. Dyma rai ohonynt:
- Gwelliannau i isadeiledd ffisegol y campws
- Rhwydwaith diwifr ar y campws sy’n welliant effeithiol i gefnogi’r agenda TEL
- Datblygiad parhaus Y Llwyfan – canolfan ddiwylliannol a chartref Theatr Genedlaethol Cymru
- Ymestyn trefniadau’r bartneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin; Creu partneriaeth Blynyddoedd Cynnar â Mudiad Ysgolion Meithrin
- Treialu gwasanaeth diwifr i’r gymuned
Aeth y Brifysgol ati’n ddiweddar i adnewyddu ystafell addysgu er mwyn creu adnodd traws-ysgol, traws-gyfadran i gefnogi’r gwaith o addysgu technoleg a dylunio ar draws ystod o raddau, gan greu ardal o arloesi technegol ar gampws Caerfyrddin sy’n cydnabod arbrofi fel cydran hollbwysig mewn Addysg Uwch. Ymhlith y meysydd allweddol i’w datblygu mae defnyddio rhyngwyneb tabled ar gyfer darlunio, lluniadu a thrin dyluniadau. Bydd y gallu i weithio’n draws-ddisgyblaethol rhwng cyfryngau (a bod yn agos at weithdai a stiwdios) yn creu amgylchedd cyffrous y gall pob myfyriwr creadigol ei brofi.
1.12 Cefnogi cyfleoedd ar gyfer Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg
Noda Cynllun Strategol y Brifysgol fod datblygiadau sydd â ffocws pendant mewn e-Ddysgu yn un o flaenoriaethau allweddol y sefydliad. Mae Cylchlythyr W08/12HE CCAUC, Enhancing Learning and Teaching through Technology: a Strategy for Higher Education in Wales wedi cael ei ddadansoddi yn y Brifysgol, a chyfeiriwyd ato’n gynharach yn y ddogfen hon. Yn y Cylchlythyr tynnwyd sylw at bwysigrwydd cydweithredu a rhannu arfer da. Mae Nodau Allweddol Cynllun Strategol y Brifysgol yn amlygu pwysigrwydd e-Ddysgu fel arf i’w ddefnyddio wrth greu llwybrau dysgu mwy hyblyg yn y dyfodol. Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi cwblhau ymarferiad meincnodi e-Ddysgu ac wedi cychwyn cynllun peilot sy’n ymwneud â phodledu. Bydd modd datblygu’r maes blaenoriaeth allweddol hwn ymhellach trwy’r trefniadau cydweithredol â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a gwasanaethau i BBaChau yng Nghymru. Bydd y gweithgareddau hyn yn cyd-fynd â’r rhan a gymerodd y Brifysgol yn yr Academi Newid yn ddiweddar – sef yr ymarferiad meincnodi e-Ddysgu a gomisiynwyd gan yr Academi Addysg Uwch.
Mae’r Brifysgol yn awyddus i ddatblygu mannau dysgu arloesol ar y campws ac yn ddiweddar agorodd ardal ddysgu newydd, Y Cwad, ar gampws Caerfyrddin i alluogi i fyfyrwyr fanteisio ar rwydwaith diwifr y campws a chyfrifiaduron ar y rhwydwaith, siop goffi, cyfleusterau argraffu a llungopïo a mannau astudio ar gyfer grwpiau. Mae’r ailddatblygu hwn yn rhan o gam cyntaf y gwaith arfaethedig o ailddatblygu’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, sydd wedi’i hysbrydoli gan enghreifftiau eraill o arfer da mewn mannau dysgu prifysgolion, a’r nod yw cynnig amgylchedd dysgu hyblyg, modern i fyfyrwyr.
1.13 Parhau i ddatblygu a chynnal cwricwlwm cynhwysol sy’n adlewyrchu ymwybyddiaeth o amrywiaeth ddiwylliannol a dinasyddiaeth fyd-eang
Wrth i Ysgolion Academaidd baratoi Rhaglenni Astudio newydd, ac wrth iddynt drafod dulliau cyflwyno ac asesu, bydd pwysigrwydd cynhwysiant, amrywiaeth ddiwylliannol a dinasyddiaeth fyd-eang yn cynyddu’n sylweddol yn y dyfodol wrth i’r Brifysgol ymateb i’r canlynol:
- yr agenda ynghylch ehangu mynediad
- carfan o fyfyrwyr sy’n newid
- myfyrwyr rhyngwladol
- deddfwriaeth genedlaethol
Mae dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang – Strategaeth Weithredu, yn gysylltiedig â nifer o ddatblygiadau cyfredol ac yn y dyfodol yn y Brifysgol, er enghraifft: modylau i israddedigion ar Addysg ar gyfer Cynaladwyedd, Cyfrifoldeb Corfforaethol a Chreu Busnes mwy Gwyrdd, Modylau HAGA, Mentrau Masnach Deg, Prosiect Ailgylchu Trysordy, a Chyfarfodydd Di-bapur. Yn wir, derbyniodd y Brifysgol statws Masnach Deg yn ddiweddar ar ôl cynllunio a pharatoi dros nifer o flynyddoedd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu nifer o gyfleoedd i ddefnyddio dulliau a gyfoethogir gan dechnoleg wrth fwrw ymlaen â chynwysoldeb, amrywiaeth ddiwylliannol a dinasyddiaeth fyd-eang a dyma rai ohonynt: a) y datblygiadau rhyngwladol gyda Cholegau Hobart William Smith a b) y potensial cysylltiedig o greu Canolfan Gwasanaeth Cymunedol.
1.14 Cynnig ysgoloriaethau a bwrsarïau i fyfyrwyr
Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau i fyfyrwyr, gan gynnwys: Ysgoloriaethau Adrannol; Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog; Ysgoloriaethau Dilyniant AB/AU; Profiad Gwaith; Bwrsarïau Preswyl; Cynllun Bwrsari Cenedlaethol Cymru; Talebau Addysgol; Ysgoloriaethau Ôl-raddedig ac Ysgoloriaethau Rhyngwladol. Bydd y Swyddfa Ysgoloriaethau o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr yn goruchwylio’r gwaith o ddosbarthu ysgoloriaethau a bwrsarïau, mewn cydweithrediad â’r Ysgolion academaidd a’r Unedau Cymorth priodol.
Bellach y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig sy'n goruchwylio’r gwaith o wneud cais i gyrff ariannu allanol, gan gynnwys Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Trwy gystadleuaeth fewnol, wedi’i marcio gan y staff academaidd, gall y Brifysgol gyflwyno myfyrwyr ar gyfer cystadleuaeth yr AHRC, gan gynnal proffil academaidd uchel. Mae hyn yn berthnasol i fwrsarïau Meistr a PhD fel ei gilydd.
1.15 Cefnogi cyfleoedd addysgol i fyfyrwyr rhyngwladol
Mae mwyafrif helaeth yr Ysgolion academaidd yn y Brifysgol, mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Ryngwladol, wedi datblygu sefydliadau partner dramor sy’n cysylltu’n benodol â meysydd pwnc unigol. Mae’r partneriaid hyn yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n mynd dramor ac sy’n dod o dramor, ac mae’r Brifysgol yn cydnabod yn glir bwysigrwydd addysg ryngwladol. Mae llwyddiant y cyfleoedd cyfnewid yn cynnwys cynlluniau cyfnewid staff; a llunio Memoranda Dealltwriaeth a Chytundeb. Ceir manylion y rheoliadau Astudio Dramor yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Maent hefyd wedi’u nodi yn y Llawlyfr Semester Dramor a luniwyd ar gyfer myfyrwyr sy’n mynd i astudio dramor. Mae’r Ysgolion wedi cael cryn lwyddiant wrth weithredu’r modwl Astudiaeth Annibynnol Ryngwladol sy’n hwyluso symudedd academaidd myfyrwyr sy’n mynd i astudio dramor.
Mae datblygiadau strategol pellach o ran addysg ryngwladol yn parhau, wrth i nifer gynyddol o fyfyrwyr sy’n Astudio Dramor gael eu recriwtio ac i bosibiliadau ddatblygu o ran gweithio gyda sefydliadau o Ganada ar fodel 2 plws 2, lle byddai myfyrwyr yn astudio am ddwy flynedd yn eu sefydliad cartref, ac wedyn yn trosglwyddo i Flwyddyn Dau Rhaglen Astudio yn YDDS i gwblhau’u gradd. Mae’r bartneriaeth strategol allweddol a ddatblygwyd yn 2008 â Cholegau Hobart William Smith (HWS), yn nhalaith Efrog Newydd wedi bod yn arbennig o bwysig i’r Brifysgol. Coleg preifat yn y celfyddydau breiniol ym mhen uchaf talaith Efrog Newydd yw HWS ac mae ganddo ymrwymiad i Ddinasyddiaeth Fydeang. Anfonir 55% o’i fyfyrwyr ar deithiau astudio dramor. Ym mis Medi 2008 daeth carfannau cyntaf y myfyrwyr i’r Drindod ar gyfer astudio dramor ac mae’r myfyrwyr hyn wedi cymryd rhan mewn modylau ar draws y ddwy gyfadran. Mae HWS hefyd wedi gofyn i’w holl fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad/profiad gwaith fel rhan o’u profiad o astudio dramor. Mewn ymateb i hyn mae cydweithiwr yn Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol wedi cydweithio’n agos â’r Swyddfa Ryngwladol i ddatblygu modwl lleoliad/profiad gwaith. Mae hwn wedi hwyluso’r ffordd i fyfyrwyr fynd allan i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol wrth iddynt hefyd ennill credydau academaidd, ac mae gofyn iddynt ddadansoddi’u profiadau’n feirniadol trwy ddefnyddio WICI fel cyfrwng asesu.
Yn ogystal â hyn, mae Cynllun Strategol Marchnata a Recriwtio'r Swyddfa Ryngwladol 2010/11 yn parhau i flaenoriaethu Gogledd America a Japan fel marchnadoedd recriwtio allweddol i’r Brifysgol. Bwriada’r Swyddfa Ryngwladol adeiladu ar ei chryfder yng Ngogledd America trwy barhau i godi ymwybyddiaeth o’r sefydliad yn y farchnad trwy’r canlynol: ymweliadau rhyngwladol; bod yn bresennol mewn cynadleddau allweddol, e.e. NAFSA; Wythnos Cymru yn Efrog Newydd ac archwilio cysylltiadau newydd mewn taleithiau allweddol. Marchnad gymharol newydd i gampws Caerfyrddin yw Japan, ac mae’r berthynas â Phrifysgol Celf a Diwylliant Shizouka bellach yn dwyn ffrwyth ar ffurf Ysgol Haf a myfyrwyr Astudio Dramor. Yn ogystal, datblygwyd cysylltiadau â Chonsortiwm Rhyngwladol Cymru, Busnes Rhyngwladol Cymru ac yn y dyfodol datblygir ymweliadau pellach â Ffeiriau yn Japan a chysylltiadau ag Ysgolion a Cholegau Rhyngwladol yn y DU i godi proffil y sefydliad ymhellach.
Nod y cynllun fydd sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol i fyfyrwyr rhyngwladol gan gynnwys darparu sgiliau iaith a sgiliau academaidd. Yn ogystal, bydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad rhyngwladol (astudio dramor).
Bydd sefydlu Swyddfa Ryngwladol ar y ddau gampws yn gaffaeliad sylweddol i Brofiadau Myfyrwyr Rhyngwladol.
1.16 Cynlluniau Cydraddoldeb, polisïau a chynlluniau gweithredu ar sail Rhyw, Anabledd a Hil
Diweddarir Cynllun Cydraddoldeb ar sail Hil, Cynllun Cydraddoldeb ar sail Anabledd a Chynllun Cydraddoldeb ar sail Rhyw'r Brifysgol yn rheolaidd, ac fe’u trafodir mewn amryw o bwyllgorau allweddol yn y sefydliad. Mae gan bob dogfen adran ar Ddysgu ac Addysgu yn y Cynlluniau Gweithredu, ac olrheinir y dogfennau drwy’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae’r Brifysgol yn datblygu dulliau priodol o fesur asesiadau effaith cydraddoldeb ym mhob un o’r meysydd hyn.
Diweddarodd y Brifysgol ei Chynllun Cydraddoldeb ar sail Anabledd yn Rhagfyr 2009 yn unol â gofynion deddfwriaethol.
Trwy’r rhaglen SWWHEP mae’r Brifysgol wedi prynu’r hawl i fanteisio ar fynediad i becyn hyfforddi ar-lein o’r enw “Diversity in Higher Eduction” (Marshall ACM yw’r cyflenwyr), ac rydym ar fin agor hwn yn y lle cyntaf i bob rheolwr. Y bwriad yw ychwanegu at hwn trwy weithdai sy’n ymwneud ag astudiaethau achos a mynediad i’r ystod o hyfforddiant ynghylch amrywiaeth trwy’r rhaglen SWWHEP.
1.17 Hyfforddi cynrychiolwyr o blith y myfyrwyr
Bydd y Cyfadrannau a’r Ysgolion yn parhau i gydweithio’n agos â swyddogion Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod cynrychiolwyr y myfyrwyr yn cael eu cefnogi ac yn cael sesiynau cynefino yn unol â chanllawiau y cytunwyd arnynt gan yr NUS. Mae hyfforddi cynrychiolwyr newydd mewn da bryd ar gyfer yr Adolygiad Blynyddol bellach yn mynd rhagddo’n dda dros ben, ac mae’r Deoniaid Cyfadran yn ymgynghori’n fanwl ag Undeb y Myfyrwyr er mwyn sicrhau y caiff y rhaglen ei gweithredu’n llwyddiannus. Lle bo hynny’n bosibl, cynhelir etholiadau ar gyfer cynrychiolwyr myfyrwyr Lefel 5 ac uwch cyn diwedd y flwyddyn academaidd, er mwyn sicrhau bod y ffocws bob mis Medi ar hyfforddi cynrychiolwyr ar gyfer y Flwyddyn 1af newydd. Mae ymateb i lais y myfyriwr o’r pwys mwyaf ac mae’r Brifysgol yn ystyried ffyrdd o wella cynrychiolaeth myfyrwyr a chysylltu hynny â datblygiad gyrfa.
Yn dilyn yr hyfforddiant, bydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr yn parhau i fod yn elfen allweddol yn y broses ansawdd wrth iddynt ddod yn aelodau o Fyrddau Ysgol, Adolygiadau Blynyddol/Byrddau Astudiaeth, digwyddiadau eraill ym maes Sicrhau Ansawdd ac, yn y dyfodol, byddant yn chwarae rhan allweddol yn y paratoadau ar gyfer Adolygiad Sefydliadol yr ASA. Yn ogystal â hyn mae’r Brifysgol wrthi’n barhaus yn adolygu’r ffyrdd i gynnwys Cynrychiolwyr y Myfyrwyr hefyd mewn nifer o Bwyllgorau eraill y Brifysgol. Ar gais Undeb y Myfyrwyr, yn 2008 cyflwynodd CPYD ddull ffurfiol o gydnabod cyfraniad sylweddol gan Gynrychiolwyr y Myfyrwyr trwy gychwyn digwyddiad gwobrwyo blynyddol a chaiff hwn ei ddatblygu ar gyfer pob myfyriwr ar y ddau gampws yn 2010/11.
Datblygiad arall yw’r bwriad i greu Fforwm Myfyrwyr a fydd yn datblygu ymhellach hyfforddiant cynrychiolwyr y myfyrwyr (Gweler 1.16 Para 3). Caiff cynrychiolwyr myfyrwyr y tair Cyfadran ar y ddau gampws eu hethol i wasanaethu ar y Fforwm hwn a fydd yn gyfrwng pellach i fonitro profiadau’r myfyrwyr a thrafod gweithgareddau gwella. Bydd hefyd yn Fforwm i gefnogi Dogfen Hunanwerthuso Myfyrwyr yn y dyfodol y bydd ei hangen ar gyfer cylch nesaf Archwiliadau’r ASA.
1.18 GO Wales a Phrofiad Gwaith i Fyfyrwyr
Mae gan uned GO Wales berthynas waith ardderchog ag Ysgolion academaidd ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd cyfres o weithgareddau a digwyddiadau yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr, a bydd rhwydweithio â grwpiau lleol yn chwarae rôl bwysig o ran darparu cyfleoedd newydd ar gyfer lleoliadau gwaith. Bellach gall myfyrwyr ymgeisio hefyd am Brofiad Gwaith Myfyrwyr i’w galluogi i weithio yn ystod gwyliau’r haf a gwella eu CVs personol a’u gobeithion o ran cael swydd yn sgil hynny.
Dechreuodd GO Wales 5 yn Ionawr 2009, ac mae wedi symbylu ystod eang o ddatblygiadau strategol ychwanegol, gan gynnwys: lleoliadau gwaith â chymhorthdal sy’n para’n hwy, Rhaglen Datblygu a Hyfforddi Graddedigion a’r Academi i Raddedigion.
Mae’r Brifysgol yn gobeithio datblygu Uned Gwasanaeth Cymunedol a fyddai’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr ar leoliadau a phrofiad gwaith achrededig.
1.19 Cynlluniau Gweithredu Unedau Cymorth
Mae’r Brifysgol yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd ei Hunedau Cymorth o ran gwella ansawdd profiadau dysgu myfyrwyr ac mae gofyn o hyd i Unedau Cymorth ddiffinio’u cenhadaeth bob blwyddyn a nodi eu blaenoriaethau mewn perthynas â Chynllun Strategol y Brifysgol. Trwy wneud hyn, mae’n ofynnol iddynt hefyd yn benodol fynd i’r afael â materion a godwyd gan fyfyrwyr yn eu holiaduron rhaglen, a materion sy’n codi mewn Adolygiadau Blynyddol, Adolygiadau Pum Mlynedd ac Archwiliadau Ysgol. Mae Cynlluniau Gweithredu’r Unedau Cymorth, sy’n deillio o hyn, yn ysgogi gweithgarwch yr Uned Gymorth am y flwyddyn i ddod, gan roi sail i’r staff cymorth osod eu hamcanion eu hunain a nodi eu hanghenion hyfforddi yn ystod y broses arfarnu. Dyma ffordd bwysig o ddatblygu ymwybyddiaeth a chyd-ddealltwriaeth o faterion sy’n codi ar draws yr Unedau Cymorth.
Mae dulliau yn eu lle i ffurfioli’r broses o roi gwybod i’r Unedau Cymorth am faterion y mae angen rhoi sylw iddynt mewn perthynas â’r ddarpariaeth academaidd. Paratoir cynllun gweithredu sy’n crynhoi’r holl faterion perthnasol i’r Unedau Cymorth sy’n deillio o’r Adolygiadau Blynyddol, Adolygiadau Pum Mlynedd a’r Archwiliadau Ysgol. Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Gwybodaeth ac Adnoddau yn olrhain gweithrediad y Cynllun Gweithredu. Datblygiad strategol pellach fu cyflwyno proses archwilio fewnol ar gyfer yr unedau cymorth sydd yn cyfateb i’r broses o Archwiliadau Ysgol.
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y pwysigrwydd o fuddsoddi yn ei hadnoddau dynol a bydd yn gwella ymhellach y gweithgarwch sy’n gysylltiedig â datblygu staff trwy ddefnyddio arfer da presennol yn ogystal â mewnbwn allanol trwy amrywiaeth o ddulliau.
2 Datblygu a Hyfforddi Staff
2.1 System arfarnu staff sy’n nodi ac sy’n ymateb i anghenion datblygu’r staff
Bydd y Brifysgol yn parhau i ymdrechu’n galed i gryfhau, monitro a gwerthuso’r cysylltiadau rhwng cynllunio strategol, arfarnu a datblygu staff.
Bydd pob aelod llawn amser o staff ar draws y Brifysgol newydd yn cael ei arfarnu gan ei reolwr llinell yn flynyddol. Gofynnir i staff werthuso’n feirniadol eu cyfraniad dros y deuddeng mis blaenorol, gan nodi’r hyn a gyflawnwyd a’r hyn nas cyflawnwyd, a chan nodi’r hyn a fu’n rhwystro cynnydd. Gofynnir i staff hefyd nodi eu hamcanion am y flwyddyn i ddod, a nodi eu hanghenion datblygu a hyfforddi mewn perthynas â chyflawni’r amcanion hyn y cytunwyd arnynt. Yn ychwanegol, bydd staff yn defnyddio’r broses arfarnu i ddiweddaru eu cofnod cyfredol yng Nghyfeiriadur Ymchwil a Gweithgarwch Ysgolheigaidd y Brifysgol, ac i drafod materion sy’n gysylltiedig â'u Proffil Gweithgaredd. Mae’r broses arfarnu bellach yn cyfateb yn well i’r cylch cynllunio strategol.
Y Cofrestrydd sy’n arwain datblygiad sefydliadol y Cynllun Datblygu Staff ar ran yr Uwch Dîm Rheoli (UDRh). Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn gyfrifol am ddethol a choladu’r gofynion datblygu a hyfforddi staff a nodwyd yn ystod y broses arfarnu. Bydd y Cofrestrydd a’r Pwyllgor Datblygu Staff yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu rhaglen datblygu staff sefydliadol i’w chymeradwyo gan y Senedd. Rhagwelir y bydd y proffiliau gweithgarwch y cytunwyd arnynt ar gyfer rheoli llwyth gwaith staff academaidd, ynghyd â’r disgrifiadau rôl a ddatblygwyd fel rhan o’r cytundeb fframwaith, yn gymorth i wella a llywio’r broses arfarnu. Mae’r Brifysgol yn datblygu strwythur tebyg i staff cymorth.
2.2 Cyflawni Strategaeth Adnoddau Dynol y Brifysgol
Prif thema Strategaeth Adnoddau Dynol y Brifysgol ar gyfer 2010/11 yw cysoni polisi a gweithdrefnau Adnoddau Dynol a'r telerau ac amodau cyflogaeth mewn perthynas â’r brifysgol newydd – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Fodd bynnag, mae’r themâu arferol ar gyfer AD yn gwbl amlwg - recriwtio a dethol; cadw staff; cynefino, cyfnod prawf a mentora; arfarnu a datblygu staff.
Mae sianeli cyfathrebu effeithiol yn gwbl anhepgor mewn unrhyw sefydliad llwyddiannus a bydd y Strategaeth AD yn dangos y datblygiadau arfaethedig i’r polisi cyfathrebu y bydd eu hangen ar gyfer y sefydliad newydd, mwy o faint. Bydd yn amlwg y gellir cysylltu gwelliannau i weithdrefnau’r System Gwybodaeth Adnoddau Dynol (HRIS) a Rheoli Data â’r bartneriaeth waith gref sydd wedi’i sicrhau yn sgil Partneriaeth Addysg Uwch De-orllewin Cymru (SWWHEP) ac yn enwedig â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Yn y Strategaeth AD bresennol rhoddir rhagor o bwyslais ar feysydd penodol sy’n ymwneud â Datblygu Staff. Mae Wythnos Datblygu Staff lwyddiannus dros ben wedi’i gweithredu yn y Drindod ers blynyddoedd lawer ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac mae wedi bod yn allweddol i’r gwaith o gynllunio a pharatoi ar lefel gorfforaethol, adrannol, a maes o law ar lefel unigol, gan ddefnyddio’r broses arfarnu. Caiff hon ei hymestyn bellach i gynnwys holl staff y brifysgol newydd. Mae menter yr Wythnos Datblygu Staff wedi bod yn gyfrwng i sicrhau bod modd i staff uniaethu’n glir â’r amcanion corfforaethol ac adrannol a chydnabod sut y gall eu rôl yn y Brifysgol gyfrannu at y synergedd sydd ei angen ar gyfer llwyddiant y sefydliad. Bydd gan lawer o unigolion rolau diwygiedig yn y Brifysgol newydd ac felly rhoddir rhagor o bwyslais yn 2010-11 ar y prosesau cynefino a chefnogaeth yn ystod y cyfnod prawf. Mae’r broses gynefino ar lefel rheolwyr llinell yn cael ei chynllunio ar y cyd â phartneriaid yn SWWHEP.
Mewn unrhyw sefydliad llwyddiannus rhaid sicrhau bod y berthynas â’r gweithwyr yn un iach, ac mae hyn yn hanfodol bwysig wrth reoli newidiadau sylweddol. Gellir ystyried y broses o greu prifysgol newydd yn newid radical ac felly bydd cryfhau’r berthynas â'r gweithwyr yn un o themâu pwysig y Strategaeth AD. Bydd perthynas dda â’r gweithwyr hefyd yn rhan o’r broses ar gyfer estyn safon Buddsoddwyr mewn Pobl er mwyn iddi gynnwys campws Llanbedr Pont Steffan, a thrwy hynny gryfhau'r cysyniad o gydraddoldeb, parch a chydnabyddiaeth i gyfraniad pob aelod o’r staff yn llwyddiant y Brifysgol yn y pen draw. Dyma a nododd un o ganfyddiadau allweddol y gwerthusiad diwethaf o dan y cynllun Buddsoddwyr mewn Pobl ynghylch dysgu a datblygiad: ‘the commitment is clear and at strategic level development is expected to impact on, for example: Enhancing the quality of the learning experience, enhancing learning resource provision.’ Bydd Strategaeth AD 2010-11 yn gefnogol o ddatblygiadau a fydd yn cyfarwyddo a datblygu ymhellach welliannau ansawdd ar bob lefel ac ym mhob rhan o'r brifysgol.
Dyma rai o'r themâu sefydliadol eraill: datblygu ymhellach ddwyieithrwydd ymhlith y gweithlu, gwella gweithgarwch ysgolheigaidd a gwella'r defnydd ar dechnoleg ac e-ddysgu.
Mae dogfen y strategaeth AD hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli materion Adnoddau Dynol, a bwriadwyd iddi fod yn sail i gynllun strategol y Brifysgol. Arweinir y gwaith o baratoi’r Strategaeth Adnoddau Dynol gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, cytunir arni gan y Senedd a'i chymeradwyo gan Gyngor y Coleg.
2.3 Datblygiad staff effeithiol wedi'i fonitro gan y Pwyllgor Datblygu Staff
Bydd y Brifysgol yn parhau i baratoi Rhaglen Datblygu Staff yn flynyddol. Y nod a’r amcan fydd iddi fynd i’r afael ag amcanion strategol y Brifysgol ac anghenion datblygu unigol. Fe’i llunnir o ganlyniad i gydweithredu, ymgynghori a chyfranogiad staff ar draws y sefydliad. Dosberthir crynodeb o bob cyfle hyfforddi sydd ar gael i staff yn fewnol ar ddechrau pob tymor academaidd. Mae’r Pwyllgor Datblygu Staff yn adrodd yn uniongyrchol wrth y Senedd, a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth y Brifysgol o ran datblygu staff wedi’i chysylltu’n briodol â chynllun strategol y sefydliad, ac am flaenoriaethu ceisiadau a darpariaeth ar gyfer datblygu staff mewn perthynas ag amcanion y cynllun strategol a’r arian sydd ar gael. Yn eu cynigion ar gyfer y gyllideb, bydd Ysgolion ac Unedau hefyd yn nodi eu gofynion ariannol o ran datblygu staff, a bydd angen iddynt ddarparu arian cyfatebol i gefnogi eu ceisiadau am gymorth ariannol ar gyfer datblygu a hyfforddi staff o’r gyllideb ganolog ar gyfer datblygu staff. Yn y Brifysgol newydd bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i sicrhau bod y rheini sy’n arolygwyr ymchwil am y tro cyntaf yn meithrin sgiliau priodol o ran arolygu ymchwil.
2.4 Cyfleoedd ychwanegol ar gyfer datblygu staff trwy gydweithio â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe trwy Bartneriaeth Addysg Uwch De-orllewin Cymru (SWWHEP)
Mae’r trefniant ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yn darparu cyfleoedd pellach ar gyfer datblygu staff academaidd a staff cymorth o ran Dysgu ac Addysgu. Mae’r Adran Adnoddau Dynol yn dosbarthu manylion rhaglenni blynyddol y sefydliadau hyn yn rheolaidd, a gall staff fanteisio ar y cyfleoedd ychwanegol hyn.
Mae partneriaeth SWWHEP wedi ymestyn perthynas sefydledig Coleg Prifysgol y Drindod â Phrifysgol Abertawe o ran darpariaeth gwasanaethau e-ddysgu i gynnwys Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Eisoes sicrhawyd arbedion maint sylweddol trwy rannu cytundebau trwyddedu; rhennir cymorth ar gyfer adeiladu capasiti trwy strwythur cymorth lleol sy’n wasgaredig ond yn gysylltiedig. Mae Tîm e-Ddysgu SWWHEP hefyd wedi lansio rhaglen o ddatblygu staff yn barhaus trwy gyfrwng gweithdai ar y campws, tiwtorialau ar-lein a chronfa wybodaeth chwiliadwy. Mae Tîm e-Ddysgu SWWHEP yn parhau i fireinio a datblygu’r modd y caiff rhaglenni Gwe 2.0 eu defnyddio ac maent wrthi’n ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu rhwydweithiau ar-lein ar gyfer myfyrwyr - a hynny o bosibl trwy gyfrwng y feddalwedd newydd Learning Objects sy’n cydblethu’n ddifwlch â dau ADRh y Brifysgol cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny’n ymarferol.
Gall staff academaidd a chymorth bellach ymgymryd â modwl ôl-raddedig newydd a ddyluniwyd i fod o gymorth i staff addysgu a staff cymorth wrth iddynt weithredu cynlluniau dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg yn eu maes gwaith eu hunain. Gwerth y modwl cyflawn yw 20 credyd ar lefel Meistr, er bod modd hefyd astudio ar gyfer modwl cryno o 10 credyd, sef Dylunio Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg. Gall y modylau hyn hefyd gyfrannu at MA/Tystysgrif Ôlraddedig mewn Dysgu ac Addysgu neu, fel arall, gallant gyfrannu at gymhwyster ôl-raddedig yn y Fframwaith Arfer Proffesiynol. Mae angen 60 credyd ar y lefel hon i ennill Tystysgrif Ôl-raddedig.
2.5 Cefnogaeth wrth geisio am Aelodaeth o CyngACC a’r AAU
Mae’r Brifysgol yn parhau i roi cymorth ariannol i staff academaidd gyda’u ceisiadau am Aelodaeth o GyngACC a’r AAU a bydd hyn yn parhau yn y dyfodol. Gobeithir y bydd y canran o staff academaidd sy’n aelodau o’r uchod yn parhau i gynyddu yn ystod y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Yn ogystal mae’r Brifysgol yn bwriadu datblygu’i chysylltiadau â rhaglen yr AAU o weithgareddau cyfoethogi a sicrhau cynrychiolaeth ym mhob un o weithgareddau allweddol yr AAU. Mae angen datblygu ymhellach yr ymgysylltu â Chanolfannau Pynciol yr AAU ar draws y Brifysgol newydd.
2.6 Datblygu a chyflwyno’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch
Bydd y Brifysgol newydd yn cynnig y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch sydd eisoes ar waith ym Mhrifysgolion Llanbedr Pont Steffan, Bangor, Aberystwyth, Abertawe ac UWIC. Bydd disgwyl i staff academaidd newydd heb brofiad AU ddilyn y rhaglen hon sy’n mynd i’r afael â gofynion eu rôl benodol, ac yn eu helpu i ddod yn ymarferwyr adfyfyriol. Bydd cyfle i’r staff profiadol ymgymryd â’r Rhaglen trwy lwybr carlam. Mapiwyd y Rhaglen yn erbyn Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Safonau Proffesiynol mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu'r AAU, ac o gwblhau’r Rhaglen yn llwyddiannus bydd staff yn cyrraedd statws Cymrodoriaeth yr AAU. Mae'r Rhaglen hon ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Yn ogystal, dilyswyd Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu a gyfoethogir gan Dechnoleg yn ddiweddar er mwyn ei chynnig o 2010 ymlaen.
2.7 Darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a chefnogaeth yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog, sy’n gysylltiedig â Strategaeth Iaith Gymraeg y Brifysgol
Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brifysgol genedlaethol i Gymru, ac o’r herwydd, yn gyfrwng allweddol i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg, dwyieithrwydd ac etifeddiaeth a threftadaeth Cymru. Caiff ei hystyried yn un o warcheidwaid y diwylliant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn gatalydd ar gyfer dyheadau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â Chymru ddwyieithog gref ac egnïol.
Bydd y Brifysgol yn adeiladu ar sail ei thraddodiad cadarn o gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o ansawdd uchel gan anelu at fod yr aelod mwyaf blaenllaw yn y Coleg Ffederal Cymraeg. Datblygir gwell portffolio o raglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn seiliedig ar gryfderau allweddol y sefydliad ym maes addysg, y celfyddydau creadigol a’r celfyddydau perfformio a dysgu seiliedig ar waith. Bydd y sefydliad yn manteisio ar fenter AUR/y Gyfadran Gysylltiol i ddenu carfan hyd yn oed yn fwy o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i gofrestru ar ei rhaglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a bydd yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol ar eu cyfer a fydd yn cynnwys cymhwyster achrededig mewn Cymraeg Galwedigaethol a lleoliad gwaith sicr mewn cyd-destun dwyieithog.
Mae'r Brifysgol wedi pwysleisio y bydd hyrwyddo dwyieithrwydd ac arbenigrwydd diwylliannol yn un o’i phrif flaenoriaethau strategol yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2013. Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog newydd ac uchelgeisiol wedi'i chadarnhau'n ddiweddar gan y Senedd. Bydd y Strategaeth hon yn cysylltu’n agos â Chynllun Iaith Gymraeg arfaethedig y sefydliad, a bydd yn darparu dull strwythuredig o ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y sefydliad yn y tymor byr. Dyma rai o brif amcanion y Strategaeth:
- creu isadeiledd mewnol a fydd yn hwyluso, cefnogi ac ategu’r gwaith o ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y Brifysgol;
- dilysu a darparu hyd at chwe rhaglen cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog newydd erbyn 2012/13;
- cynnydd yn nifer y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n cofrestru rhwng 5% a 7% fesul blwyddyn yn ystod y cyfnod rhwng 2010/11 a 2012/13;
- sicrhau bod o leiaf 80% o’r myfyrwyr sydd wedi cyhoeddi eu bod yn rhugl eu Cymraeg yn astudio modylau trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2012/13;
- creu partneriaethau ystyrlon ag asiantaethau, cyrff a sefydliadau allanol a allai gefnogi a hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y Brifysgol;
- creu ‘rhwydwaith profiad gwaith’ cyfrwng Cymraeg ar draws De-orllewin Cymru a fydd yn hwyluso trefniadau profiad gwaith i fyfyrwyr ysgol, coleg a phrifysgol.
Bydd darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol yn canolbwyntio'n bennaf, i ddechrau, ar addysg a'r celfyddydau perfformio. Bydd ymdrechion i gryfhau’r ddarpariaeth hon trwy fuddsoddiad pellach mewn adnoddau, gan gynnwys adnoddau dynol. Ar yr un pryd, bydd y Brifysgol yn disgwyl i feysydd megis Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Astudiaethau Chwaraeon, Addysg Awyr Agored, Addysg Gorfforol, Astudiaethau Crefyddol, Busnes a Chelfyddyd Gain ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar lefel israddedigion. Yn hyn o beth, bydd gofyn i bob Ysgol ar draws y ddau gampws, fel rhan o’i chynllunio strategol, lunio’i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ei hun a’i chyflwyno bob blwyddyn er mwyn i’r Pwyllgor Addysgu Cyfrwng Cymraeg gael craffu arni.
Bydd Ysgol y Gymraeg, a fydd yn cynnwys Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd, yr Uned Gyfieithu a’r Uned sy’n goruchwylio'r gwaith o weithredu Cynllun Iaith Gymraeg y sefydliad, yn datblygu'n Ysgol ddylanwadol yn y Brifysgol. Hon fydd unig Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru ym mis Medi 2010 a bwriedir iddi fod yn wahanol iawn ei hanian i Ysgolion y Gymraeg mewn prifysgolion eraill. Y bwriad i ddechrau yw iddi ganolbwyntio ar ddatblygu arbenigedd mewn cynllunio iaith a Chymraeg fel ail iaith, yn ogystal â chadarnhau'i sefyllfa fel prif ddarparwr cyrsiau dysgu Cymraeg a gloywi iaith mewn prifysgolion, colegau AB a'r sector ôl-16 ar draws De-orllewin Cymru. Bydd y Brifysgol yn ganolbwynt i ddysgu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ne-orllewin Cymru, gan fynd ati i gydweithredu’n agos ag ysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd yn anelu at sefydlu Rhwydwaith Addysg Cyfrwng Cymraeg De-orllewin Cymru a thrwy gyfrwng menter lwyddiannus AUR/y Gyfadran Gysylltiol, bydd yn sicrhau bod llwybrau dilyniant ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
2.8 Cyflawni’n effeithiol yr Amcanion Dysgu ac Addysgu yng Nghynlluniau Cydraddoldeb y Brifysgol, a’i pholisïau a chynlluniau gweithredu ar sail Rhyw, Anabledd a Hil.
Diweddarir Cynllun Cydraddoldeb ar sail Hil, Cynllun Cydraddoldeb ar sail Anabledd a Chynllun Cydraddoldeb ar sail Rhyw y Brifysgol (Gweler 1.15) yn rheolaidd, ac fe'u trafodir mewn amryw o bwyllgorau strategol yn y sefydliad. Mae gan bob dogfen adran ar Ddysgu ac Addysgu yn y Cynlluniau Gweithredu, a diweddarir y dogfennau’n flynyddol a'u holrhain drwy’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan roi adroddiad ar gynnydd i'r Senedd. Yn ogystal, mae’r Gr_p Ffocws staff-myfyrwyr ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn trafod materion sy'n ymwneud â phob maes sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth, gan adrodd yn ôl ar y materion hyn ynghyd ag anghenion hyfforddi i'r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
2.9 Darparu cynefino, mentora, cefnogaeth a gwerthuso effeithiol ac adborth effeithiol i staff newydd
Bydd i broses gynefino’r Brifysgol ar gyfer staff newydd dair prif elfen o hyd: Rhaglen gynefino’r Adran AD, rhaglen gynefino gorfforaethol a rhaglen gynefino’r Adran. Yn y polisi mentora, dynodir mentoriaid i ddarparu cymorth ac arweiniad i aelodau newydd o staff, gan gynnwys penodiadau rhan-amser a chyfnod penodedig.
Bydd pob aelod newydd o staff yn gweithio cyfnod prawf, ac mae cwblhau’r cyfnod prawf hwnnw’n llwyddiannus fel arfer yn un o’r amodau cyflogi. Bydd Rheolwyr Llinell yn monitro perfformiad yr unigolyn yn ystod y cyfnod prawf, ac yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â gweithwyr sydd ar brawf. Bydd ymgynghori rheolaidd rhwng yr Adran AD, y rheolwr llinell a’r uwch reolwr priodol drwy gydol y cyfnod prawf. Os daw unrhyw ddiffygion i’r amlwg, gofynnir i’r rheolwr llinell eu trafod â deiliad y swydd gyda’r bwriad o egluro’r meysydd pryder a nodi strategaethau ar gyfer delio â nhw, a allai gynnwys hyfforddiant neu ddatblygiad staff.
2.10 Cyflawni Strategaeth Ymchwil y Brifysgol
Caiff Strategaeth Ymchwil y Brifysgol ei diweddaru’n flynyddol a’i chysylltu’n glir â Strategaeth Dysgu ac Addysgu'r Brifysgol mewn nifer o ffyrdd. Yn Strategaeth Ymchwil y Brifysgol yn enwedig ceir yr adrannau canlynol sy'n effeithio’n uniongyrchol ar ddysgu ac addysgu:
- adran benodol ar ddatblygu’r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysgu yn y Brifysgol;
- pwyslais ar wella’r dysgu a’r addysgu yn achos myfyrwyr graddau ymchwil;
- set bendant o nodau ac amcanion ynghylch datblygu staff ym maes ymchwil, sy’n galluogi staff, o’r herwydd, i aros ar y blaen o ran ymchwil i'w maes arbenigedd a sicrhau addysgu o'r radd flaenaf;
- adran ynghylch y ganolfan adnoddau dysgu, sy’n nodi amcanion strategol y Brifysgol ynghylch adnoddau ymchwil;
- gweithdrefnau a dulliau ynghylch materion moesegol ym maes ymchwil a dysgu.
2.11 Datblygu cyfleoedd ar gyfer Gwella Ansawdd yn unol â Dogfen Gwella Ansawdd y Brifysgol
Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn y pwyslais a roddir ar ystod eang o ddulliau ar gyfer gwella profiadau dysgu myfyrwyr yn barhaus. Nodir blaenoriaethau’r Brifysgol ynghylch Gwella Ansawdd yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae’r Brifysgol wedi adeiladu ar draddodiad hir anffurfiol yr Ysgolion o ddatblygu dulliau effeithiol o wella ansawdd y ddarpariaeth, gan eu gwneud yn elfen strwythuredig o gylch gwaith academaidd y Cyfadrannau. Bellach mae dulliau ffurfiol yn eu lle i gasglu, monitro a rhannu arfer da ar draws y sefydliad.
Mae’r Brifysgol wedi mynd ati i ddatblygu nifer o fentrau i gefnogi ac annog y gwaith o wella ers nifer o flynyddoedd.
Wrth wraidd yr athroniaeth ar gyfer gwella ansawdd yw perchenogaeth ar fentrau o’r fath gan y Cyfadrannau.
Mae’r angen i werthuso’n barhaus a rhannu arfer da o ran dysgu ac addysgu yn hollbwysig wrth i’r Brifysgol ymdrin â chorff o fyfyrwyr sy’n fwy ac yn fwy amrywiol. Fel y nodwyd yn gynharach, mae Ysgolion yn parhau i adolygu eu harferion presennol ac i nodi materion ychwanegol sy'n ymwneud â gwella ansawdd fel rhan o broses yr Adolygiad Blynyddol. Fel rhan o'r cylch blynyddol, caiff materion sy'n codi yn yr Adolygiadau Blynyddol eu hymgorffori wedyn yn Nogfen Gwella Ansawdd y Brifysgol. Bob blwyddyn caiff adroddiad cyfansawdd sy’n seiliedig ar gofnodion pob un o’r Byrddau Astudiaeth/Adolygiadau Blynyddol ei baratoi’n ganolog, a bydd yn nodi meysydd lle gwelir arfer da er mwyn i’r Pwyllgor Sicrhau Ansawdd a’r Senedd eu hystyried.
Agwedd arall ar y gwaith o Wella Ansawdd yn achos staff academaidd oedd datblygu rhaglen dreigl o Archwiliadau Ysgol (gweler 1.1) i gyd-fynd â strwythurau eraill yn y sefydliad ar gyfer Sicrhau Ansawdd. Wrth wraidd y broses ar gyfer Archwiliad Ysgol mae’r gwaith o ddatblygu dogfen hunanwerthuso gan yr Ysgol. Yn ogystal â’r argymhellion i’w gweithredu gan yr Ysgol a’r Brifysgol, mae’r Adroddiadau Archwiliad Ysgol yn cynnwys crynodeb o enghreifftiau o arfer da, sy’n cael eu hystyried yn y Senedd ac yn y Bwrdd Cyfadran priodol. Bellach mae wyth o naw Ysgol y Brifysgol wedi bod trwy’r broses Archwiliad Ysgol a bwriedir i rownd gyntaf yr archwiliadau ddod i ben yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Bu’r archwiliad mor effeithiol nes i broses debyg bellach gael ei datblygu ar gyfer yr Unedau Cymorth, a gyflwynwyd yn 2007/08; bellach mae'r broses wedi'i chwblhau gan dair Uned Gymorth. Mae i’r datblygiad hwn rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o fonitro cefnogaeth i Ddysgu ac Addysgu yn ystod y cyfnod nesaf o dair blynedd. Disgwylir y bydd archwiliadau ar Gampws Llambed yn dechrau ym mis Medi 2010.
Mae’r Brifysgol wedi lledaenu’n sylweddol y grŵp o staff a ddewisir i gadeirio digwyddiadau sicrhau ansawdd a bellach mae Deoniaid Cyfadran a Phenaethiaid Ysgol yn chwarae rôl amlycach o lawer yn y maes hwn. Dyma rai o’r meysydd eraill sy’n ymwneud â gwella academaidd ac a nodir mewn mannau yn y ddogfen hon: e-ddysgu, adolygu cymheiriaid a chynrychiolaeth ar gyrff allanol.
2.12 Hwyluso diwrnodau ymchwil, seminarau a phresenoldeb yn nigwyddiadau’r AAU
Mae’r Brifysgol yn trefnu dau ddiwrnod ymchwil bob blwyddyn academaidd. Yn ogystal â chyfraniadau gan brif siaradwyr, mae’r Diwrnodau Ymchwil yn cynnig fforwm i staff a myfyrwyr roi cyflwyniadau, a rhannu a dathlu ystod eang o weithgarwch ymchwil ar draws y sefydliad. Mae’r Diwrnodau Ymchwil hefyd yn gatalydd i staff ymwneud ag agenda'r Academi Addysg Uwch ynghyd ag annog staff i ymaelodi. Yn ystod blwyddyn academaidd 2008/09 awgrymodd y Pwyllgor Ymchwil y dylai’r ddau Ddiwrnod Ymchwil ganolbwyntio ar Ddysgu ac Addysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg (TEL). Rhoddodd y Diwrnod Ymchwil cyntaf gyfle i gydweithwyr rannu enghreifftiau o arfer da yn TEL ar draws y sefydliad. Roedd yr ail Ddiwrnod Ymchwil yn rhan o’r broses i ymgorffori TEL yn y strategaeth newydd hon ar gyfer Dysgu ac Addysgu. Mae sesiynau anffurfiol y Grŵp Cefnogi Ymchwil Amser Cinio ar bynciau allweddol wedi parhau a byddant yn cael eu datblygu a'u gwella yn y dyfodol. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod pwysigrwydd bod yn rhan o weithgareddau’r AAU a bellach mae staff yn ei chynrychioli yn y rhan fwyaf o ddigwyddiadau allweddol yr AAU a JISC RSC Cymru, gan gynnwys cynadleddau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rhaglen ‘Gwella’. Mae cydweithredu gweithredol, parhaus rhwng cydweithwyr ym mhob un o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru (sydd bellach wedi creu eu RhDP (Rhwydwaith Dysgu Personol) eu hunain) ar brosiectau ynghylch dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg. Trwy gymryd rhan yn rhai o brosiectau eraill ‘Gwella’megis CAMEL (Dull Cydweithredol o Reoli e-Ddysgu), sydd wedi’i drefnu gan Brifysgol Morgannwg a CELT, mae’r Brifysgol yn cryfhau ac yn meithrin arfer da o’r fath.
2.13 Darparu fframwaith moesegol ar gyfer ymchwil
Mae’r Brifysgol wedi creu dulliau clir ar gyfer ymdrin â materion moesegol. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig rhaglenni hyfforddi yn y maes hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion moesegol ymhlith ei staff a myfyrwyr. Un o is-bwyllgorau’r Pwyllgor Ymchwil yw’r Pwyllgor Moeseg, a thrafodir cofnodion ei gyfarfodydd a’r prif faterion yn y Pwyllgor Ymchwil ynghyd â’r Pwyllgor Graddau Ymchwil. Ysgolion Academaidd sy’n bennaf gyfrifol o hyd am faterion moesegol yn y Rhaglenni Astudio a ddilyswyd a’r asesiadau sy’n gysylltiedig, ond mae arbenigedd y Pwyllgor Moeseg a’r gweithdrefnau sydd yn eu lle ar draws y Brifysgol i ymdrin â materion moesegol yn golygu bod goruchwyliaeth ganolog briodol yn ei lle.
2.14 Defnyddio Byrddau Cyfadran yn fforwm ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch mentrau newydd a chyfleoedd i rannu enghreifftiau o arfer da
Mae strwythur y Byrddau Cyfadran yn caniatáu rhywfaint o rannu enghreifftiau o welliant academaidd ar draws Ysgolion a Chyfadrannau o fewn yr agendâu cymeradwy. Mae Pwyllgor Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi’i gyflwyno i greu fforwm ychwanegol ar gyfer cynllunio strategol allweddol.
2.15 Darparu cyfleoedd i gymryd rhan trwy gyfranogi neu arsylwi mewn digwyddiadau Sicrhau Ansawdd megis Archwiliadau Ysgol a Digwyddiadau Dilysu Rhagarweiniol
Agwedd bwysig ar y gwaith o ddatblygu staff yw sicrhau bod staff academaidd yn cymryd rhan trwy gyfranogi ac arsylwi mewn nifer o ddigwyddiadau dilysu ac archwilio mewnol allweddol. Ers i’r Archwiliadau Ysgol gael eu cyflwyno, yr arfer yw cynnwys Pennaeth Ysgol yr Ysgol nesaf i’w harchwilio’n sylwedydd. Yn yr un modd, yn ystod y digwyddiadau dilysu ar gyfer Rhaglenni Astudio newydd, yr arfer yw cynnwys ar y panel un aelod o'r staff academaidd na fydd o bosibl wedi cael profiad sylweddol o ddigwyddiad o'r fath. Datblygwyd cyfleoedd tebyg yn strwythur Archwiliadau’r Unedau Cymorth.
2.16 Annog cynrychiolaeth ar gyrff allanol.
Cynrychiolir staff mewn ystod eang o swyddogaethau ar nifer amrywiol o sefydliadau ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol, ac mewn rhai achosion, rhyngwladol. Cydnabyddir hefyd fod yr allanoldeb hwn yn agwedd hollbwysig ar y gwaith o Wella Ansawdd, a datblygu staff a chwricwlwm. Mae'r Brifysgol yn annog cynrychiolaeth gan y staff ar ystod eang o sefydliadau allanol.
3 Adnabod a Chydnabod Rhagoriaeth mewn Addysgu
3 Adnabod a Chydnabod Rhagoriaeth mewn Addysgu
Bydd y Brifysgol yn parhau i ddefnyddio ystod o gyfleoedd i gydnabod a rhannu arfer effeithiol, ac arloesol ym maes dysgu ac addysgu. Bydd pwyllgorau’r Brifysgol yn parhau i fod yn gyfryngau pwysig ar gyfer y math hwn o weithgarwch ac yn aml bydd agendâu'r Byrddau Cyfadran yn cynnwys cyflwyniadau perthnasol. Bydd Diwrnodau Ymchwil y Brifysgol yn cynnig cyfleoedd pellach ac yn ogystal, disgwylir y bydd cydweithwyr yn yr Ysgolion academaidd yn codi ymwybyddiaeth yn fewnol ynghylch datblygiadau newydd o ran eu harfer trwy Arsylwi Cymheiriaid.
3.2 Darparu cyfleoedd a chymorth ar gyfer ysgolheictod, adfyfyrio beirniadol, gweithgareddau ymchwil a phroffesiynol
Bydd staff academaidd yn parhau i fod yn rhan o ystod eang o weithgareddau sy'n anelu at wella eu hysgolheictod a'u heffeithiolrwydd addysgol. Ymhlith y gweithgareddau hyn bydd bod yn aelod o gyrff proffesiynol, gwaith prosiect, gwaith ymgynghorol a mynd i gynadleddau. Bydd bod yn rhan o gynadleddau hefyd yn cynnwys cyflwyno papurau, ac mewn rhai achosion, bydd staff yn arwain neu'n cyfrannu at drefnu cynhadledd. Disgwylir i gyhoeddiadau fod yn rhai amrywiol a byddant yn cynnwys bob blwyddyn bapurau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, llyfrau, penodau mewn llyfrau a chyfaniadau at drafodion cynadleddau. Diweddarir Cyfeiriadur Ymchwil a Gweithgarwch Ysgolheigaidd y Brifysgol yn flynyddol gan gofnodi tystiolaeth o gyflawniad personol parhaus. Mae Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol yn rhoi manylion y cyfleoedd am Ddarllenyddiaethau, Cyfnodau Sabothol, Cymrodoriaethau Addysgu a Chyfnodau Prosiect. Bydd anogaeth i staff academaidd fanteisio ar y cyfleoedd hyn, ac er na roddir hawl awtomatig, bydd y Pwyllgor Datblygu Staff yn ystyried pob cais i ymgymryd ag astudio ac ymchwil o fath ac i raddau na fyddai'n bosibl yn ystod cyflogaeth arferol. Mae'r Llawlyfr hefyd yn rhoi gwybodaeth fanwl am y canlynol: cymhwysedd, y broses ymgeisio, cymorth ariannol ac atebolrwydd mewn perthynas â'r cais penodol.
3.3 Annog a chydnabod (gwobrwyo) Arloesi ym maes Dysgu ac Addysgu
Roedd Coleg Prifysgol y Drindod yn rhan o'r to cyntaf o Brifysgolion yn y DU i feincnodi ei ymrwymiad i Ddysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg. Aethpwyd ati i ddadansoddi'n drylwyr y cryfderau a'r gwendidau o ran y modd y defnyddir TEL. Lluniodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Meincnodi e-Ddysgu adroddiad i amlinellu'r argymhellion i'r Brifysgol o ran ei pharatoadau ar gyfer creu prifysgol addas i'r oes ddigidol. Yn 2007, dyma'r argymhellion a nodwyd ar gyfer 2008-10:
- Ymgorffori'r Strategaeth e-Ddysgu yn y strategaeth dysgu ac addysgu er mwyn ehangu mynediad a pherchenogaeth mewn perthynas â TEL.
- Cynyddu'r capasiti a’r arbenigedd trwy bartneriaeth gydweithredol â Phrifysgol Abertawe a SWWHEP, a oedd ar yr adeg honno ar fin ymddangos ac a nodir yn y Cyflwyniad.
- Cofnodi profiad ac arfer gorau trwy gychwyn prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth ddwyieithog; cyflogadwyedd gwell; integreiddio systemau; isadeiledd gwell; ardaloedd dysgu newydd a phyrth adnoddau dysgu.
- Datblygu system dryloyw i reoli’r broses o ryddhau staff ar gyfer prosiectau arloesi.
- Gwella’r arfer o fonitro gweithgareddau cyfoethogi.
- Uwchraddio’r Blackboard Suite cyfredol i’r Academic Suite. Treialu platfform ADRh Moodle. Archwilio’r defnydd o Campus Pack a rhaglen rhwydweithio cymdeithasol ELGG.
- Nodi partneriaid a dilyn cyfleoedd ar gyfer cyllido prosiectau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
- Trefnu’r broses o ledaenu arfer gorau o ran gwaith prosiect, yn annibynnol ac ar y cyd â sefydliadau eraill yn y rhanbarth a thu hwnt.
- Nodi a rhannu adnoddau ar draws y sefydliad.
- Nodi’r angen a datblygu rhaglen datblygu staff ar sail tystiolaeth ar gyfer TEL ar draws y sefydliad.
- Ehangu’r drafodaeth am TEL ar draws y sefydliad.
- Chwilio am fentrau a phrosiectau sy’n ceisio datblygu arfer gorau ac ymuno â hwy.
Cyflawnodd y Brifysgol y rhan fwyaf o'r argymhellion hyn erbyn 2009, ac mewn llawer o achosion mae wedi gweithredu TEL i raddau sydd y tu hwnt i’r argymhellion hyn ac yn ehangach na hwy. O'r gwaith hwn gellir nodi nifer o fentrau ategol i gefnogi arfer TEL.
4 Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu
4.1 Darparu technolegau cefnogol, gan gynnwys datblygiad parhaus o’r ADRh a chyfleoedd cysylltiedig ar gyfer dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg
Bydd Ysgol Celf, Ffilm a'r Cyfryngau yn cynnig cymorth gyda thechnolegau'r cyfryngau digidol i staff y Brifysgol.
Yn y gorffennol mae Ysgol Cyfrifiadura, Busnes a Thwristiaeth wedi darparu sesiynau datblygiad staff a chymorth unigol i staff ar gyfer defnyddio'r rhwydwaith cymdeithasol Ning, a ddatblygwyd ganddynt o'u prosiect peilot SusBuzz a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Hefyd mae'r Ysgol wedi treialu'r modwl di-bapur cyntaf mewn “cynaladwyedd” a lledaenwyd y canfyddiadau yn ystod 2009/10.
Mae Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored (ChIAAA) wedi cyflwyno defnyddio Google Calendars gan staff yr Ysgol i osgoi cyd-daro rhwng digwyddiadau/gweithgareddau, ac i ganiatáu i'r holl fyfyrwyr gael gwybodaeth ar unwaith trwy ymgorffori’r calendrau yn adrannau Gwybodaeth Gyffredinol yr Ysgol ar Blackboard. Os bydd yn llwyddiannus, mae'n bosibl y gellid ymestyn y model hwn i Ysgolion ac unedau eraill. Hefyd mae'r CAD ac Ysgol HAGA wedi defnyddio Google Calendar ers cryn amser ar gyfer rotas staff ac amserlennu gyda llwyddiant mawr. Mantais benodol yw y gellir ymgorffori'r calendrau yn yr ADRh i fyfyrwyr penodol allu eu gweld, a gellir eu cysylltu â ffonau a dyfeisiau symudol, gan sicrhau diweddariadau a mynediad cyson.
Mae cynlluniau'r dyfodol ar gyfer y Brifysgol yn cynnwys darparu sesiynau rheolaidd ‘Hanfodion y We ar gyfer Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg’, a hyfforddiant uwch ar ddefnyddio technolegau Gwe 2.0 ar gyfer dysgu ac addysgu, trwy gymysgedd o gynhadledd flynyddol, gweithdai Cinio a Dysgu a hyfforddiant achlysurol ar y cyfrifiadur i’r holl staff ar gais. Mae hyn yn cyd-fynd â chyflwyno cyfleusterau hyfforddi ‘sy'n ateb y diben’ ac offer newydd ym man dysgu newydd ac arloesol y Brifysgol, Y Cwad, a agorodd ym mis Ionawr 2010.
Er mwyn annog pobl i gydweithredu ar-lein a hwyluso'r gwaith o rannu adnoddau ac arfer gorau, mae blog ar dudalen Facebook, nodau tudalen cymdeithasol a safle wici yn cael eu treialu gan staff. Bellach mae llawer o staff y Brifysgol yn defnyddio Twitter i gydweithredu a rhannu adnoddau ar-lein â chydweithwyr, yn lleol trwy RhDP (Rhwydwaith Dysgu Personol) Gweithwyr Proffesiynol ym maes e-Ddysgu mewn Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, ac yn rhyngwladol â chydweithwyr ledled y byd.
Dyma’r datblygiadau allweddol a welwyd ar draws y Brifysgol:
- datblygu amgylchedd dysgu rhithwir y ‘Blackboard’Academic Suite er mwyn iddo gynnwys y Systemau Cymuned a Chynnwys newydd a’i huwchraddio i fod yn borth dysgu dwyieithog a gaiff ei wella a'i fireinio ymhellach o ganlyniad i Fersiwn 9.1 Blackboard sydd hefyd yn cynnig profiad gwell o We 2.0 i bob defnyddiwr.
- rhaglen datblygu staff helaeth ynghylch defnyddio ‘Blackboard’
- datblygu gradd sylfaen e-seiliedig mewn e-fasnach trwy bartneriaeth e-Ddysgu ranbarthol
- opsiwn e-Ddysgu yn y prosiect Geiriau Bach
- prosiect Interreg ar y cyd â Choleg Prifysgol Dulyn i ddatblygu Pecyn Gwaith Caffael ar gyfer BBaChau i'w cynorthwyo i ennill contractau pwysig
- prosiect Amcan 1 sy'n cefnogi datblygiad e-Gyfryngau ar gyfer rhaglenni chwaraeon a hamdden
- buddsoddi mewn byrddau gwyn rhyngweithiol a thaflunyddion data ychwanegol ar draws y Brifysgol
- cymryd rhan mewn prosiect meincnodi e-Ddysgu gyda’r Academi Addysg Uwch a'r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC)
- datblygu e-gynnwys perthnasol ar draws ystod o raglenni (e.e. e-lyfrau, cronfeydd data ac adnoddau wedi'u sganio), a darparu offer a hyfforddiant darganfod adnoddau i staff gael ymelwa ar yr e-gynnwys hwn i'w cefnogi yn eu gweithgareddau Dysgu ac Addysgu
Ystyrir y datblygiadau hyn yn rhai hanfodol er mwyn sicrhau bod staff, a thrwy hynny fyfyrwyr, yn parhau i fod ar y blaen o ran datblygiadau yn y cwricwlwm. Caiff Blackboard ei ddatblygu a'i huwchraddio er mwyn annog defnydd eang ohono gan staff a myfyrwyr mewn nifer o Ysgolion ar draws y sefydliad, a rhagwelir y bydd yn parhau i gael effaith arwyddocaol o ran gwella ansawdd. O ystyried Cylchlythyr W08/12HE CCAUC, Enhancing Learning and Teaching through Technology: a Strategy for Higher Education in Wales, bydd y canlynol ymhlith datblygiadau’r dyfodol:
- cyflwyno a mireinio rhyngwyneb Blackboard cyfrwng Cymraeg gan gynnwys system ddwyieithog lle gellir newid yn gyflawn o’r naill iaith i’r llall;
- asesiadau ar-lein ar gyfer rhai modylau;
- rhyngweithio pellach ag asiantaethau allanol megis JISC, yr AAU a Rhwydwaith Fideo Cymru.
4.2 Anelu at ddarparu campws diwifr y gall pawb fanteisio arno
Mae Cynllun Strategol 2008/09 i 2012/13 y Brifysgol yn cydnabod y datblygiad diweddar o greu rhwydwaith campws diwifr sy’n darparu gwelliant effeithiol i gefnogi'r agenda TEL. Yn ogystal, caiff neuaddau preswyl ar gampws Caerfyrddin eu gwifrio yn ystod Haf 2010 er mwyn ehangu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r band eang.
4.3 Datblygu Dulliau Hyblyg o Ddarparu dysgu yn sgil cyd-drafod a chyfleoedd ar ei gyfer
Mae Ysgolion Academaidd a phaneli dilysu Rhagarweiniol a Therfynol Rhaglenni Astudio yn ystyried yn ofalus ddulliau hyblyg a chyfleoedd ar gyfer dysgu yn sgil cyd-drafod yn ystod y prosesau ysgrifennu a dilysu. Bydd staff academaidd yn parhau i ddehongli Datganiadau Meincnodi Pwnc yr ASA er mwyn cynnwys cyfleoedd priodol ar draws eu Rhaglenni Astudio. Mae'r Ysgolion wedi datblygu dulliau arloesol megis darpariaeth breswyl, ar benwythnosau a gyda'r nos, darpariaeth ar-lein, defnyddio safleoedd wici a blogiau. Yn ogystal, mae'r Ysgolion yn hyrwyddo'r syniad o berchenogaeth gan fyfyrwyr ar eu patrymau dysgu a'u llinellau amser yn eu rhaglenni astudio. Hefyd, mae dulliau o hunan adfyfyrio a hunan asesu ac asesu cymheiriaid yn cynnig cyfleoedd pellach ar gyfer dysgu yn sgil cyd-drafod. Mae enghreifftiau o arfer da ac adborth wyneb yn wyneb nas cyfoethogir gan dechnoleg hefyd yn elfennau pwysig o'r profiad o ddysgu yn sgil cyd-drafod i lawer o fyfyrwyr.
4.4 Ymateb i fentrau, megis mentrau sy’n ymwneud â Sgiliau Lefel Uwch
Yn ogystal â'r Sgiliau Astudio neu Allweddol a addysgir mewn Rhaglenni Astudio israddedig ac ôl-raddedig, mae'r Brifysgol wedi cynyddu’r rhan y mae'n ei chwarae yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno dysgu seiliedig ar waith er mwyn hybu gallu Cymru i fod yn gystadleuol yn economaidd, yn unol ag argymhellion Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru (2008), Addewid a Chyflawniad (2007) ac Adolygiad Leitch ar Sgiliau (2006). Bu'r Brifysgol hefyd yn weithgar ei chyfraniad i Brosiect CCAUC Datblygiad Strategol Dysgu Lefel Uchel ar gyfer y Gweithlu yng Nghymru. Mae ganddi gynrychiolaeth hefyd ar bwyllgorau cenedlaethol sy'n ceisio bwrw ymlaen â sgiliau lefel uwch gan gynnwys y Grŵp Sgiliau Cyfrwng Cymraeg.
Dilyswyd fframwaith cwricwlwm mewn Arfer Proffesiynol ar lefelau 4, 5, 6 a 7 a'i lansio ym mis Mai 2009 gan Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Ei nod yw ehangu cyfranogiad trwy annog y rhai nad ydynt yn astudio eto i ddefnyddio'u profiad gwaith cyfredol i astudio ar lefel AU; darparu cronfa ddata o fodylau i hwyluso llwybrau dilyniant fertigol a llorweddol o ran gyrfa yn unol â'r argymhellion ar arweinyddiaeth a rheolaeth a nodwyd gan y Cynghorau Sgiliau Sector; a chydnabod sgiliau cyfredol myfyrwyr trwy eu hasesu yn erbyn cymwyseddau, gan gynnwys y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a gofynion proffesiynol, a thrwy Achredu Dysgu Blaenorol drwy Brofiadau. Mae'n gallu ymateb i anghenion iaith dysgwyr sy'n dymuno cyflawni'u datblygiad personol a phroffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog. Un o'r datblygiadau arwyddocaol yn ddiweddar oedd achredu rhaglenni datblygiad staff mewnol i gyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
4.5 Anelu at ddarparu isadeiledd priodol er mwyn sicrhau amgylchedd cefnogol a gyfoethogir gan dechnoleg i bob myfyriwr
Bu buddsoddiad mawr ar gampws Caerfyrddin ar gyfer uwchraddio nifer sylweddol o ystafelloedd darlithio er mwyn iddynt gynnwys yr offer uchod sy'n cyfoethogi profiadau dysgu ac addysgu'r myfyrwyr. Gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan CCAUC adnewyddwyd ystafelloedd darlithio yn y prif adeilad addysgu yn llwyr. Bydd y Brifysgol yn parhau i hyrwyddo a chefnogi Dysgu ac Addysgu trwy ddarparu gwybodaeth ar-lein. Mae'r ymrwymiad yn parhau i adeiladu casgliad cryf o adnoddau electronig i gefnogi gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Mae gwefan Y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd yn cael ei chreu a’i hail-ddylunio.
Bydd y wefan hon yn sicrhau bod modd manteisio ar holl wasanaethau’r Brifysgol ar y We trwy adrannau adnoddau penodol ar gyfer staff a myfyrwyr cyfredol. Mae’r cysylltiadau hyn yn cynnwys Blackboard, Mewnrwyd y Brifysgol, y Ganolfan Adnoddau Dysgu, RM Easilink, gwefan y Bartneriaeth Ysgolion, Gwasanaethau Ystadau a CMS. Parheir i ddatblygu ymhellach fynediad i adnoddau ar-lein i’r staff a’r myfyrwyr trwy’r wefan, gan gefnogi datblygiad holl wasanaethau’r Brifysgol ar y we a gweithgarwch sy’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu. Mae datblygu gwefan y Brifysgol yn hyrwyddo a chefnogi Dysgu ac Addysgu trwy ddarparu gwybodaeth ar-lein. Mae gwefan y Brifysgol yn gyfrwng allanol lle gall Cyfadrannau ac Ysgolion hyrwyddo gweithgareddau dysgu ac addysgu ychwanegol, profiadau’r myfyrwyr, a’r hyn y mae myfyrwyr wedi’i gyflawni. Mae’r rhain yn amrywio o berfformiadau theatrig i fideos ac arddangosfeydd celf a baratowyd gan fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Gwelir enghreifftiau yn yr hyrwyddo ar gyfer holl ddigwyddiadau’r Brifysgol, gan gynnwys mentrau megis Gwˆ yl y Drindod a gweithgareddau cysylltiedig y Ffrinj.
Mae’r System Rheoli Cynnwys (CMS) yn ei gwneud yn haws i staff gyhoeddi cynnwys ar y wefan gan gynnig cyfleoedd ychwanegol i hyrwyddo gweithgareddau Dysgu ac Addysgu a’r hyn y mae staff a myfyrwyr wedi’i gyflawni. Mae aelodau staff o bob Ysgol a Gwasanaeth Cymorth wedi cael hyfforddiant CMS ac maent yn cydweithio â Datblygydd Gwefan a Mewnrwyd y Brifysgol i ddatblygu’r wefan ymhellach er mwyn cefnogi mentrau ar draws y Brifysgol. Roedd yr hyfforddiant CMS yn cynnwys ‘Ysgrifennu i’r We’, hygyrchedd ac ansawdd golygyddol er mwyn sicrhau bod pobl yn gweithredu’n unol â safonau Gwella Ansawdd y Brifysgol trwy gywirdeb a safonau golygyddol priodol.
Mae’r Brifysgol yn parhau i ymrwymo i sicrhau bod modd i bob un o’i defnyddwyr fanteisio ar ei gwefan trwy gefnogi Menter Hygyrchedd y We (WAI), a dilysu gan Gonsortiwm y We Fyd-eang (W3C). Ei nod yw cyrraedd o leiaf Lefel Gydymffurfio “AA” Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG), gan ymdrechu at gyrraedd y Lefel Gydymffurfio Uchaf sef “AAA” ymhob darn hanfodol o gynnwys ar y Wefan a’r Fewnrwyd.
Yn sgil yr ail gam hwn o’r prosiect uchod daw cyfle pellach i gefnogi gweithgareddau Dysgu ac Addysgu trwy Ddatblygu Gwefan a Mewnrwyd y Brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys mynediad i nifer o byrth newydd ar y we a datblygu Allrwyd.
5 Gwella Sgiliau a Chyflogadwyedd Graddedigion
5.1 Datblygu ystod eang o sgiliau galwedigaethol a throsglwyddadwy sy’n gallu gwella cyflogadwyedd
Bydd Ysgolion Academaidd, ar y cyd â’r Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth a Hysbysrwydd a phaneli dilysu mewnol ac allanol Rhaglenni Astudio yn ystyried yn ofalus y modd y caiff sgiliau trosglwyddadwy eu meithrin, yn ystod y prosesau ysgrifennu a dilysu. Bydd staff academaidd yn dehongli Datganiadau Meincnodi Pwnc yr ASA er mwyn cynnwys cyfleoedd priodol trwy gydol eu Rhaglenni Astudio, ac yn ystyried pwyslais strategol y Cynghorau Sgiliau Sector. Mae achredu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn nodwedd allweddol yn y Fframwaith Arfer Proffesiynol, ac fe’i defnyddir gan gyflogwyr wrth achredu’u rhaglenni datblygu staff.
5.2 Gwerth Sgiliau Ymchwil i gyflogadwyedd graddedigion
Mae'r Brifysgol yn benderfynol o roi cyfle i fyfyrwyr ennill sgiliau ymchwil lefel uchel, trosglwyddadwy. O ganlyniad i adolygiad trylwyr o’i chwricwlwm mae’r Brifysgol wedi cryfhau'r addysgu sy’n canolbwyntio ar ymchwil. O fis medi 2010, cynghorir Ysgolion i sicrhau bod modwl ar fethodoleg ymchwil yn rhan o'r cwricwlwm ym mhob rhaglen, (yn wir, dyma a wneir eisoes mewn llawer iawn o Ysgolion), gan sicrhau bod myfyrwyr yn ennill y sgiliau hanfodol ar gyfer astudio’n llwyddiannus. Mae i lawer o fodylau elfen fethodolegol ymhlyg fel y gwelir yn eu deilliannau dysgu. Mae cynnwys elfennau ymchwil o’r fath yn ymateb i flaenoriaethau’r Cyngor Ariannu, gofynion yr ASA o ran rhaglenni, a Datganiadau Meincnodi Pynciau. Yn ogystal â’r modylau hyn, mae YDDS hefyd yn canolbwyntio, yn enwedig ar lefelau 6 a 7, ar ymchwil sy'n seiliedig ar ymholi er mwyn datblygu myfyrwyr a’u gwneud yn ddysgwyr ac ymarferwyr llawer mwy gweithredol, annibynnol ac adfyfyriol, sydd â rhan gyflawn yn y broses o ddysgu. Dylunnir y modylau ar sail gweithgareddau sy’n seiliedig ar ymholi yn hytrach na chaffael cynnwys pwnc. Mae modwl traethawd hir, er enghraifft, ar gael i lawer o fyfyrwyr ar lefel 6 ac fel rhan o lawer o raglenni eraill, mae myfyrwyr eisoes wedi cael y cyfle i ymwneud ag ymchwil annibynnol neu brosiectau ym maes arfer creadigol. Eisoes trefnir cynadleddau a gweithdai o dan arweiniad myfyrwyr gan ystod o Ysgolion er mwyn cynnig cyfle i fyfyrwyr gyflwyno deilliannau’u hymchwil mewn lleoliad cefnogol. Nod y Brifysgol yw rhannu'r arfer da presennol yn hyn o beth ar draws y sefydliad. Mae’r pwyslais hwn ar ddatblygu sgiliau allweddol i raddedigion trwy gynnwys addysgu sy’n seiliedig ar ymchwil yn y cwricwlwm yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr i fyfyrwyr.
5.3 Cefnogi datblygu ac integreiddio CDPau mewn rhaglenni
Mae Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol yn rhoi manylion y broses o gyflwyno CDPau i bob myfyriwr yn ystod yr Wythnos Gynefino. Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n gyfrifol am y cyflwyniad hwn a rhydd gyngor ar y gefnogaeth y gellir ei chael trwy gyfrwng yr uned hon a thrwy ei safle Blackboard cysylltiol. Cyflwynir y Myfyrwyr hefyd i Pebble Pad (amgylchedd dysgu personol) er mwyn cynorthwyo gyda'u Cynllunio o ran Datblygiad Proffesiynol. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn creu Proffiliau Dechrau Gyrfa - sef CDPau sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion y gweithle. Yr her yn y dyfodol fydd datblygu CDPau ymhellach er mwyn gwella cyflogadwyedd.
5.4 Cynnig cyfleoedd Dechrau Busnes i Raddedigion
Mae Cynllun Strategol y Swyddfa Ymchwil a Datblygu 2007-12 yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod Rhaglenni Astudio yn cynnwys datblygu gweithgarwch entrepreneuriaid (sy'n gysylltiedig ag Agenda Lisbon). Dynoda hefyd yr angen i bwysleisio cysylltiadau rhwng y gweithgarwch hwn a'r Drydedd Genhadaeth ac agendâu'r Cynghorau Sgiliau Sector. Y Swyddfa Ymchwil a Datblygu (yr Uned Ddatblygu gynt) sy'n rheoli rhaglen “Dynamo” Llywodraeth Cynulliad Cymru, gan gynnig nifer o weithgareddau cefnogi menter i fyfyrwyr gan gynnwys manteisio ar siaradwyr entrepreneuraidd arbenigol (Modelau Rôl Dynamo), sesiynau “blasu”menter, cystadlaethau ac ymweliadau â busnesau. Cyfeirir myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyfleoedd i ddechrau busnes at raglenni Cymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B) gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Rhaglenni Deillio a rhaglenni awdurdodau lleol ar gyfer dechrau busnesau.
5.5 Cyflawni Cynllun Strategol Swyddfa Ymchwil a Datblygu’r Brifysgol
Yn unol â'i strategaeth ar gyfer y Drydedd Genhadaeth, bwriada'r Brifysgol ddatblygu'r capasiti yn y Cyfadrannau i ymgymryd â phrosiectau, creu incwm a gweithgarwch ymchwil. Ar hyn o bryd mae'r Swyddfa Ymchwil a Datblygu'n datblygu Polisi Eiddo Deallusol i'r sefydliad, ac mae wedi sefydlu Grŵp Datblygu Prosiectau i gefnogi staff academaidd i ddatblygu prosiectau a meithrin gweithgarwch trawsddisgyblaethol yng nghyswllt prosiectau ac ymchwil. Datblygir hwn trwy broses fewnol ac ar y cyd â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Abertawe trwy Bartneriaeth Arloesi'r Ddraig.
Mae Cynllun Strategol y Swyddfa Ymchwil a Datblygu 2007-12 yn adlewyrchu'r newid hwn o ran ffocws ac yn pwysleisio'r cefndir a'r cyd-destunau mewnol ac allanol. Cydnabyddir pwysigrwydd Agenda Lisbon, Agenda Gothenburg a newid demograffig yn eglur, a rhestrir isod y prif gerrig milltir a nodir yn y cynllun:
- Datblygu strategaeth y Drydedd Genhadaeth sy'n sail i, ac sy'n diffinio'n glir, flaenoriaethau strategol ar gyfer twf a datblygiad sefydliadol
- Datblygu a gweithredu polisi â diffiniadau clir ynghylch datblygu prosiectau ac Eiddo Deallusol wrth ymgysylltu â gweithgarwch allanol, sef polisi sy'n darparu ar gyfer cydnabod cyfranogiad staff ac sy'n rheoli'r broses yn effeithiol
- Datblygu a gweithredu matrics sefydliadol i egluro polisi a gweithgareddau datblygu, y gydberthynas rhyngddynt a'u heffeithiau
- Gweithredu Prosiect Cydweithredu'r Drydedd Genhadaeth, sef Partneriaeth Arloesi'r Ddraig, gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae hwn yn caniatáu i academyddion weithio'n gydweithredol rhwng sefydliadau wrth ddatblygu a chyflawni prosiectau
- Cynnal proffil uchel gydag ystod o bartneriaid allanol allweddol sy'n cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin ac awdurdodau lleol eraill, SAU, SAB, Cynghorau Sgiliau Sector perthnasol, APADGOS a DET, a thrwy aelodaeth o rwydweithiau allanol yn cynnwys grwpiau Cynllun Gofodol Cymru (WSP) a phartneriaethau cyllido
- Sefydlu sianeli cyfathrebu, gan gynnwys briffio rheolaidd i'r UDRh ac oddi wrth yr UDRh
- Cefnogi ceisiadau sylweddol am gyllid allanol ar gyfer prosiectau allweddol gyda phartneriaid allanol sydd o werth strategol i’r sefydliad a’r rhanbarth
- Hwyluso prosiectau ar draws y sefydliad sy'n datblygu ac sy'n cynnal capasiti Ysgolion ac adrannau i gyflawni mewn meysydd o flaenoriaeth.
- Hwyluso datblygu ystod o raglenni sy'n seiliedig ar waith, a lywir gan gymwyseddau, sy'n seiliedig ar gryfderau sefydliadol ac sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng ystod o fethodolegau dysgu o bell arloesol. Gall hyn gynnwys datblygu rhaglen secondiadau/lleoliadau diwydiannol ar draws y cwricwlwm i staff
- Cysylltu â Chynghorau Sgiliau Sector allweddol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu rhaglenni galwedigaethol a ddynodir trwy Gytundebau Sgiliau Sector, ac i wella'r ymgysylltu â diwydiant
- Datblygu partneriaethau â SAUau a SABau rhanbarthol er mwyn datblygu “Rhwydwaith Sgiliau” ar gyfer darparu ystod gynhwysfawr o sgiliau galwedigaethol a gwasanaethau yn rhanbarth De-orllewin Cymru. Cefnogir y gwaith hwn ar hyn o bryd gan y prosiect Menter Cymorth Economaidd dan adain CCAUC.
5.6 Darparu cefnogaeth gyrfaoedd barhaus trwy Wasanaethau Myfyrwyr
Yng Nghynllun Gweithredu Gwasanaethau Myfyrwyr rhoddir tystiolaeth glir o bwysigrwydd cefnogaeth gyrfaoedd barhaus ar ôl i fyfyrwyr raddio o'r Brifysgol. Mae cynghorwyr gyrfaoedd sydd â chymwysterau proffesiynol ar gael ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin. Bydd datblygu adnoddau ar-lein newydd megis PNet ac e-arweiniad o bwys arbennig, a hwyluswyd llawer o'r datblygiadau hyn gan Bartneriaeth Addysg Uwch De-orllewin Cymru.
5.7 Datblygu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae Cynllun Strategol y Swyddfa Ymchwil a Datblygu ar gyfer 2007-12 yn tynnu sylw at y potensial i Ysgolion academaidd ddatblygu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a KTPau “mini” â sefydliadau allanol. Mae'r Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn cefnogi staff academaidd i ddatblygu cynigion ar gyfer KTP.
5.8 Datblygu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith a chyfnodau o brofiad gwaith
Bydd y tîm GO Wales yn y Brifysgol yn parhau i chwarae rôl allweddol o ran datblygu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith. Y bwriad yw ehangu'r nifer cynyddol o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr. Bydd Tîm GO Wales yn parhau i ddatblygu a chynnal perthynas waith agos ag Ysgolion academaidd, Undeb y Myfyrwyr, y Swyddfa Ymchwil a Datblygu a chwmnïau lleol i greu rhagor o gyfleoedd pellach yn y gweithle.
Bydd cyfres o weithgareddau a digwyddiadau yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr, a bydd rhwydweithio â grwpiau lleol yn chwarae rôl bwysig o ran darparu cyfleoedd newydd ar gyfer lleoliadau gwaith. Hefyd gall myfyrwyr bellach ymgeisio am Brofiad Gwaith Myfyrwyr i'w galluogi i weithio yn ystod gwyliau'r haf a gwella eu CVs personol ymhellach yn sgil hynny.
Bydd cyfres o weithgareddau a digwyddiadau yn codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr, a bydd rhwydweithio â grwpiau lleol yn chwarae rôl bwysig o ran darparu cyfleoedd newydd ar gyfer lleoliadau gwaith. Hefyd gall myfyrwyr bellach ymgeisio am Brofiad Gwaith Myfyrwyr i'w galluogi i weithio yn ystod gwyliau'r haf a gwella eu CVs personol ymhellach yn sgil hynny.
5.9 Datblygu Canolfan Mentergarwch Diwylliannol fydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr sy'n graddio
Mae Canolfan Mentergarwch Diwylliannol ‘Y Llwyfan’ yn ganolfan weinyddu ac ymarfer barhaol i Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae'n cynnig ystod o gyfleoedd creadigol i’n myfyrwyr. Yn ogystal, mae gan y Ganolfan leoedd swyddfa ar gyfer cwmnïau sy'n gweithredu yn y sector diwylliannol yn ogystal â hyd at ddeg uned hybu ar gyfer busnesau newydd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf datblygwyd menter lwyddiannus iCreu, prosiect a gyllidir gan y Cynllun Datblygu Gwledig, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu diwydiannau creadigol a diwylliannol yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac fe'i lleolir yn Y Llwyfan.
6 Ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru, CCAUC a'r AAU
Gwerthuso, monitro ac ymateb i bolisïau cenedlaethol diweddar sy'n effeithio ar Ddysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch, gan gynnwys: Ymgeisio yn Uwch; Y Wlad sy'n Dysgu 2: Gweledigaeth ar Waith; Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy; Dinasyddiaeth Fyd-eang – Strategaeth Weithredu; Adolygiad Leitch ar Sgiliau; Iaith Pawb, Adroddiad Furlong, Adroddiad Cox ar Greadigrwydd; Safonau Proffesiynol mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu; Cylchlythyr W08/12HE CCAUC, Enhancing Learning and Teaching through Technology: a Strategy for Higher Education in Wales.
Mae'r Brifysgol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnig ystod eang o gyrsiau o safon sy'n ymateb i'r canlynol: anghenion dwyieithrwydd; yr agenda dysgu gydol oes; a'r ysgogyddion allanol allweddol - Adolygiad Leitch, Y Wlad sy’n Dysgu II ac Adolygiad Cox ar Greadigrwydd.
Wrth wireddu'r weledigaeth a osodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r Brifysgol wedi adfyfyrio ar y cyfarwyddebau polisi, yn enwedig:
- y farn a fynegwyd gan y Llywodraeth y diffinnir addysg uwch yng Nghymru erbyn 2010 gan rwydweithiau rhagoriaeth yn hytrach na sefydliadau
- dyhead i weld sector amrywiol o genadaethau gwahanol
- dyhead i weld sefydliadau’n cael rhyddid i arbenigo mewn pynciau a chenadaethau ac felly'n diffinio eu cenadaethau craidd
- dyhead i gefnogi clystyrau sy'n rhannu cenhadaeth gyffredin, gyda'r bwriad y byddai clystyrau ystyrlon yn ddaearyddol ac yn swyddogaethol yn cynyddu cryfderau'r sefydliadau
- cefnogaeth i ddatblygu addysg ddwyieithog trwy Gymru.
Bydd y Brifysgol hefyd yn gallu ymateb i gynlluniau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru o ganlyniad i'r prosiect SWWHEP cyfredol rhwng y Brifysgol, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae'r tri sefydliad yn cydweithio ar draws ystod eang o feysydd swyddogaethol a gweinyddol, gan greu partneriaeth strategol gref rhwng y tri sefydliad (http://www.swwhep.ac.uk). Mae hyn yn unol â'r cynnig a amlinellwyd yn nogfennau polisi strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Ymgeisio yn Uwch, a Pobl, Lleoedd, Dyfodol: Cynllun Gofodol Cymru
Wrth fwrw ymlaen ag agenda ail-gyflunio Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae'r tri sefydliad wedi penderfynu aros yn annibynnol a'u rheoli eu hunain ond gan weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwell effeithlonrwydd a datblygu proffil academaidd cryf wrth wasanaethu'r rhanbarth.
Mae'r Brifysgol mewn sefyllfa dda i hyrwyddo ymhellach ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Fel un o aelodau blaenllaw'r Coleg Ffederal arfaethedig, bydd Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn adeiladu ar seiliau cadarn y sefydliad, gan ddatblygu portffolio cynyddol o raglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o safon a fydd yn berthnasol yn alwedigaethol, ac yn gadarn o safbwynt academaidd. Gan weithio gydag ysgolion a cholegau ar draws y rhanbarth, bydd yn anelu at ddarparu llwybrau dilyniant di-dor i fyfyrwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd yn gweithio ar y cyd â'r sefydliadau eraill hyn er mwyn gwella profiadau'r myfyrwyr ar draws gwahanol sectorau, gan rannu adnoddau ac arfer da bob amser.
Bydd y Brifysgol hefyd yn gweithio'n agos gyda Chanolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg i ddatblygu ystod o raglenni datblygu staff ar gyfer aelodau academaidd o’r staff sy'n Gymraeg eu hiaith. Ystyrir bod buddsoddi mewn hyfforddi staff, ac yn enwedig ym maes addysgu dwyieithog, yn hanfodol i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog ysefydliad. I'r perwyl hwn bydd y sefydliad yn parhau i geisio am Gymrodoriaethau Addysgu Cyfrwng Cymraeg ac Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg gan y Ganolfan i gryfhau ymhellach ei gapasiti o ran darparu ystod ehangach o raglenni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Bydd y Brifysgol hefyd yn gweithio'n agos gyda Chanolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg i ddatblygu ystod o raglenni datblygu staff ar gyfer aelodau academaidd o'r staff sy'n Gymraeg eu hiaith. Ystyrir bod buddsoddi mewn hyfforddi staff, ac yn enwedig ym maes addysgu dwyieithog, yn hanfodol i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog y sefydliad. I'r perwyl hwn bydd y sefydliad yn parhau i geisio am Gymrodoriaethau Addysgu Cyfrwng Cymraeg ac Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg gan y Ganolfan i gryfhau ymhellach ei gapasiti o ran darparu ystod ehangach o raglenni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
Bydd y Brifysgol hefyd yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg i ddatblygu ystod o raglenni datblygu staff ar gyfer aelodau academaidd o’r staff sy'n Gymraeg eu hiaith. Ystyrir bod buddsoddi mewn hyfforddi staff, ac yn enwedig ym maes addysgu dwyieithog, yn hanfodol i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog y sefydliad. I'r perwyl hwn bydd y sefydliad yn parhau i geisio am Gymrodoriaethau Addysgu Cyfrwng Cymraeg ac Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg gan y Ganolfan i gryfhau ymhellach ei gapasiti o ran darparu ystod ehangach o raglenni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

