Uno arfaethedig o Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe 

Y FFEITHIAU

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Gwener 21 Hydref, cytunwyd y byddai Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn uno â Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe o dan ein Siarter Brenhinol 1822. Roedd cyrff llywodraethol y ddau sefydliad arall hefyd wedi cytuno i hyn.   

Y mae hyn yn ddigwyddiad hanesyddol a phwysig a fydd yn sylfaen gadarn ar gyfer ein dyfodol ac a fydd yn sicrhau parhad ein Siarter Prifysgol ni - sef yr hynaf yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt. 

Sut bydd hyn yn effeithio ar astudio yn y Drindod Dewi Sant?

Ni fydd y cyhoeddiad hwn a'r materion diweddar sy'n ymwneud â Phrifysgol Cymru yn effeithio ar eich astudiaethau yn y Drindod Dewi Sant. Byddwn yn parhau i gynnig a chynnal cyrsiau o gampws Llambed a Chaerfyrddin.

Pam mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant uno â Phrifysgol Cymru?

Mae'r uno yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2010 ei bod yn dymuno gweld dim mwy na chwe phrifysgol yng Nghymru erbyn 2013. Mae'n her gyffrous i greu Prifysgol Cymru a fydd wedi’i thrawsnewid ac i ddiogelu ein sefydliad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Fel rhan o'r broses uno, ymgymerodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hefyd a rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru ar 1 Hydref.

A yw gradd Prifysgol Cymru yn cael ei gwerthfawrogi gan gyflogwyr?

Ydy, cydnabyddir a gwerthfawrogir gradd Prifysgol Cymru ac enw Prifysgol Cymru ar draws y byd. Yn ogystal, fel myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant rydych yn cael cyfleoedd i ddatblygu ystod o sgiliau a nodweddion sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.