Y Celfyddydau

Mae ymrwymiad y Brifysgol i’r celfyddydau diwylliannol, creadigol a pherfformio yn hysbys i bawb ac enillodd enw da i’w hunan oherwydd ansawdd ei graddedigion, y gwelir llawer ohonynt yn perfformio yn theatrau, neuaddau cyngerdd a sgriniau teledu ein gwlad, yn ogystal ag yn gweithio’r tu ôl i’r llenni yn gyfarwyddwyr, golygyddion, technegwyr a gweinyddwyr.

Cyngerdd yn y Brifysgol

Mae rhwydweithiau niferus y Brifysgol yn cynnwys cydweithio gydag artistiaid unigol a mudiadau, gan roi cyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr weithio gydag eraill sydd ynghlwm wrth ddatblygu a hyrwyddo’r Celfyddydau. Mae byd celfyddydol bywiog y Brifysgol yn golygu fod digon ichi i’w fwynhau. Mae myfyrwyr llawn a rhan-amser yn cyfrannu at arddangosfeydd celf, cynyrchiadau theatr, digwyddiadau ysgrifennu creadigol a chyngherddau cerddorol yn y Brifysgol ei hun neu mewn canolfannau celfyddydau
rhanbarthol.

Mae Côr Y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu doniau lleisiol mewn cyngherddau a chystadlaethau, ac mae digon o gyfleoedd hefyd i unawdwyr ddatblygu eu sgiliau perfformio. Cynhelir sesiynau ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg, ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad yr iaith - mae digon o bobl i’ch helpu - ond byddwch yn barod i ganu mewn unrhyw iaith - yn Gymraeg, Saesneg ac eraill! Mae’r côr yn magu enw iddo’i hun yn barod ac mae wedi ymddangos ar raglenni teledu ac wedi cael llwyddiant mewn cystadlaethau cenedlaethol.

Mae cyfleusterau ardderchog ar y ddau gampws ac mae’r Brifysgol yn rheolaidd yn croesawu cwmnïau theatr teithiol
a pherfformwyr proffesiynol.

Mae myfyrwyr yr Ysgol Theatr a Pherfformio yn cymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau trwy gydol y flwyddyn fel rhan o’u cwricwlwm prysur.

Mae myfyrwyr Celfyddyd Gain a Chynllunio a Chynhyrchu Theatr yn arddangos yn rheolaidd yn y Brifysgol ac mewn canolfannau celf ar hyd a lled y rhanbarth. Mae’r Sioeau Graddedigion yn rhan o wyl gelfyddydau Gwyl! ac maent yn teithio i ganolfannau eraill, gan gynnwys orielau celf rhanbarthol.

Mae’r Ysgol Astudiaethau Diwylliannol yn cynnal cynadleddau a digwyddiadau darllen sy’n galluogi awduron cyhoeddedig a myfyrwyr i roi darlleniadau o’u gwaith. Mae hefyd yn gwahodd siaradwyr gwadd i’r Brifysgol.

Gwyl Gelfyddydau Gwyl!

Cynhelir Gwyl!, y mae’r cyfansoddwr Karl Jenkins yn noddwr iddi, yn flynyddol ym mis Mehefin ac mae’n cynnwys cyngherddau, datganiadau, cynyrchiadau theatr, digwyddiadau llenyddol, arddangosfeydd celf yn ogystal â chystadleuaeth i unawdwyr. Y prif ddigwyddiad yw Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows, a enwyd ar ôl y tenor byd enwog sy’n gyn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod. Mae myfyrwyr yn cyfrannu at drefnu’r wyl ymylol, sy’n rhoi cyfle iddynt drefnu a chymryd rhan mewn digwyddiadau gyda chymorth tîm Gwyl. Cynhelir hefyd nifer o ddigwyddiadau Celfyddydol yn cynnwys myfyrwyr ac artistiaid proffesiynol trwy gydol y flwyddyn. Mae’r gweithgareddau hyn yn ychwanegol at y rhai a gynigir gan ysgolion academaidd yn rhan o’u cwricwlwm.