Croeso i Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant!

Trefniadau Dechrau Tymor a Chofrestru
Campws Caerfyrddin

Y mae nifer o weithgareddau y bydd angen ichi ymgymryd â nhw yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol. Un o'r rheiny fydd cofrestru. Y lleoliad a ddefnyddir ar gyfer cofrestru myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yw Undeb y Myfyrwyr. Os ydych wedi bwcio llety'r Brifysgol, byddwch yn casglu eich allweddi o'r fan hon hefyd. 

Cofrestru yw'r broses swyddogol y m mae'n rhaid ymgymryd â hi er mwyn dod yn fyfyriwr. Ar ddiwrnod Cofrestru, bydd ffurflen gofrestru a argraffwyd o flaen llaw yn cael ei rhoi i chi. Bydd y ffurflen hon yn cynnwys eich manylion personol. Y mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r holl fanylion ac yn cywiro'r ffurflen lle bo angen.

Bydd wedyn angen ichi roi'r ffurflen, ynghyd â nifer o ddogfennau eraill, i aelod o'r tîm Cofrestru. Bydd angen ichi hefyd i dalu eich ffioedd dysgu neu i gytuno ar fodd i dalu.

I ganfod gwybodaeth am eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol ac am wybodaeth benodol ynghylch gofynion cofrestru, dewiswch y cysylltiad perthnasol isod: