BA / BSc - Blwyddyn 1

Trefniadau Dechrau Tymor

Y mae'r ddogfen BA-BSc Blwyddyn 1 Trefniadau Dechrau Tymor yn rhoi gwybod ble y mae angen ichi fod ar adegau penodol yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol. Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus a chysylltwch â'r Gofrestrfa os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Llwybr Dysgu Hyblyg - gwnaed trefniadau gwahanol ar gyfer cofrestru ac anwytho myfyrwyr fydd yn astudio BA Addysg Blynyddoedd Cynnar / BA Early Years Education ar y Llwybr Dysgu Hyblyg. Mae'r linc uchod felly i Drefniadau Dechrau Tymor yn amherthnasol. Byddwch wedi derbyn llythyr yn gofyn ichi fynychu sesiwn gofrestru cynharach. Parhewch i ddarllen gweddill y wybodaeth ar y dudalen we hon os gwelwch yn dda.

Dogfennau y mae eu Hangen ar gyfer Cofrestru

Yn ystod y broses gofrestru, bydd gofyn ichi ddarparu dogfennau yn brawf o bwy ydych ac o'ch cymwysterau blaenorol. Bydd angen ichi ddangos dogfennau gwreiddiol yn ogystal â darparu llungopiau a fydd yn cael eu cadw yn gyfrinachol ar eich ffeil yn y Gofrestrfa.

Gweler Dogfennau Cofrestru eu Hangen gan Fyfyrwyr BA-BSc am restr o'r holl ddogfennau gwreiddiol a'r llungopiau bydd eu hangen.

NODER: Os ydych yn astudio un o’r cyrsiau isod, dylech gyfeirio at Dogfennau Cofrestru eu Hangen gan Fyfyrwyr BA-BSc sy angen CRB yn lle'r uchod.

Ysgol Plentyndod Cynnar

  • BA Addysg Blynyddoedd Cynnar
  • BA Early Years Education

Ysgol Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant

  • BA Primary Education Studies
  • BA Social Inclusion
  • BA Youth & Community Work
  • BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned

Ysgol Chwaraeon Iechyd ac Addysg Awyr Agored

  • BA Physical Education
  • BA Outdoor Education
  • BA Health & Exercise and Sports Studies
  • BSc Health & Exercise
  • BSc Health, Nutrition and Lifestyle
  • BA Addysg Gorfforol

Gwybodaeth Feddygol

Yn ogystal â darparu'r ddogfennaeth bersonol y cyfeirir ati uchod, bydd angen ichi gwblhau Holiadur Meddygol byr a fydd yn cael ei gadw yn gyfrinachol ar eich ffeil yn y Gofrestrfa. Cwblhewch yr holiadur a'i gyflwyno yn ystod Cofrestru.

Y mae'r Brifysgol yn argymell eich bod yn cofrestru gyda meddygfa leol. Bydd cynrychiolwyr o Feddygfa San Pedr, Caerfyrddin, yn bresennol ar Ddiwrnod Cofrestru. Os hoffech gofrestru gyda'r feddygfa, llenwch y Holiadur Meddygfa San Pedr i Gleifion Newydd a dewch â'r ffurflen gyda chi ar Ddiwrnod Cofrestru.

Y mae'n bwysig eich bod yn darllen y wybodaeth gyfredol a'r cyngor sydd ar gael i fyfyrwyr ynghylch y Ffliw Moch, a hefyd y wybodaeth ar Ymlediad Clwyr Pennau a Llid yr Ymennydd ac Imiwneiddiadau.

Cymorth i Oroesi

Y mae'r ddogfen Cymorth i Oroesi yn cynnig pob math o wybodaeth ar wahanol agweddau o fywyd Prifysgol. Bydd copi caled yn cael ei roi ichi ar Ddiwrnod Cofrestru.

Cyllid Myfyrwyr

Am wybodaeth ar bob agwedd yn ymwneud â chyllid, o Daliadau Ffioedd Dysgu i Fwrsiau ac Ysgoloriaethau, gweler Cyllid Myfyrwyr.

Cyn gynted ag y byddwn wedi eich cofrestru yn llawn, bydd y Brifysgol yn hysbysu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a bydd taliad cyntaf eich benthyciad yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc. Y mae’r broses hon yn gallu cymryd o leiaf 4-5 diwrnod gwaith. Yn anffodus ni fydd modd inni eich cofrestru’n llawn nes inni dderbyn eich dogfennau cofrestru i gyd.

Datganiadau Myfyrwyr

Y mae'r Datganiad Cofrestru yn nodi ar ba delerau y mae'r Brifysgol yn eich derbyn ar raglen. Yn ystod Cofrestru, bydd angen ichi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall cynnwys y ddogfen a'ch bod yn cytuno i dderbyn yr amodau a'r telerau.

Bydd hefyd angen ichi gadarnhau eich bod yn derbyn telerau ac amodau'r Gwasanaeth Canfod Llen Ladrad a ddefnyddir gan y Brifysgol.

Darllenwch y ddwy ddogfen o flaenllaw os gwelwch yn dda.

Cynllun Teithio

Dylai'r rheiny ohonoch sy'n dymuno dod â char eich hun i'r Brifysgol ddarllen y Cynllun Teithio. Y mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am y ffioedd parcio.

Y Ganolfan Chwaraeon a Ffitrwydd

Gall pob myfyriwr ddod yn aelod o'r Ganolfan Chwaraeon a Ffitrwydd sydd ar y campws. Y mae cynnig arbennig ar gael i fyfyrwyr sy'n ymuno cyn 31ain Hydref: Canolfan Ffitrwydd a Chwaraeon Cynnig.

Gwybodaeth i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU / HESA)

Bydd rhaid i'r Brifysgol anfon data amdanoch i'r Asiantaeth Addysg Uwch a fydd yn ei thro yn trosglwyddo'r data i gyrff eraill y mae angen y wybodaeth arnynt i gyflawni eu swyddogaethau statudol mewn perthynas â chyllido addysg uwch. Ceir manylion pellach ar HESA Hysbysiad Casglu Data Myfyrwyr.

Halliwell

Os hoffech archebu Cinio Carferi yng Nghanolfan yr Halliwell i chi a'ch teulu ar Ddydd Sul, 25ain Medi 2011, cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Archebu Cinio Carferi erbyn 19eg Medi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Gofrestrfa.

Dysgu Cymraeg

Mae croeso i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dysgu neu wella eu Cymraeg gofrestru ar un o'n cyrsiau Cymraeg i Oedolion. Mae digon o ddewis ar gael ar bob lefel a does dim rhaid i fyfyrwyr llawn amser dalu. Gellir gweld manylion y cyrsiau a sut i gofrestru ar y linc isod.

Cyrsiau Cymraeg i Oedolion - Welsh for Adults Courses