Croeso nôl i Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant!
Trefniadau Dechrau Tymor a Chofrestru
Campws Caerfyrddin
Y mae nifer o weithgareddau y bydd angen ichi ymgymryd â nhw yn ystod eich wythnos gyntaf yn ôl yn y Brifysgol. Un o'r rheiny fydd cofrestru.
Cofrestru yw'r broses swyddogol y mae'n rhaid i fyfyrwyr ymgymryd â hi ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Ar ddiwrnod Cofrestru, bydd ffurflen gofrestru a argraffwyd o flaen llaw yn cael ei rhoi i chi. Bydd y ffurflen hon yn cynnwys eich manylion personol. Y mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r holl fanylion ac yn cywiro'r ffurflen lle bo angen.
Bydd wedyn angen ichi roi'r ffurflen i aelod o'r tîm Cofrestru. Bydd angen ichi hefyd i dalu eich ffioedd dysgu neu i gytuno ar fodd i dalu.
I ganfod gwybodaeth am ddychwelyd i'r Brifysgol, dewiswch y cysylltiad perthnasol isod:

