BA / BSc - Blwyddyn 3
Trefniadau Dechrau Tymor
Y mae'r ddogfen BA-BSc Blwyddyn 3 Trefniadau Dechrau Tymor yn rhoi gwybod ble y mae angen ichi fod ar adegau penodol yn ystod eich wythnos gyntaf nôl yn y Brifysgol. Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus a chysylltwch â'r Gofrestrfa os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Llwybr Dysgu Hyblyg - gwnaed trefniadau gwahanol ar gyfer cofrestru ac anwytho myfyrwyr fydd yn astudio BA Addysg Blynyddoedd Cynnar / BA Early Years Education ar y Llwybr Dysgu Hyblyg. Mae'r linc uchod felly i Drefniadau Dechrau Tymor yn amherthnasol. Byddwch wedi derbyn llythyr yn gofyn ichi fynychu sesiwn gofrestru cynharach. Parhewch i ddarllen gweddill y wybodaeth ar y dudalen we hon os gwelwch yn dda.
Cymorth i Oroesi
Y mae'r ddogfen Cymorth i Oroesi yn cynnig pob math o wybodaeth ar wahanol agweddau o fywyd Prifysgol. Bydd copi caled yn cael ei roi ichi ar Ddiwrnod Cofrestru.
Cyllid Myfyrwyr
Am wybodaeth ar bob agwedd yn ymwneud â chyllid, o Daliadau Ffioedd Dysgu i Fwrsiau ac Ysgoloriaethau, gweler Cyllid Myfyrwyr.
Cyn gynted ag y byddwn wedi eich cofrestru yn llawn, bydd y Brifysgol yn hysbysu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a bydd taliad cyntaf eich benthyciad yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc. Y mae’r broses hon yn gallu cymryd o leiaf 4-5 diwrnod gwaith.
Datganiadau Myfyrwyr
Y mae'r Datganiad Cofrestru yn nodi ar ba delerau y mae'r Brifysgol yn eich derbyn ar raglen. Yn ystod Cofrestru, bydd angen ichi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall cynnwys y ddogfen a'ch bod yn cytuno i dderbyn yr amodau a'r telerau.
Bydd hefyd angen ichi gadarnhau eich bod yn derbyn telerau ac amodau'r Plagiarism Detection Service a ddefnyddir gan y Brifysgol.
Darllenwch y ddwy ddogfen o flaenllaw os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Feddygol
Y mae'n bwysig eich bod yn darllen y wybodaeth gyfredol a'r cyngor sydd ar gael i fyfyrwyr ynghylch y Ffliw Moch.
Cynllun Teithio
Dylai'r rheiny ohonoch sy'n dymuno dod â char eich hun i'r Brifysgol ddarllen y Cynllun Teithio. Y mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am y ffioedd parcio.
Y Ganolfan Chwaraeon a Ffitrwydd
Gall pob myfyriwr ddod yn aelod o'r Ganolfan Chwaraeon a Ffitrwydd sydd ar y campws. Y mae cynnig arbennig ar gael i fyfyrwyr sy'n ymuno cyn 31ain Hydref: Canolfan Ffitrwydd a Chwaraeon Cynnig.
Gwybodaeth i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU / HESA)
Bydd rhaid i'r Brifysgol anfon data amdanoch i'r Asiantaeth Addysg Uwch a fydd yn ei thro yn trosglwyddo'r data i gyrff eraill y mae angen y wybodaeth arnynt i gyflawni eu swyddogaethau statudol mewn perthynas â chyllido addysg uwch. Ceir manylion pellach ar HESA Hysbysiad Casglu Data Myfyrwyr.
Cwestiynau Cyson
Crynhowyd y Cwestiynau Cyson hyn er gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n dychwelyd.
Halliwell
Os byddwch yn dychwelyd i'r Brifysgol yn gynnar, ac os hoffech archebu Cinio Carferi yng Nghanolfan yr Halliwell i chi a'ch teulu ar Ddydd Sul, 19eg Medi 2010, cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Archebu Cinio Carferi erbyn 10fed Medi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Gofrestrfa.
Dysgu Cymraeg
Mae croeso i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dysgu neu wella eu Cymraeg gofrestru ar un o'n cyrsiau Cymraeg i Oedolion. Mae digon o ddewis ar gael ar bob lefel a does dim rhaid i fyfyrwyr llawn amser dalu. Gellir gweld manylion y cyrsiau a sut i gofrestru ar y linc isod.

