Myfyrwyr Oddi ar y Campws
Y mae'r wybodaeth yma ar gyfer myfyrwyr nad ydynt fel arfer yn astudio ar gampws Caerfyrddin na champws Llanbedr Pont Steffan. Bydd angen ichi ddarllen y dogfennau hyn cyn cofrestru:
Datganiadau Myfyrwyr
Y mae'r Datganiad Cofrestru yn nodi ar ba delerau y mae'r Brifysgol yn eich derbyn ar raglen. Yn ystod Cofrestru, bydd angen ichi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall cynnwys y ddogfen a'ch bod yn cytuno i dderbyn yr amodau a'r telerau.
Bydd hefyd angen ichi gadarnhau eich bod yn derbyn telerau ac amodau'r Gwasanaeth Canfod Llen Ladrad a ddefnyddir gan y Brifysgol.
Gwybodaeth i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU / HESA)
Bydd rhaid i'r Brifysgol anfon data amdanoch i'r Asiantaeth Addysg Uwch a fydd yn ei thro yn trosglwyddo'r data i gyrff eraill y mae angen y wybodaeth arnynt i gyflawni eu swyddogaethau statudol mewn perthynas â chyllido addysg uwch. Ceir manylion pellach ar HESA Hysbysiad Casglu Data Myfyrwyr.

