Cyflwyniad
Llunio'r dyfodol gyda'n gilydd
Cefndir
Mae’r Gyfadran Addysg a Hyfforddiant wedi mwy na dyblu yn ei maint yn ystod y degawd diwethaf gan ddatblygu i fod yn un o Gyfadrannau Addysg mwyaf llewyrchus Cymru yn nhermau nifer ei rhaglenni a’i myfyrwyr. Esblygodd o fod yn Gyfadran a ganolbwyntiai, yn fwy na heb, ar hyfforddiant ac addysg gychwynnol athrawon yn 1999 i fod yn Gyfadran sy’n darparu ystod o raglenni ar draws y sbectrwm addysg erbyn heddiw.
Mae’r Gyfadran yn gartref i bedair Ysgol academaidd sef:
- Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon
- Ysgol Plentyndod Cynnar
- Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol
- Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd
yn ogystal â’r Gyfadran Gysylltiol sy’n darparu modylau lefel prifysgol i fyfyrwyr 16-19 oed mewn ysgolion a cholegau o fewn y rhanbarth a thu hwnt.
Perthyn i’r Gyfadran dros 30 o raglenni academaidd sy’n amrywio o Dystysgrifau Addysg Uwch ar Lefel 4 i raddau uwch ar Lefel 7. Ceir rhaglenni ym meysydd Astudiaethau Addysg Gynradd, Addysg Blynyddoedd Cynnar, Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysiedig, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Seicoleg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, Polisi a Chynllunio Iaith, Cynhwysiant Cymdeithasol, Astudiaethau Cynhwysol, Rheoli Meithrinfeydd i enwi rhai yn unig.
Law yn llaw â’r rhaglenni gradd traddodiadol, darperir hefyd ystod o raglenni sy’n cynnig datblygiad proffesiynol i weithluoedd amrywiol sy’n gysylltiedig ag addysg yn ei ystyr ehangaf. Ymhlith y rhaglenni mwyaf poblogaidd y mae’r Dystysgrif Raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol, y Dystysgrif Addysg Uwch Ymarfer Cymraeg a Dwyieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar, Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Cynhwysol ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu, Gradd Sylfaen mewn Gwaith Aml-asiantaethol a chyfres o raddau MA gan gynnwys rhai ym meysydd Addysg, Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Astudiaethau Cynhwysol.
Mae’r Gyfadran Gysylltiol yn fenter unigryw lle gwelir y Brifysgol yn darparu addysg lefel brifysgol ar gyfer ieuenctid 16-19 oed sy’n astudio mewn ysgol neu goleg. Fe’i lansiwyd gan y Gweinidog Addysg yn y Senedd ym mis Mawrth 2009 ac ers hynny mae oddeutu 1200 o fyfyrwyr wedi dilyn modylau Lefel 4 naill ai ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin neu yn eu hysgolion. Wrth i’r Gyfadran Gysylltiol fynd o nerth i nerth, gwyddys fod dros 500 o fyfyrwyr ysgolion a cholegau ar draws De a Chanolbarth Cymru eisoes wedi cofrestru ar fodylau’r Gyfadran Gysylltiol yn ystod 2011/12.
Profiad y Myfyriwr
Mae’r Gyfadran yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir. Ceir yma fyfyrwyr lleol, myfyrwyr o rannau eraill o Gymru, myfyrwyr o wledydd eraill y Deyrnas Gyfunol nifer cynyddol o fyfyrwyr rhyngwladol, myfyrwyr sy’n dod yn syth o ysgol neu goleg addysg bellach, myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr sy’n astudio’n llawn amser, yn rhan amser a thrwy ddulliau dysgu hyblyg ar benwythnosau a chyda’r hwyr. Beth bynnag fo cefndir y myfyriwr/y fyfyrwraig, sicrhawn y caiff y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arno/arni.
O’r Diwrnod Cofrestru, trwy’r Wythnos Anwytho ac ymlaen trwy eu cyfnod astudio, bydd staff y Gyfadran yno i estyn cyngor ac anogaeth i bob myfyriwr. Mae Ysgolion y Gyfadran yn adnabod eu myfyrwyr yn dda a chânt ofal bugeiliol rhagorol trwy gydol eu cyfnod yn y Brifysgol.
Cyfoethogir profiad y myfyriwr yn fawr gan lu o weithgareddau academaidd a chymdeithasol eu hanian a drefnir gan yr Ysgolion. Gwahoddir darlithwyr gwadd adnabyddus i annerch myfyrwyr, trefnir teithiau addysgol dramor gan bob Ysgol tra trefnir hefyd gyfleon iddynt wirfoddoli yn nhref Caerfyrddin ac yn y cyffiniau.
Cyflogadwyedd
Yn greiddiol i bob un o’i rhaglenni academaidd y mae ymrwymiad llwyraf y Gyfadran i baratoi’r myfyriwr unigol ar gyfer byd gwaith ac, o’r herwydd, mae pob Ysgol yn rhoi cryn sylw i hyrwyddo sgiliau cyfathrebu myfyrwyr – ar lafar ac yn ysgrifenedig – law yn llaw â sgiliau allweddol eraill a fydd yn greiddiol i’w hymgais i ddod o hyd i waith wedi iddynt raddio.
Mae pob un o Ysgolion y Gyfadran hefyd wedi sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i brofi cyfnodau yn y gweithle fel rhan o’u hastudiaethau. Weithiau caiff myfyrwyr ymweld â lleoliad gwaith am ddiwrnod neu ddau ar y tro; dro arall cânt fanteisio ar gyfnodau o rai wythnosau yn y gweithle.
Nid yw’n syndod o gwbl, felly, i ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ddangos fod canran uchel iawn (dros 90%) o’i myfyrwyr yn gweithio o fewn chwe mis i raddio.
O Fedi 2012, bydd y Brifysgol yn cynnig Teitheb Sgiliau ar gyfer ei holl fyfyrwyr – cynllun a fydd gobeithio yn cryfhau ymhellach allu myfyrwyr i ddod o hyd i waith ar ôl graddio. Fel rhan o’r cynllun hwn, bydd cyfle i fyfyrwyr y Gyfadran astudio modylau wedi eu hachredu ar gynaliadwyedd, sgiliau chwaraeon, dysgu a gloywi’r Gymraeg, Tsieinieg ac arweinyddiaeth i enwi rhai yn unig.
Ansawdd y Rhaglenni
Dengys Adroddiadau Arholwyr Allanol yn flynyddol fod ansawdd darpariaeth academaidd y Gyfadran yn gyson uchel ac yn cymharu’n dda iawn â darpariaeth mewn sefydliadau cyffelyb. Mae sylwadau myfyrwyr mewn holiaduron diwedd rhaglen yn adrodd eu bônt yn hapus iawn ag ansawdd rhaglenni’r Gyfadran yn gyffredinol. Nododd 96.4% o raddedigion y Gyfadran yn 2010/11 eu bônt yn fodlon â’u darpariaeth tra cadarnhaodd 98.9% y byddai’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygwyd ar eu rhaglen yn ddefnyddiol iddynt yn y dyfodol. Yn yr un modd, roedd lefel boddhad myfyrwyr y Gyfadran yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn 2011 yn amrywio rhwng 89% a 92%.
Ymagwedd at Ddysgu ac Addysgu
Daw myfyrwyr ar draws amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu fel rhan o’u hastudiaethau o fewn y Gyfadran. Yn ogystal â darlithoedd traddodiadol, cânt gyfle i gyfrannu at seminarau, gweithdai ymarferol, sesiynau holi ac ateb yng nghwmni siaradwyr gwadd, gweithgareddau grŵp yn cynnwys dysgu yn seiliedig ar broblemau ac ymweliadau addysgol â mannau o ddiddordeb gan gynnwys lleoliadau gwaith.
Mae’r Gyfadran wedi buddsoddi’n helaeth mewn adnoddau technoleg gwybodaeth yn ystod y cyfnod diweddar a chaiff myfyrwyr a staff gyfleon rheolaidd i ddefnyddio’r rhain er mwyn cyfoethogi’r profiadau dysgu ac addysgu. Cyfoethogir profiad dysgu’r myfyrwyr hefyd gan argaeledd adnoddau dysgu electronaidd – gan gynnwys nifer sylweddol o e-lyfrau ac e-gylchgronau- tra bydd cyfle iddynt hefyd gyflwyno eu gwaith a derbyn adborth yn electronaidd.
Darpariaeth Gymraeg a Dwyieithog
Y Gyfadran yw prif ddarparydd rhaglenni cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ym maes addysg yn ôl nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r nifer o raglenni a addysgir yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Darperir dwy radd israddedig yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg sef BA Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysiedig a’r BA Addysg Blynyddoedd Cynnar tra bod nifer cynyddol o’i rhaglenni eraill ar gael i’w hastudio yn rhannol trwy’r Gymraeg e.e. BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned, BA Cynhwysiant Cymdeithasol a’r BA Astudiaethau Addysg Gynradd. Sicrheir bod Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith yn cael ei glustnodi ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg tra darperir hefyd fodylau gloywi iaith ar gyfer y rheini sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Mae gan y Gyfadran berthynas dda iawn â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a dyfarnwyd tair swydd o’r newydd ac un ysgoloriaeth PhD i’r Gyfadran yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Sicrhawyd tua £100,000 o nawdd o du’r Coleg hefyd i ddatblygu adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg yn rhai o’r meysydd y cyfeirir atynt uchod.
Mae’r Gyfadran hefyd yn gartref i Ganolfan Peniarth, sef uned gyhoeddi adnoddau addysgol y Brifysgol, ac eisoes, yn y cyfnod byr ers ei sefydlu, mae wedi llwyddo i ddenu prosiectau cenedlaethol gwerth £800,000. Mae Canolfan Peniarth yn cyflogi pump o staff llawn amser ar hyn o bryd ac mae cynlluniau cyffrous ar droed i ehangu’r fenter i feysydd newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Dangosodd y Gyfadran yn rheolaidd, yn ystod y tair blynedd ar ddeg ers ei sefydlu, y gall weithredu’n sydyn ac yn rhagweithiol gan ddarparu ystod cynyddol o gyfleoedd dysgu amrywiol ar gyfer ei myfyrwyr. Wrth i’r Brifysgol weithio tuag at uno â Phrifysgol Fetropoliotan Abertawe a Phrifysgol Cymru maes o law, diau y daw cyfleon o’r newydd i’r Gyfadran. Eisoes gwelwyd yr Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn gweithio’n agos ag Ysgol Addysg Abertawe ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe i greu Canolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru. Sefydlwyd hefyd bartneriaethau llwyddiannus gyda mudiadau a chyrff amrywiol ar draws Cymru a thrwy barhau i gydweithio’n agos â’r rhain ac ymroi’n egnïol i ddarparu ystod cynyddol o raglenni academaidd a phroffesiynol eu hanian, hyderir y gall y Gyfadran ymateb yn llwyddiannus i anghenion dysgwyr y rhanbarth a thu hwnt ar y naill law ac i bolisïau Llywodraeth Cymru yn y meysydd a gynigir ganddi ar y llaw arall.
Gwilym Dyfri Jones
Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01267) 676675
Ffacs: (01267) 676755
E-bost: g.d.jones@ydrindoddewisant.ac.uk


