Ehangu Mynediad yn Cryfhau
Cysylltiadau yn y Gymuned

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau i Addysg Uwch, boed yn rhai corfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol. Gweithiwn gydag ysgolion a’r gymuned yn ogystal â darparu cefnogaeth i’n myfyrwyr.

Cystadleuaeth Dylunio

Yn rhan o gysylltiadau cryf y Brifysgol â’r gymuned leol mae ystod gynyddol o bartneriaethau ehangu mynediad dynamig.

Mae’r Tîm Ehangu Mynediad yn arwain ar weithredu mesurau ar draws y Brifysgol i wella cyrhaeddiad ac i ddarparu cefnogaeth i ddisgyblion o ardaloedd lleol Cymunedau yn Gyntaf a grwpiau eraill heb draddodiad cryf o gymryd rhan mewn addysg uwch.

”Mae staff a myfyrwyr ar draws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cefnogaeth ac anogaeth i bobl o bob cefndir i gael addysg brifysgol.”

 

Eve Warburton
Swyddog Ehangu Mynediad