
Ymgyrraedd yn Ehangach yn Ne Orllewin Cymru
Gan anelu at ehangu mynediad i addysg uwch ar draws yr ystod oedran cyfan o fyfyrwyr, mae Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De-orllewin Cymru yn trefnu gweithgareddau dysgu a chodi dyheadau.
Mae'r fenter Ymgyrraedd yn Ehangach wedi'i ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae'r bartneriaeth yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Coleg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Castell-nedd Port-Talbot, Coleg Sir Benfro, Gyrfaoedd Gorllewin Cymru ac ysgolion yn Ne Orllewin Cymru. Mae'r prosiect yn anelu at ehangu cyfranogiad addysgol i grwpiau sydd wedi'u hallgáu yn flaenorol a grwpiau o bobl sydd heb fawr o gynrychiolaeth yn Ne Orllewin Cymru.
Mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar drefnu amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai ar gyfer bobl ag anabledd, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, dysgwyr cyfrwng Cymraeg a phobl sy'n byw mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Trystan Rees
Swyddog Cyswllt Ehangu Mynediad
Ffôn: +44 (0) 1267 676792
E-bost: t.rees@ydds.ac.uk






