Giriama yn Bore, Kenya

Yn 2008 sefydlodd cymuned Llambed a’r Giriama yn Bore, Kenya gysylltiad dwyochrog trwy garbon.

borekids

Ar sail tystiolaeth sy’n dweud bod coed yn adamsugno carbon yn haws ac yn fwy effeithiol ar y band cyhydeddol, ffurfiwyd cwmni dielw i greu perthynas trwy brosiectau plannu coed noddedig.

Ariennir y prosiect CCL yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan y Cynllun Cymunedau Seren Aur ac fe’i defnyddir i dreialu’r fenter Maint Cymru a gefnogir gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, ac mae’n dal i ddosbarthu coed cnau cashiw i’r ffermwyr lleol: dros 10,000 ohonynt hyd yn hyn. Amsugna’r coed garbon wrth iddynt dyfu, gan lanhau'r amgylchedd, ond mae'r cnwd hefyd yn dod ag arian i'r ffermwyr sy'n atal y datgoedwigo a achoswyd yn flaenorol gan losgi golosg. Mae ailgoedwigo hefyd yn annog bioamrywiaeth ac yn llesol i’r tabl dŵr lleol.

Mae perthynas y Drindod Dewi Sant â’r prosiect hwn yn un ryngadrannol a rhyngddisgyblaethol. Mae anthropolegwyr wrthi’n astudio’r canlyniadau a’r rhesymwaith ar gyfer y ddwy gymuned sy’n cymryd rhan; cymerodd rhai o staff a myfyrwyr yr adran Ffilm a’r Cyfryngau ran trwy wneud ffilmiau o ddigwyddiadau o dan brosiect gwirfoddol, sef The Great Primate Handshake, a bu’r adran Ehangu Mynediad yn helpu i gysylltu ysgolion lleol â’r ysgol gynradd yn Bore.

Cyswllt:

Luci Attala
l.attala@ydds.ac.uk 01570 424941