Prosiect Eliffant Tregaron
Myth, stori a chwedl
Yn ddiweddar cafodd y gwaith cloddio yng ngardd gefn tafarn yn Nhregaron yn y Canolbarth sylw'r wasg ryngwladol, pan benderfynodd Dr Jemma Bezant a’r myfyriwr Olwyn Pritchard ymchwilio i Fyth Eliffant Tregaron.
Cynhaliodd gwirfoddolwyr o’r gymuned a’r Brifysgol waith cloddio i wirio’r si am fedd eliffant yng ngardd gefn Gwesty’r Talbot, yn ystod Pasg 2011. Yn ystod haf 1848 daeth milodfa deithiol Batty i Dregaron fel rhan o’i chyfres dymhorol o ymweliadau â threfi yng Nghymru. Aeth eliffant yn sâl a thrigo ac yn ôl y sôn, fe’i claddwyd yng ngardd gefn y Talbot, (y dafarn hanesyddol ar gyfer coetsis sy'n wynebu'r prif sgwâr yn y dref). Pa un ai gwir ai gau'r hanes, mae eliffant Tregaron wedi ennill ei blwyf yn y chwedloniaeth leol nes i'r eliffant droi’n ffigwr fytholegol, a bron â mynd yn rhyw fath o fasgot.

Seilir cysylltiadau hirdymor â chymunedau yn yr ardal ar brosiect ymchwil yr Ysgol sy'n ystyried hanes canoloesol Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yn benodol, ond hefyd mae ardal ehangach y Canolbarth hefyd o ddiddordeb i ymchwilwyr sy’n awyddus i osod y rhanbarth mewn cyd-destun Cenedlaethol a Rhyngwladol gan ystyried hanes, amaethyddiaeth a defnydd o’r tir a chymuned maes o law. Mae Prosiect yr Eliffant wedi ennyn diddordeb pobl leol oherwydd y straeon sy’n gysylltiedig â digwyddiad yr ‘eliffant’ ac mae wedi dod ag ychydig o’r dystiolaeth at ei gilydd.
“Cymuned Tregaron sydd biau’r stori hon a bydd y prosiect yn cynnwys pobl leol a fydd yn casglu tystiolaeth a hanesion lleol yn ogystal â rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar waith cloddio archeolegol peilot. Nod y prosiect yw casglu’r hanesion a’r straeon sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn, ennyn diddordeb y gymuned mewn gweithgareddau archeolegol a chreu cynnwys i wefan y gymuned"
“Diben y prosiect hwn yw dathlu stori Eliffant Tregaron yn hytrach na 'dod o hyd i'r gwirionedd’. Mae’n debygol y byddwn yn creu mwy o gwestiynau nag o atebion ac y bydd y prosiect hwn yn cyfrannu i hanes cyfoethog yr ardal ar ei ben ei hun. Y nod yn bennaf yw annog y gymuned leol i fod yn rhan o'r gwaith o greu ac adrodd ei straeon a'i hanesion ei hun”, meddai Dr Bezant wrth roi’i chasgliadau.
Amhendant o hyd yw’r casgliadau ar ôl y gwaith cloddio hyd yn hyn ac mae’r ymchwilio’n parhau. Yn y cyfamser, mae’r ymchwil i deithi penodol y straeon a adroddir yn y gymuned wledig hon yn ystyried y posibilrwydd i'r dirwedd gael dylanwad ar y mathau o fyth sy'n frith yn ucheldir y Cambria.
Cyswllt:
Dr Jemma Bezant
01570424737, j.bezant@ydds.ac.uk

