Pam Astudio yn Ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg?
1. Traddodiad
Mae i’r Brifysgol draddodiad hir ac anrhydeddus iawn; yn ogystal â bod yn drydedd Brifysgol hynaf Prydain, mae gwreiddiau’r Drindod Dewi Sant yn ddwfn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
2. Arbenigedd
Mae pob aelod o’r staff yn arbenigwyr yn eu meysydd ymchwil ac fe'i cefnogir gan amgylchedd ymchwil rhyngwladol bywiog. Barnwyd bod 50% o ymchwil yr Ysgol o ansawdd rhyngwladol yn ystod yr Asesiad diweddaf o Ragoriaeth Ymchwil, ac roedd 15% ohono o Safon Fyd-eang sy’n gosod yr ysgol gyda’r gorau o ran ymchwil.
3. Cysylltiad uniongyrchol â’ch darlithwyr
Caiff pob myfyriwr gysylltiad uniongyrchol â darlithwyr y tu allan i oriau darlithio arferol.
4. Rydym yn adnabod ein myfyrwyr
Am fod y campws yn un bach a chartrefol mae’n hawdd i ni ddod i adnabod ein myfyrwyr, felly does dim perygl i chi gael eich colli yn y dorf.
5. Amgylchedd cyfeillgar
Mae’r myfyrwyr yn asio’n gyflym ac yn cael ymdeimlad o gymuned.
6. Diogelwch
Mae campysau’r Drindod Dewi Sant mewn ardaloedd gwledig lle mae’r cyfraddau troseddu gyda’r isaf ym Mhrydain, ffaith sy’n cynnig diogelwch a thawelwch meddwl.
7. Cyfleusterau
O’r flwyddyn gyntaf ymlaen caiff pob myfyriwr fwynhau ymweld â’r maes a mynd ar deithiau maes i wahanol leoliadau. Cynigir gweithdai ymarferol a rhai sydd mewn gweithdy. Mae’r llawysgrifau prin a gedwir yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gael i bob myfyriwr. Darperir gwasanaeth bws yn rhad ac am ddim i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth bob wythnos.
8. Lleoliad
Mae campysau Llambed a Chaerfyrddin dafliad carreg o ardaloedd cerdded a heicio, golygfeydd ucheldir anghysbell ac arfordir gorllewin Cymru a'i draethau godidog.
9. Cost
Mantais i’r Brifysgol yw nad oes ganddi’r costau uchel sy’n gysylltiedig â bywyd ar gampysau dinesig.
10. Mwynhad
Efallai fod astudio’n waith difrifol, ond yn y Drindod Dewi Sant rydym am i chi fwynhau eich gradd a gwneud yn fawr o'ch amser yma. Pa un ai trwy ymuno â’r Gymdeithas Ailberfformio Hanesyddol, bod yn rhan o ddigwyddiadau a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr neu ymuno â ni ar un o'n teithiau tramor.
11. Yn Olaf
Rhydym yn ymwybodol yn barhaus fod rhaid i ni eich paratoi chi ar gyfer y dyfodol, o ran cyflogadwyedd neu astudio yn y dyfodol. Fel y dywedwyd ddeng pwynt yn gynharach, rydym yn adnabod ein myfyrwyr ac rydym yn fwy na pharod i sôn wrth eich darpar gyflogwyr am y sgiliau niferus yr ydych wedi eu hogi ar bapur, yn y maes ac ar lafar.

