Ymchwil Ôl-raddedig

Mae'r diwylliant ymchwil ôl-raddedig yn ysgol Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg yn un iach dros ben ac mae'r Ysgol yn croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr ar ystod o bynciau (gweler tudalennau unigol y Staff am fanylion cyswllt).

Mae cefnogaeth ar gael yn ganolog trwy’r Ganolfan Ymchwil Ôl-raddedig ond bydd eich cysylltiad yn bennaf â staff academaidd yn yr Ysgol lle cewch eich rhoi yng ngofal tîm goruchwylio. Efallai mai eich Cyfarwyddwr Astudiaethau fydd eich prif gyswllt a hwn/hon fydd yr aelod o’r staff y bydd ei ddiddordebau/diddordebau ymchwil yn cyd-fynd orau â'ch maes ymchwil chithau. Yn ychwanegol at y Cyfarwyddwr bydd dau oruchwyliwr pellach o blith y staff a fydd yn gweithredu’n gynghorwyr.

Cynhelir cyfres reolaidd o seminarau i gadarnhau’r amgylchedd ymchwil a thrwyddi ceir amcan o amrywiaeth yr arbenigedd a’r diwylliant ymchwil yn yr Ysgol. Anogir Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig i ddod i’r sesiynau hyn fel rhan o’u hyfforddiant ac yn aml dônt yn rhan o’r pwyllgorau trefnu ar gyfer y cynadleddau a’r gweithdai a gynhelir yn y Brifysgol.

O ran y cyfleusterau yn yr Ysgol ceir Ystafell Ymchwil Myfyrwyr Ôl-raddedig sydd â chyfleusterau cyfrifiadura ynghyd â chyswllt di-wifrai. Ceir rhagor o adnoddau cyfrifiadurol yn Labordy Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) yr Ysgol, yn enwedig i’r myfyrwyr hynny y mae gofyn iddynt greu mapiau digidol. Trwy’r Labordai Archaeoleg Palaeoamgylcheddol cefnogir gwaith contract, ymchwil, ac addysgu yn yr Ysgol ac mae gennym offer maes ac offer archwilio o’r radd flaenaf. Yn Llyfrgell Roderic Bowen ceir trysor o lawysgrifau ac archifau i haneswyr a darperir adnoddau electronig i’w defnyddio o bell, yn ogystal â Chanolfan Adnoddau Dysgu’r Brifysgol.

Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig Cyfredol

Pauline Bambrey Ritualised performance: creating/establishing 'membership/'belonging to The Beltane Fire Society

Nod y prosiect ymchwil doethuriaeth hwn yw ymchwilio i'r syniad mai trwy gyfrwng cymryd rhan mewn perfformiad o ddefod gyhoeddus crëir ymdeimlad o berthyn i gymuned a/neu o aelodaeth ohoni. Yn yr achos hwn, y gymuned dan sylw yw’r Beltane Fire Society yng Nghaeredin. Wedyn ystyrir a oes gan wyliau/perfformiadau defodol ran bwysig i'w chwarae yn y byd sydd ohoni.

Lynn Morgan A social topography of the commote of Caerwedros in Ceredigion within its regional context 1400-1600

Yn yr ymchwil hwn ceisir diffinio tirwedd hanesyddol-ddaearyddol de-orllewin Ceredigion yn yr 16eg ganrif trwy ddefnyddio dulliau dadansoddi retroactif, gan gyfeirio at dopograffeg gymdeithasol yr ardal. Cymharir aneddiadau eglwysig a secwlar, ac ymchwilir i’r ffactorau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a oedd yn rheoli deinameg diwylliant Cymru. Bydd yr ymchwil yn cyfrannu i’r gwaith o astudio dylanwadau’r cymunedau ffermio ar y dirwedd ddiwylliannol mewn rhannau o Geredigion yn ystod yr oesoedd canol a’r cyfnod wedi hynny.

Will Rathouse Contested Heritage: Examining interactions and relations between archaeologists and heritage professionals and contemporary Pagans.