Chwarae Chwaer

Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi

Mae'r Ysgol hon yn rhoi cyfle i blant a phobol ifanc rhwng 7 a 18 oed yn ardal Caerfyrddin a thu hwnt i ddatblygu eu sgiliau perfformio- actio,canu, dawnsio - a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydlwyd Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi o dan adain Ysgol y Celfyddydau Perfformio, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y flwyddyn 2001 ac ers hynny fe dyfodd o ran nifer. Mae hi'n Ysgol sy'n rhoi cyfle i bob unigolyn, yn meithrin hyder, yn datblygu sgiliau cyfathrebu, yn cynnig hwyl wrth gydweithio ond yn mynnu safon o radd uchel.

Mae'r Ysgol yn cwrdd yn wythnosol yn Y Stiwdio, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin.

Bob nos Fercher rhwng 6 ac 8 o'r gloch.
Rydym yn croesawu unrhyw un rhwng 7 a 18 oed sy'n mwynhau perfformio.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Delyth Mai Nicholas (Cyfarwyddwr):

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,
Ffordd y Coleg,
Caerfyrddin
SA31 3EP

e bost d.nicholas@ydds.ac.uk | Rhif ffôn 01267 676682

 

Llwyddiannau a Gweithgareddau | Cyn Aelodau | Asiantaeth | Sioeau