Cyn Aelodau

hannahopwood

Hanna Hopwood

Aelod o sioeau'r Ysgol Berfformio - "Amranwen", "Jac Tŷ Isha", chwaraeodd ran Nansi yn "Olifar" a Maria yn "Sŵn y Gân".

Yng nghystadleuaeth cyflwyno Drama yn Eisteddfod yr Urdd 2004 enillodd y tlws i'r Prif Actor gorau- Siôn Ifan a hithau yn dod yn ail yng nghystadleuaeth y ddrama yn yr un Eisteddfod ac yn derbyn yr ail wobr yng nhgystadleuaeth y ddeialog yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Aelod o LLAIS. Yn 2009 roedd yn un o'r ymgeiswyr yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

"Drwy fynychu Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi enillais brofiad gwych gan fagu hyder ar lwyfan ac yn fwy na dim gwnes ffrindiau a fydd yn ffrindiau i mi am byth". Bellach mae’n  cyflwyno “Y Lle” (S4C).

 

elenmorgan

Elen Morgan

Aelod o sioeau'r Ysgol Berfformio - "Jac Tŷ Isha", "Olifar", "Sŵn y Gân" a chwaraeodd Deloris yn "Chwarae Chwaer".

Tra'n aelod o'r Ysgol Berfformio, yn dilyn clyweliad derbyniodd ran Lydia yn yr Opera Sebon "Pobol y Cwm" a bu'n rhan o'r cast rhwng 2004 a 2007.Aelod o LLAIS. Astudiodd Theatr yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin.

"Dysgais lawer o fod yn aelod o Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi- dysgais sgiliau perfformio, llwyfan a theledu-rhoddodd hyder i mi a gwnes ffrindiau am oes"

“Astudiodd Theatr ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Enillodd gystadleuaeth Llew yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011 ac o ganlyniad roedd yn un o’r cystadleuwyr yng Nghystadleuaeth Bryn Terfel. Bellach mae’n aelod o gast “Rownd a Rownd”.

  

sionifan

Siôn Ifan 

Bu'n rhan o sioeau'r Ysgol Berfformio - "Amranwen", chwaraeodd Foster yn "Jac Tŷ Isha", Fagin yn "Olifar", Von Trapp yn "Sŵn y Gân". Aelod o'r ddrama ddaeth yn ail yng ngystadleuaeth ddrama'r Urdd 2004 a'r ddeialog ddaeth yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.

Enillodd wobr Richard Burton 2008, "Martin" Con Passionate (Teledu Apollo S4C),Sgript Slam (Theatr y Sherman,Caerdydd), gwaith trosleisio ar gyfer cartŵn "Cwpwrdd Cadi" (Atsain S4C),rhan Norman Price yn ffilm Nadolig 2009, Tŷ Cyw (Boomerang S4C),teithio gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, "Defi" yn Pentalar (Fiction Factory, S4C 2010)

Rhan Danny yn “Zanzibar” (Rondo/S4C)

“Deffro’r Gwanwyn” (Theatr Genedlaethol Cymru)

Astudiodd Gwrs Ȏl-Radd yn y Coleg Cerdd a Drama(Caerdydd) mewn Actio ar gyfer Sgrîn, Llwyfan a Radio. Yn aelod o dîm Carleton Hobbs (Cystadleuaeth BBC Radio Drama yn Llundain. Rhan Burleigh yn “Mary Stuart” (Chapter Caerdydd). Rhan Wolfgang yn “The Stone” (Coleg Cerdd a Drama).

 

dafyddllyr

Dafydd Llŷr

Bu'n aelod o sioeau'r Ysgol Berfformio - "Jac Tŷ Isha", Mr Brownlow yn "Olifar", Admiral Von Schreiber yn "Sŵn y Gân".

Aelod o gast y ddrama "Hist! Ma'r Babi'n Cysgu". Aelod o LLAIS, aelod o Gwmni Theatr Ieuenctid Sir Gâr (Exit Allan), aelod o Gwmni Dawns Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Cwmni Theatr Ieuenctid Ewrop a chynhyrchiad promenâd "CRASH" (Firenza Guidi), "Dafs" yn 2 Dy a Ni".

 

 

 

 

 

carwynglyn

Carwyn Glyn

Bu’n aelod o berfformiadau’r Ysgol Berfformio - Y Tad yn “Amranwen”, aelod o gast “Mae ‘na ddyn yn y Goeden ‘na” a enillodd y wobr 1af yng Nghystadleuaeth cyflwyno Drama yng Nghaerdydd 2002. Enillodd y tlws i’r actor gorau yn y gystadleuaeth.

Gadawodd yr ysgol yn 2004 gan fynd i astudio theatr yng Ngholeg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin, ennill y Cyflwyniad Theatrig Unigol yn Eisteddfod Caerdydd 2005, cystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel yr un flwyddyn, aelod o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru am dair blynedd, wedi graddio yn y Drindod mynd i astudio Drama yng Ngholeg Mountview yn Llundain, yn parhau i weithio fel actor proffesiynol.

“Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgol Berfformio am gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i gwricwlwm yr ysgol bob dydd”

“Alys”(Teledu Apollo), “Pobol y Cwm” (BBC Cymru), “Myrddin”(Cwmni Mega), “Zanzibar” (Rondo Media), “Salsa” (Theatr Na-n’Ȏg), “Popi’r Gath” (Atsain), “Indian Doctor”(BBC)

leahlewis

Leah Lewis

Profiadau yn cynnwys: 'Dan y Wenallt', yn chwarae rhan Mrs Dai Bara Brown; 'Jac Tŷ Isha', yn chwarae rhan Hannah, cariad Jac; Gŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, aelod o'r Côr Cerdd Dant; aelod o gast 'Garddwest Gosforth', Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004.

Ers gadael Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi:

  • 2005 - 2008 BA Drama: Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd.Actor/ Cerddor.-
  • Aelod o Theatr Ieuenctid Cymru 2006- 'An Informer's Duty' gan Greg Cullen.
  • Arweinydd Prosiect - Dysgu Drama i blant dan anfantais yng Ngweriniaeth y Dominican, Haf 2007.
  • Actor (Long John Silver) - Cynhyrchiad Cwmni Theatr 'Classic for Kids' o 'Treasure Island'. Haf 2008.
  • Gwobr am y perfformiad gorau o'r Adran Ddrama, Prifysgol Caerwysg.

2010:

  • MA Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain.
  • Wedi sefydlu Cwmni Theatr 'Change/Motion' yn Llundain gyda ffrindiau coleg.
  • Aelod o Aelwyd Llundain
  • Gweithio fel actor i Gwmni Theatr 'Write by Numbers' - www.writebynumbers.co.uk

gethinlewis

Gethin Lewis

Bu’n rhan o holl weithgareddau’r Ysgol Berfformio gan chwarae rhannau blaenllaw yn y sioeau - Noa yn “Olifar”, Franz yn “Sŵn y Gân”, Warbucks yn “Annie”.

“Mae’r daith o chwe mlynedd gyda’r Ysgol Berfformio wedi bod yn werthfawr. Cefais lu o brofiadau gan gynnwys perfformio mewn sioeau cerdd blynyddol,cyflwyniadau a chyngherddau. O gyfarfod yn wythnosol, cynigiodd yr Ysgol barhâd yn y dysgu rhwng yr amrywiol brosiectau-o sgiliau actio i ganu a symud.Roedd y cyfle i gyd-weithio â chyfarwyddwyr profiadol yn ogystal â phobol ifanc â diddordebau tebyg yn rhoi cryn dipyn o fwynhâd i mi ac yn sicr mae wedi fy nylanwadu wrth benderfynu beth fydd y cam nesaf. Bydd y cyfan a ddysgais yn siwr o fod o gymorth wrth barhau â’m haddysg yn y Guildhall School of Music and Drama, Llundain, yn astudio’r llais”

Gareth Davies Gareth Davies

Aelod o sioeau'r Ysgol Berfformio -"Dewin yr Os";chwaraeodd y brif ran sef "Corey'r hynaf "yn "Nôl i'r 80au".

Ers gadael yr Ysgol Berfformio mae Gareth wedi chwarae rhannau blaenllaw mewn sioeau cerd megis "Pearce"yn "Half a Sixpence ac "Anthony" yn "Sweeney Todd" ac wedi rhannu llwyfan gyda John Owen Jones,Aled Pedrick a Sian Cothi. Roedd yn un o'r pedwar bachgen a enillodd yr Ensemble Lleisiol yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011.Bellach mae'n gwneud ei radd yn Y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

"Mae'r Ysgol Berfformio yn sicr wedi rhoi cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau perfformio a rhoi hyder i mi wrth gamu ar lwyfan. Nid yn unig cefais y cyfle i berfformio yn y Gymraeg,ond cefais gwrdd â phobl ifanc, talentog yr un oed â mi a oedd yn rhannu'r un diddordebau. Roedd fy amser yno yn ardderchog a gobeithiaf y bydd y profiadau a gefais yn rhoi sylfaen gadarn i mi ar gyfer fy nyfodol yn y diwydiant".