Llwyddiannau a Gweithgareddau

2001

Cystadleuaeth Ddrama Eisteddfod yr Urdd Caerdydd - 1af ac 2ail. Carwyn Glyn yn ennill y tlws i’r actor gorau.

2003

Gŵyl Gerdd Dant Aberystwyth -1af am Barti Llefaru, 3ydd am Barti Gwerin.

2004

Cystadleuaeth Ddrama Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn -1af ac 2ail. Hanna Hopwood yn ennill y tlws i’r actores orau.

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn – 2ail am Gôr Adran dan 15.

Cyflwyno'r rhaglen “Yn Gymaint ag y Gwnaethoch” – Llanbedr pont steffan Medi 2004

2005

Gwobr Grantiau Cymunedol Sir Gaerfyrddin - cipiodd yr Ysgol y wobr gyntaf yng nghategori “Prosiectau Ieuenctid gorau” mewn noson wobrwyo y cynhyrchiad “Jac Tŷ Isha”

Eisteddfod yr Urdd – Robert Thomas a Miriam Hopwood 2ail yng nghystadleuaeth y ddeialog.

2006

Eisteddfod yr Urdd Dinbych – 2ail am gyflwyniad allan o sioe gerdd.

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe – Robert Thomas ac Iwan Williams yn cyrraedd rownd derfynol y Gystadleuaeth Ddrama.

2007

Cyflwyno Neges Ewyllys Da ,Eisteddfod Yr Urdd Caerfyrddin

Noson o adloniant yn y Stiwdio, Prifysgol y Drindod Dewi Sant

2008

Cymryd rhan yn Lansiad Prifysgol Plant yn Aberteifi

Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch – Robert Thomas ac Iwan Williams 1af yng nghystadleuaeth y ddeialog agored.

2009

Noson o adloniant yn y Stiwdio, Prifysgol y Drindod Dewi Sant

2010

Côr yr Ysgol yn ymddangos ar “Noson Lawen” (S4C)

2011

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Abertawe - 3ydd yn y gystadleuaeth Chwarter awr adloniant

Noson o adloniant yn y Stiwdio, Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam - Sian Elin Williams 1af ar y Fonolog 12-16

Gŵyl Gerdd Dant Cwm Gwendraeth – 2il Parti Llefaru dan 12

Bu Siwan Dafydd yn cymryd rhan ar “Noson Lawen” (S4C) fel comediwraig.

Yn dilyn clyweliad derbyniodd Steffan Cennydd a Curon Howells rannau yn yr operau Sebon “Pobol” y Cwm” , derbyniodd Llewelyn Hopwood ran yn y ffilm “Ryan a Ronnie” (S4C), ac ymddangosodd Siwan Dafydd a Carys Neal ar “Salon” (S4C)