Yn cynnwys

Rheolaeth a Thechnoleg Gwybodaeth
Cyfrifiadura, Busnes a Thwristiaeth, Dysgu Seiliedig ar Waith

Rydym yn adran gyfeillgar a blaengar gydag addysgu bywiog, ymrwymiad parhaus â busnesau a diddordebau ymchwil amrywiol.

Myfyrwyr 

Mae ein rhaglenni’n cynnwys graddau israddedig mewn Rheolaeth, TG, Cyfrifiadura a Twristiaeth. Mae gennym raglenni ôl-raddedig a addysgir sy'n cynnwys rhaglen MBA poblogaidd gydag amrywiaeth o 9 llwybrau arbenigol fel Marchnata, Rheoli Adnoddau Dynol, Rheoli Gwybodaeth, Arweinyddiaeth, a Thwristiaeth ymhlith pynciau eraill.

Mae’n rhaglenni ymchwil poblogaidd ar gyfer MPhil a PhD yn cynnwys pynciau megis BBaChau ac entrepreneuriaeth, perfformiad busnes (yn cynnwys sectorau arbenigol megis iechyd a thwristiaeth), strategaeth busnes a chystadleurwydd rhanbarthol a hyrwyddo TGCh i fyfyrwyr benywaidd.

Mae’r Ysgol yn gweithredu ar hyn o bryd ar gampws Llambed a Chaerfyrddin, ac ar y ddau safle mae’n cael ei graddio’n uchel yn gyson gan arolygon blaenllaw o addysg uwch ac yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Mae’r pwyslais bob amser ar gymhwyso sgiliau a gwybodaeth yn ymarferol, ac mae gan fyfyrwyr ar ein rhaglenni hanes ardderchog o ddod o hyd i swyddi unwaith eu bod wedi graddio.

Fe anogir myfyrwyr i fanteisio ar gynlluniau lleoliad gwaith amrywiol ac mae cyfleodd i astudio dramor hefyd ar gael.

Gobeithio y bydd y wefan hon yn ateb llawer o’ch cwestiynau ond cofiwch gysylltu â ni os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch.

Pennaeth yr Ysgol

Conny Matera-Rogers
Ffôn: 01570 424952
E-bost: c.matera-rogers@ydrindoddewisant.ac.uk