Cyfleusterau

Canolfan Chwaraeon Mae gan yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon sy'n addas i gynnwys y cyrsiau. Mae'r rhain yn cynnwys: 2 gampfa llawn offer; pwll nofio dan do; maes chwarae bob-tywydd gyda llifoleuadau; cyrtiau tennis; amlgampfa a meysydd chwarae helaeth. Mae'r Brifysgol wedi rhoi blaenoriaeth i adeiladu Neuadd Chwaraeon newydd a Chanolfan Tennis a Chriced Dan Do fel rhan o gynllun parhaus ar gyfer datblygu cyfleusterau.

Snowdon Mae gan y Ganolfan Weithgareddau Awyr Agored yng Nghaeau Ystrad amrywiaeth cynhwysfawr o offer awyr agored ar gyfer y gweithgareddau canlynol: Mynydda, Dringo Creigiau, Caiacio, Ogofa a Gwersylla. Mae cyfleusterau ar brif gampws y Brifysgol ar gyfer Cyfeiriannu, Dringo/Caiacio Dan Do a Deifio Sgwba. Yn ychwanegol at hyn, mae lleoliad gwledig Coleg Prifysgol y Drindod gyda Pharciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfdordir Penfro gerllaw, yn ei wneud yn lle delfrydol ar gyfer manteisio i'r eithaf ar y cyfle ardderchog sydd yma i ddilyn gweithgareddau hamdden awyr agored.

Myfyrwyr Mae'r Clwb Gweithgareddau Awyr Agored wedi hen ymsefydlu ac yn trefnu teithiau cerdded, dringo a gwersylla ac ati yn rheolaidd. Mae'r clwb yn cael cefnogaeth gyson gan yr Ysgol.