Gwasanaethau Ymgynghorol a Chyrsiau Byr

Skiing Gall yr Ysgol ddarparu ystod gynhwysfawr o gymorth addysgol a thechnegol yn ymwneud ag addysg awyr agored a gweithgareddau antur yn cynnwys:

  • Cymorth ar lefel LlCC ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur (GAAA)
  • Cymorth addysgol i asiantaethau allanol
  • Cymorth academaidd i asiantaethau allanol
  • Cymorth technegol ar gyfer gweithgareddau awyr agored
  • Hyfforddiant ac asesiadau yn y maes ar gyfer staff sy’n cyflwyno GAAA
  • Hyfforddiant Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB) ar draws yr holl GAAA
  • Cymorth gweinyddol a thechnegol Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALS)
  • Monitro ac arolygu GAAA yn y maes

Mae’r staff sy’n darparu datblygiad academaidd a galwedigaethol yn cyflwyno cyrsiau ar y lefel uchaf. Maent yn weithwyr proffesiynol yng ngwir ystyr y gair ac yn mwynhau hwyluso a chefnogi datblygiad addysgol yn yr awyr agored.