Gwaith Ieuenctid

Mae Gwaith Ieuenctid yn alwedigaeth sydd â’r nod canolog o gynorthwyo pobl ifainc. Mae’n ymwneud â darparu cyfleoedd a gweithgareddau i helpu pobl ifainc i adeiladu ar eu doniau a’u galluoedd, ac i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol. Mae Gwaith Ieuenctid:
-
yn cynorthwyo pobl ifainc wrth iddynt drosglwyddo o ddibyniaeth i gyd-ddibyniaeth;
-
yn hybu eu datblygiad personol a chymdeithasol trwy broses addysg di-ffurfiol yn bennaf ac mae’n ceisio eu denu i addysg gydol oes;
-
yn eu galluogi i gael llais a dylanwad yn y gwasanaethau a ddarperir ar eu cyfer
-
yn wasanaeth cyffredinol sydd yn agored i bob person ifanc; ac
-
yn hybu cyfle cyfartal.
Mae gan Waith Ieuenctid ei egwyddorion a’i werthoedd ei hun, ac mae'n ymwneud ag addysg a chyfleoedd dysgu ffurfiol, anffurfiol a di-ffurfiol i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r berthynas sydd gan bobl ifainc gyda’u Gweithiwr Ieuenctid yn eithafunigryw gan ei fod yn seiliedig ar yr egwyddor o bresenoldeb gwirfoddol. O ganlyniad mae’n wahanol iawn i’r berthynas fyddai ganddynt er enghraifft gydag athro, gweithiwr cymdeithasol neu hyd yn oed riant.
Os ydych yn gweithio ym maes Gwaith Ieuenctid, yn fyfyriwr ar gwrs Gwaith Ieuenctid neu’n rhywun sydd â diddordeb mewn ymuno â’r maes, bydd y wefan hon o ddiddordeb i chi. Nid yn unig y mae’n cynnwys erthyglau a gwybodaeth ddefnyddiol, mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich arfer da a chyfrannu at y safle.

