Fy Ngwaith Ieuenctid i
Darllenwch amrywiaeth o astudiaethau achos sy’n amlygu’r ffyrdd niferus y mae pobl wedi cael swydd ym maes Gwaith Ieuenctid. Os hoffech i ni gynnwys astudiaeth achos o’ch stori Gwaith Ieuenctid chi, cysylltwch â gwaithieuenctid@ydrindoddewisant.ac.uk
Astudiaeth Achos 1
Matthew
Mae Matthew, 25 oed, newydd fynd yn gymwysedig fel Gweithiwr Ieuenctid, wedi cwblhau ei Ddiploma Addysg Uwch mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned wrth astudio tuag at gael Gradd. Mae e’n Weithiwr Ieuenctid Estyn Allan Symudol gyda Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol, ac mae ef wedi bod yn y swydd hon ers bron iawn 5 mlynedd.
“Gorffennais yr ysgol heb lawer o gymwysterau ac wedi cael cyngor gwael am fy ngyrfa. Wedyn treuliais 2 flynedd yn y coleg yn astudio cadwraeth amgylcheddol, ac er fy mod yn ansicr ynglŷn â pha beth i’w wneud o ran fy ngyrfa, dechreuais astudio ar gyfer gradd mewn cadwraeth amgylcheddol. Sylweddolais yn gyflym nad oedd hyn yn iawn imi. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn yn chwarae mewn bandiau, yn recordio ac yn teithio. Roedd fy mam yn Weithiwr Ieuenctid, a daeth cyn-gydweithiwr iddi hi ataf, a gofyn imi helpu gyda gweithdai cerddorol mewn Project Ieuenctid lleol. Dyma le dechreuodd fy niddordeb mewn Gwaith Ieuenctid. O gyflwyno’r gweithdai hyn cymerais fwy o ran mewn gweithio gyda phobl ifanc, a chwblheais fy Nhystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid. Roedd meddu ar y cymhwyster hwn wedi agor mwy o ddrysau imi, a dechreuais redeg clybiau ieuenctid lleol gyda’r nos; a phan ddaeth swydd barhaol ar gael ar gyfer Gweithiwr Ieuenctid Estyn Allan Symudol gwnes gais am y swydd a’i chael! Rwyf wedi bod yn y swydd hon nawr ers bron iawn 5 mlynedd. Roeddwn hefyd yn ffodus i gael y cyfle i astudio yn fy Ngholeg AB lleol ar sail diwrnod astudio, ac yn ddiweddar cwblheais y Diploma mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned, sydd wedi fy ngalluogi i fod yn gymwysedig yn broffesiynol. Fy mhrif nod mewn Gwaith Ieuenctid yw arbenigo mewn gweithio gyda phobl ifanc ag anghenion dysgu penodol.”
Astudiaeth Achos 2
Tom
Mae Tom, 30 oed, newydd raddio â gradd BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned. Mae ef wedi cael ei gyflogi gan Wasanaeth Ieuenctid yr Awdurdod Lleol ers wyth mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae ef wedi ymgymryd ag amryw o rolau gan gynnwys Gweithiwr Ieuenctid Estyn Allan Ôl-16 a Swyddog Datblygu Ieuenctid. Ar hyn o bryd mae e’n cymryd cyfrifoldeb am broject penodol, a hefyd yn rheoli rhaglen cwricwlwm amgen i bobl ifanc a thîm o 6 Gweithiwr Ieuenctid.
“Gadewais y Coleg ym 1997 i ddechrau cynllun rheoli i raddedigion gyda McDonalds. Flwyddyn yn ddiweddarach, tra fy mod yn y rôl hon, dechreuais weithio’n rhan amser mewn clwb ieuenctid lleol. Wedyn cofrestrais ar y Dystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a llwyddo. Ym 1999 roeddwn yn ddigon ffodus i sicrhau swydd lawn amser mewn Canolfan Ieuenctid a leolwyd mewn tref, a rhoddodd hyn y cyfle imi adeiladu ar fy mhrofiad Gwaith Ieuenctid. Roeddwn yn y rôl hon am flwyddyn cyn symud i’r Gwasanaeth Ieuenctid am swydd fel Gweithiwr Ieuenctid Estyn Allan Ôl-16. Rwyf wedi bod gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid ers 8 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi cael y cyfle i fynd ar amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi, o gymwysterau sy’n gysylltiedig ag addysg awyr agored ac arweinyddiaeth chwaraeon i astudio ar gyfer gradd mewn Gwaith Ieuenctid. Hefyd rwyf wedi cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau proffesiynol, ac ar hyn o bryd rwy’n rheoli tîm o 6 Gweithiwr Ieuenctid”.
Astudiaeth Achos 3
Carys
Mae Carys, 30 oed, yn Weithiwr Ieuenctid sy’n gymwysedig yn broffesiynol, ac mae wedi bod yn gweithio ym maes Gwaith Ieuenctid ers llawer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd mae’n Weithiwr Ieuenctid mewn Ysgolion, a hefyd mae’n rheoli dau glwb ieuenctid rhan amser.
“Gadewais yr ysgol ym 1996 gyda chanlyniadau Lefel A canolig. Yr adeg honno doedd y cyngor gyrfaoedd a gynigiwyd imi ddim yn rhoi llawer o help, a ches fy nghynghori i wneud gradd yn y Gymraeg gan mai dyma fy mhwnc cryfaf yn yr ysgol. Wrth fynd i’r brifysgol, doedd dim cynlluniau iawn gennyf am fy nyfodol, ond roeddwn yn mwynhau helpu yn fy nghlwb ieuenctid lleol, ond byth yn meddwl am un eiliad y byddwn yn gallu cael gyrfa lawn amser yn y maes hwn. Yn f’arddegau cynnar roeddwn yn aelod gweithredol yn fy nghlwb ieuenctid lleol. Roedd yn glwb ieuenctid annibynnol â chysylltiadau â’r Groes Goch, a gwirfoddolwyr oedd yn ei redeg. Trwy’r clwb ieuenctid cymerais ran yng Ngwobr Dug Caeredin, gan gwblhau fy Ngwobrau Efydd, Arian ac Aur. Ar gyfer adran gwasanaeth fy Ngwobr Aur dechreuais wirfoddoli yn y clwb ieuenctid gan ganolbwyntio’n bennaf ar helpu aelodau eraill y clwb trwy’u gwobrau Efydd ac Arian. Parheais i gymryd rhan tra fy mod yn y brifysgol. Ar ôl graddio doeddwn fawr callach ynglŷn â fy newisiadau o ran gyrfa, a chymerais swydd dros dro yn yr ysbyty lleol. Eto, yn ystod yr amser hwn, es ymlaen â’r gwirfoddoli. Daeth cyfle am swydd gyda Gwobr Dug Caeredin, wedi'i lleoli yn eu pencadlys yn Aberhonddu. Gwnes gais, cael cyfweliad, a chael fy mhenodi fel Swyddog Datblygu Cymraeg; roeddwn yn y rôl hon am 2 flynedd. Er fy mod yn cael rhywfaint o gyswllt sylfaenol gyda phobl ifanc, teimlais nad oedd y rôl hon yn rhoi digon o gyfleoedd imi ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Daeth swydd yn wag gyda Gwasanaeth Ieuenctid fy Awdurdod Lleol, ac er nad oedd gennyf unrhyw gymwysterau Gwaith Ieuenctid, llwyddais a chael fy mhenodi fel gweithiwr ieuenctid mewn ysgolion. Rwyf o’r farn fod y blynyddoedd lawer o wirfoddoli wedi fy helpu gyda’m cais. Ers bod gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, rwyf wedi cael amrywiaeth o hyfforddiant a phrofiadau eraill i’m datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Gwnes y Dystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid yn fuan ar ôl cael fy nghyflogi, a hefyd cwblheais y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned. Hefyd rwyf wedi bod yn ffodus i gymryd rhan mewn nifer o brojectau ieuenctid rhyngwladol, yn ogystal â rheoli dau glwb ieuenctid rhan amser. Wrth edrych yn ôl ar f’amser yn yr ysgol a’r brifysgol, ni ddaeth i'm meddwl o gwbl y byddwn yn Weithiwr Ieuenctid. Er ei fod yn heriol ar adegau, mae bod yn Weithiwr Ieuenctid yn rhoi llawer o foddhad. Mae’n yrfa rwy’n teimlo’n gryf iawn yn ei chylch, ac yn un nad wyf yn edifarhau cychwyn arni”.
Astudiaeth Achos 4
Nia
Mae Nia, 32 oed yn Weithiwr Ieuenctid â chymhwyster proffesiynol sy’n gweithio mewn ysgol, ac yn cael ei chyflogi gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad o Waith Ieuenctid.
“Pan oeddwn i’n iau, wnes i ddim cymryd rhan mewn unrhyw glybiau ieuenctid a doedd gen i ddim syniad beth oedd gwaith Gweithiwr Ieuenctid. Ar ôl gadael ysgol, es i astudio ar gyfer gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Fodd bynnag, ychydig wythnosau ar ôl dechrau’r cwrs, daeth yn amlwg nad dyna oedd y cwrs iawn i fi. Newidiais i wedyn i astudio Addysg yng Nghaerdydd. Yn ystod blwyddyn olaf fy astudiaethau, roedd yn rhaid i mi wneud prosiect gan weithio gyda phobl ifainc. Dechreuais i wirfoddoli mewn clwb ieuenctid yn gysylltiedig ag eglwys er mwyn gwneud y prosiect. Buan y sylweddolais i mod i’n mwynhau’r math yma o waith yn fawr iawn ac fe wnes i ddal ati i wirfoddoli yn y clwb ieuenctid. Ar ôl graddio, cefais i swydd fel Gweithiwr Ieuenctid gydag Ambiwlans Sant Ioan yng Nghaerdydd, er gwaetha’r ffaith nad oedd gen i gymwysterau Gwaith Ieuenctid penodol. Yna cefais i swydd fel Cydlynydd Mentora, ac wedi hynny cefais gyfweliad llwyddiannus i ddod yn Weithiwr Ieuenctid mewn ysgol, gyda Gwasanaeth Ieuenctid Statudol yr Awdurdod Addysg Lleol. Rwyf wedi bod yn y swydd am 8 mlynedd erbyn hyn. Rwyf hefyd wedi gweithio fel Gweithiwr Ieuenctid datgysylltiedig gyda ‘Cymunedau yn Gyntaf’ am bron dwy flynedd, yn ogystal â bod yn arweinydd clwb ieuenctid lleol yn wythnosol. Mae hyn wedi rhoi cyfle i mi brofi gwahanol gyd-destunau a swyddogaethau Gwaith Ieuenctid, a gwerthfawrogi pa mor amrywiol yw Gwaith Ieuenctid mewn gwirionedd. Rwyf wedi cwblhau fy Nhystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid, ac yn dilyn hynny Ddiploma mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned mewn Coleg Addysg Uwch lleol, trwy gael fy rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod yr wythnos. Gall Gwaith Ieuenctid, yn ei holl ffurfiau, fod yn her a pheri rhwystredigaeth ar adegau, ond mae’n rhoi boddhad mawr. Gall gael effaith fawr ar fywydau pobl ifainc, er na welir hyn weithiau tan flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Rwy’n gwirioneddol fwynhau fy ngalwedigaeth ym maes Gwaith Ieuenctid a byddwn yn ei argymell yn fawr.
Astudiaeth Achos 5
Louise
Mae Louise, 26 oed yn Weithiwr Ieuenctid sy’n gweithio mewn ysgol, ac yn cael ei chyflogi gan yr Awdurdod Addysg Lleol.
“Ar ôl gorffen ysgol astudiais am radd yn y Gymraeg ac ar ôl graddio dechreuais ar gwrs hyfforddi pellach i ddod yn athrawes gynradd gymwysedig. Bûm yn ffodus i gael gwaith yn eithaf buan ar ôl graddio gyda chymhwyster TAR, ond er i mi lwyddo i ddod o hyd i waith llawn amser fel athrawes ysgol gynradd, methais â chael contract parhaol. Gwnaeth hyn i mi deimlo’n rhwystredig felly dechreuais fynd ati i chwilio am waith a fyddai’n rhoi’r sicrwydd o gontract parhaol i mi. Ochr yn ochr â dysgu mewn ysgol gynradd roeddwn yn rhedeg rhaglenni gweithgareddau dros yr haf gyda menter iaith yn y gymuned leol, ac roeddwn hefyd yn rhedeg meithrinfa ar gyfer plant 0-14 oed. Roedd hyn yn gymorth mawr i ehangu fy mhrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifainc, a helpodd hyn fi i sylweddoli fy mod eisiau gweithio gyda phobl hŷn i ddefnyddio fy sgiliau. Gwelais swydd wag gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid, es amdani a chefais fy mhenodi’n Weithiwr Ieuenctid mewn ysgol. Blwyddyn ar ôl dechrau yn y rôl hon, cefais y cyfle i gael hyfforddiant i ennill cymhwyster proffesiynol. Cwblheais fy Nhystysgrif mewn Gwaith Ieuenctid rai misoedd yn ôl, a bellach rwy’n astudio tuag at fy Niploma. Rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd hyfforddi eraill, yn cynnwys cymwysterau mewn coedwig, hyfforddiant ar iechyd rhywiol a hyfforddiant arall i’m helpu gyda Gwobr Dug Caeredin ac alldeithiau. Rwy’n mwynhau fy ngyrfa fel Gweithiwr Ieuenctid yn fawr iawn, ac yn edrych ymlaen at ennill y cymwysterau proffesiynol. Mae fy ngwaith bob dydd mor amrywiol, sydd yn crisialu hanfod Gwaith Ieuenctid. Gallwn fod yn rhoi cymorth un ag un neu’n rhedeg gweithdai llythrennedd emosiynol yn yr ysgol heddiw, a’r diwrnod wedyn yn rhedeg gweithgareddau a gweithdai yn y goedwig gan ddefnyddio dysgu trwy brofiadau, neu’n arfordiro ar y môr!”

