Barn ein Myfyrwyr

Rachel Hemmings, Cydanrhydedd Diwinyddiaeth/Astudiaethau Crefydd

Does dim Prifysgol debyg i hon, ac rwy’n amau a fyddwn i wedi cyflawni cymaint rywle arall. Mae’r gefnogaeth a gynigir wedi fy ngalluogi i gael marciau doeddwn i byth yn meddwl byddai o fewn fy ngallu.  

Mae rhywun ar gael bob amser i roi help a chyngor, mae’r darlithwyr yn gwybod pwy ydych ac maen nhw’n agored a hawdd siarad â nhw. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r dewis eang o fodylau sydd ar gael bob blwyddyn yn golygu eich bod chi’n gallu astudio’r hyn sydd wir o ddiddordeb i chi ac felly dydych chi ddim yn diflasu.

Mae’r ffaith ei bod yn brifysgol fach yn golygu ei bod yn hawdd gwneud ffrindiau, mewn neuaddau, yn y dosbarth ac o amgylch y lle, ac mae’r ysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i groesawu myfyrwyr newydd (byddwn yn argymell yn arbennig y noson caws a gwin yn ystod wythnos gyntaf y flwyddyn!).

Nicola Bevan, Anrhydedd Sengl Astudiaethau Crefyddol

Beth rwy’n ei hoffi am y Brifysgol hon yw’r ffaith ei bod yn eithaf bach o gymharu â phrifysgolion eraill; mae hyn yn golygu eich bod yn ffurfio perthynas yn gyflym gyda’r staff a myfyrwyr eraill yn eich dosbarth.

Mae gan yr Ysgol bolisi drws agored sy’n wych pan mae angen help arnoch gyda thraethodau neu os ydych chi eisiau trafod rhywbeth a ddywedwyd mewn darlithoedd. Mae modylau’r ysgol yn eang ac fe wnes i fwynhau dysgu am bob agwedd wahanol ar grefyddau.

Cawsom gyfle hefyd i weld y crefyddau hyn ar waith. Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol es i ar dripiau i Gurdwara, grwpiau Bwdhaidd ac ymweld â chymuned Hindŵaidd. Mae mwy i’r cwrs na darllen a dysgu am grefydd, rydych chi hefyd yn cael profiad o’r hyn rydych chi’n darllen ac yn dysgu amdano.