Myfyrwyr Ôl-raddedig
Bryan Allen-PhD Astudiaethau Crefyddol
Mae fy stori i’n ddigon cyffredin ymhlith bricwyr: un bore rydych chi’n brysur yn adeiladu estyniad ar dŷ pan yn sydyn rydych chi’n penderfynu y byddech chi’n hoffi mynd i Brifysgol i astudio crefydd. Yna o fewn dim rydych chi’n ysgrifennu traethawd ymchwil ar ddatblygiad damcaniaethol Mudiadau Crefyddol Newydd Cristnogol, ac mae pobl yn dechrau eich galw chi’n Ddoctor - rwy’n siŵr bod cannoedd o fricwyr ar hyd y wlad sy’n gyfarwydd iawn â stori debyg. Er fy mod â ’nhafod yn fy moch braidd wrth ysgrifennu’r disgrifiad uchod, mae’n hynod o agos at y gwir. Gwelais hysbyseb yn y wasg leol am gwrs ‘Mynediad’ oedd yn cael ei redeg trwy’r Brifysgol, ac fe wnes i benderfynu yn y fan â’r lle i holi am fwy o wybodaeth. Roedd y cwrs, oedd yn ymwneud â Mudiadau Crefyddol Newydd, yn cael ei gynnal mewn ‘portacabin’ ar gampws Pibwrlwyd, Caerfyrddin, ac yn cael ei addysgu gan Dr Sarah Lewis, rhywun sydd wedi bod yn ddylanwad mawr ar fy mywyd i byth oddi ar hynny. Holl bwrpas y cwrs oedd helpu pobl i gamu ymlaen i addysg uwch, ond i mi ar y pryd addysg uwch oedd cwrs ‘Mynediad’, felly roeddwn braidd yn ofnus pan awgrymodd Sarah y dylwn wneud cais i astudio cwrs israddedig yn y brifysgol. Felly yn ystod haf 1997 es ati i gyflwyno cais, a chefais fy nerbyn ar y rhaglen israddedig gan yr Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
Fy her nesaf oedd cwblhau’r flwyddyn gyntaf. Efallai nad yw hyn yn swnio’n uchelgeisiol iawn, ond i rywun fel fi, oedd newydd adael swydd ar safle adeiladu, fe wnaeth awyrgylch academaidd y Brifysgol i mi feddwl fwy nag unwaith a oeddwn i wir yn perthyn yno. Treuliais y rhan fwyaf o’r flwyddyn gyntaf yn rhyfeddu pa mor glyfar oedd pawb arall, ac wrth i arholiadau’r flwyddyn gyntaf agosáu teimlwn ei bod yn rhai i mi wneud y mwyaf o’m cyfle cyn i’r darlithwyr ddod i wybod y gwir amdanaf a gofyn i mi adael! Fodd bynnag, un peth na wnes i ei ystyried oedd pa mor ‘ffeind’ (o ddiffyg gair gwell) fyddai staff yr Ysgol, a faint o gefnogaeth ac anogaeth a gynigir ganddynt i bob myfyriwr yn ddiwahân. Afraid dweud i mi lwyddo i basio’r flwyddyn gyntaf, a mynd ymlaen i gwblhau’r rhaglen israddedig. Mae fy amser fel myfyriwr israddedig yn llawn atgofion arbennig o gael fy addysgu gan bobl arbennig. Wrth i mi edrych nôl nawr ar y cyfnod cynnar mae gen i atgofion annwyl iawn. I’r staff addysgu oedd yn cyflwyno’r cannoedd o ddarlithoedd a fynychais dros y tair blynedd, dim ond diwrnod arall o waith oedd hyn mae’n siŵr, ond i mi roedden nhw’n uniongyrchol gyfrifol am agor y prosesau meddwl o’m mewn na wyddwn eu bod nhw’n bodoli.
A minnau’n meddwl bod fy nghyfnod yn y Brifysgol yn dirwyn i ben, plannodd Sarah syniad yn fy mhen y dylwn i ystyried gwneud gradd ymchwil ôl-raddedig. Awgrymodd y dylwn i ddechrau ag MPhil ac yna uwchraddio i PhD. Pan sylweddolais i ei bod hi o ddifrif, dechreuais roi rhai syniadau at ei gilydd, a dyna ddechrau oriau di-rif o ymchwilio, darllen a gwaith caled go iawn: doedd gen i ddim syniad beth oedd o’m blaen. Cofrestrais ar gyfer MPhil rhan amser, ac ar ôl dwy flynedd llwyddais i uwchraddio i’r PhD. Roedd Sarah wedi cytuno i oruchwylio fy ngwaith, ac roedd hi’n wych drwy gydol y cyfnod. Ni allaf ddiolch digon iddi am ei hamynedd a’i chefnogaeth wrth i mi geisio ei barn ar y llwyth o ddeunydd a daflwn ati – ni allwn fod wedi’i wneud heb ei chymorth hi! Roedd fy viva hefyd yn brofiad dysgu gwych; roedd yn fraint cael cwrdd â Dr George Chryssides a Dr Wendy Dossett, ac i weld eu bod yn cymryd cymaint o ddiddordeb yn fy ngwaith. Er i mi ailstrwythuro’r drafft gwreiddiol yn sylweddol yn dilyn awgrymiadau George a Wendy, credaf fod eu sylwadau wedi gwella fy nhraethawd gryn dipyn.
Dyna fy hanes i felly dros y deuddeng mlynedd diwethaf, a dyma fi nawr â PhD i’m henw. Er fy mod i’n dweud hynny fy hun, rwy’n falch iawn o’r hyn rwy wedi’i gyflawni yn ystod fy nghyfnod ar gampws Llambed, ond os byddaf byth yn troi’n ‘fi fawr’ annioddefol fel ‘Dr Allen’ byddaf yn cofio’r briciwr a fynychodd ddiwrnod cyntaf y cwrs ‘Mynediad’. Diolch o galon i Sarah sydd wedi bod gyda mi ar y daith hon o’r diwrnod cyntaf un - felly os oes yna wahaniaeth rhwng y ‘fi’ ar y diwrnod arbennig hwnnw a’r un sydd bellach â gradd PhD, yna iddi hi mae’r diolch am y cwbl a’r holl bobl arbennig rydw i wedi cael y fraint o’u cwrdd yn y sefydliad ardderchog hwn. Diolch yn fawr i’r Brifysgol!

