‘Crefydd yn y Cyfryngau’: Cynhadledd Flynyddol Gregynog 2009/10
Mae Sara Mullery, myfyrwraig Astudiaethau Crefyddol ar ei hail flwyddyn, yn bwrw golwg yn ôl ar ei deuddydd yng Ngregynog, Canolbarth Cymru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Gregynog a drefnwyd gan yr Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd yn y Brifysgol.
Bob blwyddyn bydd yr Ysgol yn cynnal cynhadledd breswyl ddeuddydd ym mhlasty Gregynog sy’n perthyn i Brifysgol Cymru, ac yn ystod y gynhadledd mae myfyrwyr a staff yn cael cyfle i glywed siaradwyr gwadd yn annerch ar amrywiaeth o bynciau cyfoes.
Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Crefydd yn y Cyfryngau’ ac roedd y cynadleddwyr yn ddigon lwcus i glywed darlithiau a draddodwyd gan y staff ar bynciau megis Ymgyrch Bws yr Anffyddwyr, Crefydd yn y Papurau Newydd Safonol, a’r Mosg Bach ar y Paith.
Uchafbwynt y daith flynyddol fodd bynnag yw’r dasg a osodir bob blwyddyn lle bydd yr holl fyfyrwyr yn cystadlu er mwyn ennill gwobrau a dod adref â theitl Pencampwr Gregynog. Y dasg a osodwyd ar gyfer Gregynog 2009 oedd gweithgaredd grŵp i greu cyfres deledu newydd wedi’i seilio ar grefydd, boed yn gyfres ddrama, neu’n gyfres ddogfen. Roedd amrywiaeth a safon y syniadau a gyflwynwyd yn eithriadol, yn cynnwys llawer o ddramâu a leolwyd yn y Brifysgol, ond hefyd rhaglenni megis 'Faith Swap' a 'Last Vicar Standing'.
Un grŵp a aeth i’r rownd derfynol oedd ‘Three Men in a Teapot’ sef cyfeiriad at gydweddiad Bertrand Russell o’r tebot nefolaidd. Mae hyn yn digwydd mewn cartref ymddeol i’r rhai â dawn academaidd ac yn actio ynddo roedd fersiynau oedrannus o Greg Barker, Amjad Hussain a Stephen Gregg gydag Ainsley, Caplan yn y Brifysgol, yn actio hefyd fel gweinyddes y te. Roedd y cymysgedd hwn o ddadlau academaidd, gwrthdaro crefyddol a chwarae castiau gan Amjad yn apelio at egos y tîm darlithio ac yn sicrhau bod pawb yn chwerthin nerth ei ben.
Roedd enillwyr y gystadleuaeth wedi meddwl am ‘Lock Down’, cyfres oedd yn delio â chanlyniadau digwyddiad gyda therfysgwyr mewn maes awyr sydd yn cael ei gau lawr yn ddisymwth, a’r staff a chwsmeriaid yn gosod darnau’u sefyllfa at ei gilydd heb gysylltiad â’r cyfryngau na gwybodaeth o’r tu allan. Aeth yr ail a'r drydedd wobr at grewyr 'Holy Landlord' a chyfres ddogfen oedd yn delio ag awyrfilwr Prydeinig yn glanio yn glatsh yn Afghanistan ar ganol y rhyfel a’r effaith mae ffydd Islamaidd ei achubwyr yn ei chael ar ei gred Gristnogol ei hun. Unwaith eto roedd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn o ran croesawu myfyrwyr newydd y flwyddyn gyntaf i'r Ysgol ac roedd yn brofiad pleserus i bawb.

