Mae’r Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd yn Cyflwyno
‘Crefydd a’r Cyfryngau’
Cynhaliwyd y gynhadledd ‘Crefydd a’r Cyfryngau’ eleni ar 5 a 6 Tachwedd ar Gampws Caerfyrddin ac Ysgol Basaleg yng Nghasnewydd. Roedd y ddwy Gynhadledd yn gymaint o lwyddiant fel y cynhaliwyd un arall yn Abertawe yn Ysgol Esgob Gore ar 18 Tachwedd 2009.
Roedd cyfanswm o oddeutu 750 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y cynadleddau. Cafodd y cynadleddau ‘Crefydd a’r Cyfryngau’ eu teilwra’n berffaith ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Crefyddol Safon Uwch a TGAU. Roedd y gynhadledd yn caniatáu i’r myfyrwyr roi ystyriaeth ddyfnach i un o faterion mwyaf pwysig ein cyfnod: portreadu Crefydd yn y Cyfryngau.
Roedd y Cynadleddau’n cwmpasu themâu’n gysylltiedig â phortreadu crefydd yn y papurau newydd safonol Prydeinig, hysbysebu cyfoes,Hollywooda’r teledu.
Prif anerchiadau’r Cynadleddau oedd ‘The Atheist Bus’, ‘Tom Cruise Religion’ ac ‘Islam in the Media’. Fe’u traddodwyd gan Dr Greg Barker, Stephen Gregg a Dr Amjad Hussain.
Roedd y myfyrwyr, y darlithwyr, llysgenhadon myfyrwyr a’r athrawon oll wedi mwynhau’r ysgogiad i’r deall a’r integreiddio ar syniadau.
Ategwyd y cynadleddau gan ginio i’r athrawon fel rhan o’r digwyddiad a oedd yn gyfle i fyfyrwyr gymysgu â chyd-athrawon a siaradwyr y gynhadledd.
Daeth pob cynhadledd i ben gyda raffl llyfrau ac aeth nifer o fyfyrwyr ac athrawon lwcus adref â gwobrau. Cynhadledd undydd flynyddol arall a oedd yn llwyddiannus eleni oedd ‘Duw ar Brawf – y prif ddadleuon’. Fe’i cynhaliwyd yn Ysgol Tre-gŵyr a roddodd wahoddiad i DACI ar 20 Hydref 2009 i gynnal y digwyddiad hwn yn yr ysgol ar gyfer holl fyfyrwyr y 6ed dosbarth.
Roedd y digwyddiad newydd hwn i fyfyrwyr 6ed dosbarth yn sbardun i drafodaeth ar draws Cymru. Mae cannoedd o fyfyrwyr 6ed dosbarth ar draws Cymru bellach wedi bod yn dyst i ‘Duw ar Brawf’, y cyflwyniad newydd gan staff yr Ysgol yn y Brifysgol.
Mae ‘Duw ar Brawf’ yn cyflwyno myfyrwyr i gadair wag. Mae barnwr yn cyhoeddi bod y prawf o fodolaeth Duw ar fin dechrau ac mai’r myfyrwyr yw’r rheithgor. Bu Lynda Maddock yn actio bargyfreithiwr yr amddiffyniad a Dr Greg Barker yn actio bargyfreithiwr yr erlyniad. Meddai Greg ‘Mae'n wych gweld y myfyrwyr yn bywiogi ac yn dadlau gyda'r amddiffyniad neu'r erlyniad. Fel bargyfreithiwr yr erlyniad weithiau câi fy nadleuon eu gwrthod gan y rheithgor ar sail emosiynol yn ogystal â sail ddeallusol.
Mae staff yn dweud bod hwn yn gyfrwng gwych i ddod ag Athroniaeth Crefydd yn fyw i fyfyrwyr. Daw’r diwrnod i ben gyda’r rheithgor yn datgan ei reithfarn.
Ydy Duw yn bodoli?
‘Rhaid i chi ddod a phrofi’r digwyddiad er mwyn cael gwybod’ – meddai’r staff

