Mudiadau Crefyddol Newydd: Cynhadledd Flynyddol Gregynog 2008/09
Mae Sara Mullery a Chris Knight, ein myfyrwyr Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Grefyddol yn y flwyddyn gyntaf, yn bwrw golwg yn ôl ar eu harhosiad deuddydd yng Ngregynog, Canolbarth Cymru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Gregynog a drefnwyd gan yr Ysgol.
Mae’n amheus gen i ai fi oedd yr unig un i deimlo ychydig yn nerfus am dreulio noson gyda grŵp o bobl prin fy mod yn eu ‘nabod, ac mewn lle nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o’r blaen, ond diflannodd f’ofnau yn gyflym. Mae Gregynog yn llythrennol ynghanol unman, wedi’i osod mewn 700 erw o dir, i ffwrdd o unrhyw ymyriadau eraill. Roedd y rhan fwyaf ohonom yn y flwyddyn gyntaf, yn enwedig y rhai oedd yn byw oddi ar y campws, yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i ddod at ein gilydd a gwneud ffrindiau newydd. Roedd y daith yn y bws a’r bar yn y seler yn gymorth inni gyd ddod i 'nabod ein gilydd a rhai o'r myfyrwyr yn yr ail a'r drydedd flwyddyn hefyd.
Yn ogystal â chymdeithasu, roeddem yno i astudio hefyd. Thema’r gynhadledd oedd Mudiadau Crefyddol Newydd, gyda nifer o seminarau’n gysylltiedig â’r pwnc hwn. Araith gan sylfaenwyr Eglwys Jediyddiaeth (Ie – fel yn y ffilm Star Wars) oedd y fwyaf diddorol, ac roeddynt yn llawn angerdd am eu crefydd ond yn agored i holi caled gan fyfyrwyr a staff. Hefyd bu rhaid inni greu ein crefydd newydd ein hun, gyda gwobr am y syniad gorau – yn anffodus dim ond llwyddo i ddod yn ail y gwnaeth fy nghrefydd innau ‘Chwaraeonyddiaeth’.
Buom yn siarad ac yn chwerthin am Regynog ar hyd y flwyddyn, a rhoddodd gyfle arbennig inni ddod i ‘nabod pobl. Roedd y seminarau’n ddefnyddiol ac yn berthnasol i’n cwrs. Alla i ddim aros am y flwyddyn nesaf!
Chris Knight
BA Addysg Grefyddol
Roedd mynd i ffwrdd am gynhadledd ddeuddydd yn ddechrau gwych i'r flwyddyn. Gyda dim ond pythefnos ers cychwyn y cwrs roeddem i gyd wedi defnyddio'r cyfle hwn i glosio at ein gilydd ac yn dal i siarad amdano nawr. Ar y cyd â chyfres o ddarlithoedd gwych, gan gynnwys un a gyflwynwyd gan Eglwys y Jedi, bu cyfle i bob myfyriwr gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘creu’ch crefydd eich hun’. Roedd hyn o arwyddocâd personol mawr gan fod fy nghrefydd innau wedi cyrraedd y rownd derfynol a bu rhaid imi ei chyflwyno i’r holl gynhadledd; camp a fyddai’n bwrw ofn ar unrhyw fyfyriwr newydd, ond un a oedd yn fodd i’m paratoi am y flwyddyn lawn o lwyddiant oedd i ddilyn. Daeth y daith hon â phawb ynghyd gan roi blas inni o’r hyn oedd i’w ddisgwyl wrth fod yn fyfyriwr yn y Brifysgol.
Sarah Mullery
BA Astudiaethau Crefyddol

